Skip to content
Ar y dudalen hon

1.1 Rhagarweiniad

1.1.1 Pwrpas y ddogfen hon


1.1.1.1 Mae Mona Offshore Wind Ltd (yr Ymgeisydd), sy’n fenter ar-y-cyd rhwng bp Alternative Energy Investments Ltd (y cyfeiriwn ato fel bp o hyn ymlaen) ac Energie Baden- Württemberg AG (y cyfeiriwn ato fel EnBW o hyn ymlaen), yn datblygu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Mae Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n fferm wynt ‘ar y môr’ arfaethedig yn nwyrain Môr Iwerddon (Ffigwr 1.1).

1.1.1.2 Mae’r ddogfen hon yn Grynodeb Annhechnegol (NTS) o’r Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol (PEIR). Mae’r PEIR yn cynnwys y wybodaeth amgylcheddol ragarweiniol ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona ac yn nodi canfyddiadau diweddaraf yr Asesiad o Ganlyniadau i’r Amgylchedd (EIA) er mwyn ategu’r gwaith ymgynghori cyn-cais sydd ei angen o dan Ddeddf Gynllunio 2008 (Deddf 2008). Bydd yr EIA yn cael ei ddrafftio’n derfynol ar ôl cwblhau’r ymgynghori cyn-cais a’r Datganiad Amgylcheddol. Bydd yr EIA terfynol, ynghyd â’r NTS wedi’i ddiweddaru, yn rhan o’r cais am ganiatâd.

1.1.1.3 Pwrpas yr NTS hwn yw bod yn ddogfen ar wahân sy’n rhoi trosolwg ar Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona a chanlyniadau arwyddocaol tebygol Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, a hynny mewn iaith annhechnegol. Mae’r PIER llawn ar gael yn:

1.1.2 Cyflwyno Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona


1.1.2.1 Daeth yr Ymgeisydd i Gytundeb i Brydlesu (AfL) gwely’r môr gan Ystâd y Goron ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn gynnar yn 2023. Mae Ardal Arae Mona (hynny yw, yr ardal y bwriedir lleoli tyrbinau gwynt ar y môr ynddi) yn 449.97km2 ac wedi’i lleoli tua 28.2km (15.2nm) oddi ar arfordir Ynys Môn, 39.9km (21.5nm) oddi ar arfordir gogledd- orllewin Lloegr a 42.6km (23nm) oddi ar Ynys Manaw. Lleolir Ardal Arae Mona’n bennaf yn nyfroedd oddi ar arfordir Cymru (mwy na 12nm oddi ar arfordir Cymru), gyda rhannau bach o’r terfyn wedi eu lleoli yn nyfroedd oddi ar arfordir Lloegr (mwy na 12nm oddi ar arfordir Lloegr) (Ffigwr 1.1).

1.1.2.2 Bydd y ceblau allforio tanddwr (sy’n cludo’r trydan o Ardal Arae Mona i’r lan), a gwaith cysylltiedig o fewn a rhwng Ardal Arae Mona a’r lanfa, yn cael eu llwybro drwy Goridor Ceblau Tanddwr Mona, sy’n gorgyffwrdd â dyfroedd agos i’r lan ac oddi ar arfordir Cymru. Bydd y ceblau allforio ar y lan a’r is-orsaf ar y lan yn cael eu lleoli yn Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona, sydd yng Nghonwy a Sir Ddinbych yng ngogledd Cymru.

1.1.2.3 Roedd Adroddiad Cwmpasu Mona yn disgrifio’r dull neu gynllun ar gyfer paratoi’r EIA gyda’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) ym Mai 2022. Derbyniodd yr Ymgeisydd ymatebion gan randdeiliaid ar ffurf Barn Gwmpasu ym Mehefin 2022 (Arolygiaeth Gynllunio, 2022) ac yn 3ydd Chwarter 2022, cafodd yr Ymgeisydd gyfarfodydd anffurfiol â rhanddeiliaid i drafod eu hadborth yn fwy manwl a diwygio’r cynnig cyn ymgynghori’n ffurfiol ar y PEIR.

1.1.2.4 Cyflwynir y broses dewis safle ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn adran 1.5 gyda disgrifiad mwy manwl o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn adran 1.4.

1.1.3 Strwythur yr Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol


1.1.3.1 Mae’r PEIR yn cynnwys penodau ar wahân ar elfennau ar y môr, ac ar y lan, yr EIA. I bwrpas yr EIA (gan gynnwys y PEIR), mae ‘ar y môr’ yn cyfeirio’n gyffredinol at dderbynyddion (rhywrai yr effeithir arnynt) ar ochr y môr i MHWS, ac ‘ar y lan’ yn cyfeirio at dderbynyddion ar ochr y tir i Benllanw Cymedrig y Gorllanw (MHWS) ond mae rhai eithriadau lle y mae gwaith yn yr ardal ryng-lanwol (rhwng llanw a thrai) yn debygol o achosi canlyniadau i dir uwchlaw’r MHWS. Yn yr ardal ryng-lanwol rhwng y MHWS a Thrai Cymedrig y Llanw (MLWS), mae awdurdodaeth y cyfundrefnau caniatâd a rheoliadol ar gyfer y môr a’r tir yn gorgyffwrdd.

1.1.3.2 Rhennir y PEIR yn wyth cyfrol:

  • Cyfrol 1: Rhagarweiniad
  • Cyfrol 2: Penodau ar y môr
  • Cyfrol 3: Penodau ar y lan
  • Cyfrol 4: Penodau cyfunol ar y môr ac ar y lan
  • Cyfrol 5: Atodiadau cyflwyno
  • Cyfrol 6: Atodiadau ar y môr
  • Cyfrol 7: Atodiadau ar y lan
  • Cyfrol 8: Atodiadau cyfunol ar y môr ac ar y lan.

1.1.4 Amdan yr ymgeisydd


1.1.4.1 Mae’r Ymgeisydd yn fenter ar-y-cyd rhwng dau gwmni ynni blaenllaw (bp ac EnBW). Mae’r ddau gwmni’n gweithio gyda’i gilydd fel partneriaid i ddarparu prosiectau gwynt ar y môr yn y DU. mae gan bp uchelgais i fod yn gwmni sero net erbyn 2050, neu’n gynt. Bydd y strategaeth hon yn gweld bp yn trawsnewid i fod yn gwmni olew rhyngwladol sy’n cynhyrchu olew a nwy i fod yn gwmni ynni integredig sy’n cynnig atebion ynni ehangach i gwsmeriaid. Mae EnBW yn un o’r cwmnïau cyflenwi ynni mwyaf yn yr Almaen gan gyflenwi atebion trydan, nwy, dŵr ac ynni ynghyd â gwasanaethau diwydiant ynni i tua 5.5 miliwn o gwsmeriaid. Mae gan y cwmni weithlu o dros 23,000. Nod EnBW yw cryfhau ei safle fel partner seilwaith cynaliadwy ac arloesol ar gyfer cwsmeriaid, dinasyddion ac awdurdodau lleol.

1.1.5 Sut y gallwch gymryd rhan


1.1.5.1 Pwrpas y PEIR hwn yw rhoi cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ddeall natur, graddfa, lleoliad a chanlyniadau amgylcheddol arwyddocaol tebygol Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona er mwyn gallu gwneud cyfraniad gwybodus i’r broses ymgynghori cyn-cais a phroses yr EIA. Mae’n bwysig nodi bod y PEIR yn cynnwys gwybodaeth ragarweiniol fydd yn cael ei diweddaru gyda chanlyniadau arolygon pellach ac mewn ymateb i’r adborth o’r ymgynghoriad yn y Datganiad Amgylcheddol terfynol. Bydd yr Ymgeisydd yn gweithio’n galed i holi barn am y PEIR gan ymgyngoreion statudol, cymunedau lleol a phartïon budd eraill. Rhoddir mwy o fanylion am sut i gymryd rhan yn adran 1.11 below.

Figure 1.1

Ffigwr 1.1: Lleoliad Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona