Skip to content
Ar y dudalen hon

1.2 Yr angen am Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona

1.2.1 Newid hinsawdd ac ynni adnewyddadwy


1.2.1.1 Mae gan lywodraeth y DU uchelgais i gynhyrchu 50GW o ynni glân, adnewyddadwy o wynt ar y môr erbyn 2030. Yn ôl ffigurau a ryddhawyd gan BEIS yn Rhagfyr 2022, ar hyn o bryd mae gan y DU 13.1GW o gapasiti ynni ar y môr yn ei le. Mae yna gryn ffordd i fynd i gyrraedd y targed. Mae gan Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona felly rôl allweddol i’w chwarae mewn helpu’r DU i gyflawni ei huchelgais sero net ac, yn benodol, i gyrraedd ein hamcanion cynhyrchu gwynt ar y môr.

1.2.1.2 Uchelgais y DU yw arwain y byd ar fynd i’r afael â newid hinsawdd, dibynnu llai ar danwyddau ffosil a chofleidio dyfodol lle y mae ynni adnewyddadwy’n pweru ein cartrefi a’n busnesau. Yng nghanol yr ymgyrch hon yw ymrwymiad i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) yn y DU, a chyrraedd sero net. O dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008, ymrwymodd y DU i 80% o leihad net mewn allyriadau GHG erbyn 2050 o’i gymharu â’r data sylfaenol yn 1990, yn unol ag ymrwymiad Protocol Kyoto. Ym Mehefin 2019, pasiwyd is-ddeddfwriaeth (Gorchymyn Deddf Newid Hinsawdd 2008 (Diwygio Targed 2050) yn ymestyn y targed hwnnw i 100% o leiaf o’i gymharu â data sylfaenol1990. Er mwyn i’r DU gyflawni’r uchelgais, bydd angen iddi weithio â datblygwyr i gefnogi cynigion i gynhyrchu ynni glân, adnewyddadwy yn y DU. Oherwydd mai’r bwriad yw gweld Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n weithredol erbyn 2030, byddai’n cyfrannu’n sylweddol at gyrraedd y nod.

1.2.1.3 Ar 7 Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei strategaeth diogelu ynni (BEIS a Swyddfa’r Prif Weinidog, 2022). Mae’r strategaeth hon yn adeiladu ar darged sero net y DU gan ddibynnu’n drwm ar gael cyflenwad o ynni adnewyddadwy a charbon isel er mwyn ‘dod â phŵer glân, fforddiadwy a sicr i bobl am genedlaethau i ddod...’. Nod y strategaeth yw cyflymu’r gwaith o ddarparu gwynt ar y môr drwy sefydlu Tasglu Cyflymu Gwynt Ar y Môr i weithio ar leihau’r amseroedd caniatâd a darparu ar gyfer prosiectau gwynt ar y môr a ‘charlamu’ prosiectau blaenoriaeth. Yn benodol, mae’r strategaeth yn cyflwyno uchelgais i ddarparu hyd at 50GW o wynt ar y môr erbyn 2030, cynnydd ar y targed blaenorol o 40GW. Byddai Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n dod â phŵer glân, fforddiadwy a sicr i filiynau o gartrefi ac yn brosiect allweddol i ddarparu 50GW o wynt ar y môr erbyn 2030.

1.2.1.4 Ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei dogfennau Llwybr i Ddylunio Rhwydwaith Holistig 2030 yn disgrifio’r dull a oedd i’w ddefnyddio i gysylltu 50GW o wynt morol i rwydwaith trydan y DU (National Grid ESO, 2022).