Skip to content
Ar y dudalen hon

1.4 Disgrifiad o’r prosiect


1.4.1.1 Mae’r rhan yma o’r NTS yn rhoi disgrifiad amlinellol o ddyluniad seilwaith Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, yn ogystal â gweithgareddau’n gysylltiedig â chamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

1.4.1.2 Mae’n bwysig nodi ei bod yn ddyddiau cynnar ar y broses o ddatblygu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona ac mae’r disgrifiad felly’n ‘ddangosol’ ac wedi’i ddylunio i gynnwys hyblygrwydd er mwyn caniatáu ar gyfer diwygio’r prosiect ymhellach yn ystod y cam dylunio manwl ôl-ganiatâd. Mae gwynt ar y môr yn ddiwydiant sy’n esblygu’n barhaus gyda ffocws cyson ar leihau costau a gwelliannau technoleg a methodolegau adeiladu’n digwydd yn aml. O’r herwydd, mae angen hyblygrwydd er mwyn gallu mabwysiadu technoleg a dulliau newydd.

1.4.2 Trosolwg ar y seilwaith


1.4.2.1 Dangosir prif elfennau Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn Figure 1.2. Mae prif elfennau Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn cynnwys:

  • Tyrbinau gwynt ar y môr
  • Sylfeini (ar gyfer y tyrbinau gwynt a’r llwyfannau is-orsaf ar y môr (OSPs)
  • Ceblau rhyng-arae i gysylltu’r tyrbinau gwynt i’r llwyfannau OSP
  • Deunyddiau i atal y sylfeini a’r ceblau rhag erydu, lle bo angen
  • Elfennau’r system trawsyrru Cerrynt Tonnog Foltedd Uchel (HVAC), yn cynnwys:
    • Llwyfannau OSP
    • Cebl(au) rhyng-gysylltu tanddwr
  • Ceblau allforio tanddwr
  • Pyllau Cymalu (i gysylltu’r ceblau tanddwr i’r ceblau ar y lan)
  • Ceblau allforio ar y lan
  • Is-orsaf ar y lan
  • Cysylltu i Is-orsaf bresennol y Grid Cenedlaethol ym Modelwyddan.

1.4.2.2 Bwriedir dechrau ar y gwaith o adeiladu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn 2026 gan ddisgwyl i’r prosiect fod yn llawn weithredol erbyn 2030 er mwyn gwneud cyfraniad hanfodol i dargedau ynni adnewyddadwy Llywodraeth y DU.

Figure 1.2

Ffigwr 1.2: Trosolwg ar seilwaith Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona

1.4.3 Arolygon ymchwiliadau safle cyn-adeiladu


1.4.3.1 Yn ogystal â’r gwaith a wnaed hyd yma, bydd arolygon ymchwiliadau safle cyn- adeiladu’n cael eu gwneud i roi gwybodaeth fanwl am yr amodau ar wely’r môr ac i adnabod unrhyw rwystrau neu beryglon posib a allai fod yn bresennol. Mae’n debyg y bydd yr arolygon ymchwiliadau safle cyn-adeiladu’n cynnwys arolygon geoffisegol a geodechnegol oddi mewn i Ardal Arae Mona a Choridor Ceblau Tanddwr Mona.

1.4.4 Tyrbinau gwynt


1.4.4.1 Bydd Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n cynnwys hyd at 107 o dyrbinau gwynt gyda nifer derfynol y tyrbinau i’w benderfynu yn ystod y cam dylunio manwl ôl-ganiatâd (wele Table 1.1). Bydd y tyrbinau gwynt yn seiliedig ar ddyluniad tyrbinau gwynt traddodiadol, gydag echel rotor lorweddol a thri llafn.

ParamedrTyrbin gwynt lleiafTyrbin gwynt mwyaf
Nifer y tyrbinau10768
Uchder isaf blaen y llafn isaf
uwchlaw’r Llanw Astronomegol (LAT) (m)
3434
Uchder y blaen llafn uchaf uwchlaw’r LAT (m)293324
Uchafswm diamedr llafn y rotor (m)250280

Tabl 1.1: Uchafswm y paramedrau dylunio: tyrbinau gwynt

1.4.5 Llwyfannau is-orsaf ar y môr


1.4.5.1 Bydd y llwyfannau OSP yn cynnwys y cyfarpar sydd ei angen i drosi’r trydan a gynhyrchir gan y tyrbinau gwynt yn foltedd uwch i’w gludo drwy’r ceblau allforio tanddwr i’r lan. Gallent hefyd gynnwys cyfarpar a chyfleusterau ‘eilaidd’ ar gyfer gweithredu, cynnal a chadw a rheoli’r OSP. Maen nhw’n debygol o fod ag un dec neu fwy, llwyfan hofrennydd, craeniau ac antenau cyfathrebu.

1.4.5.2 Bydd angen hyd at bedwar OSP ar wahân, i gyd i gael eu lleoli o fewn Ardal Arae Mona. Bydd yr union leoliadau’n cael eu penderfynu yn ystod y cam dylunio manwl ôl- ganiatâd. Bydd y lleoliadau’n ystyried amodau gwely’r môr a’r llwybr mwyaf effeithlon ar gyfer y ceblau, ymhlith pethau eraill. Fel arfer adeiladir llwyfan OSP drwy osod strwythur y sylfeini, yna codir yr is-orsaf ei hun oddi ar fad neu gwch cludo a’i gosod ar ben y sylfaen.

1.4.6 Sylfeini ar gyfer y tyrbinau gwynt a’r llwyfannau OSP


1.4.6.1 Bydd y tyrbinau gwynt a’r OSPs yn cael eu gosod ar wely’r môr gyda strwythurau sylfaen. Mae angen i’r Ymgeisydd fod yn hyblyg wrth ddewis sylfeini i sicrhau y gall dyluniad terfynol Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona ganiatáu ar gyfer unrhyw newidiadau yn y dechnoleg sydd ar gael.

1.4.6.2 Y mathau o sylfeini sy’n cael eu hystyried ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona yw’r rhai yn Table 1.2 a Figure 1.3 at Figure 1.6

Opsiwn sylfeiniTyrbinau gwyntLlwyfannau OSP
Uchafswm nifer y strwythurau1074
Un-bolynYesYes
Siaced polyn pin 3 coesYesYes
Siaced polyn pin 4 coesYesYes
Siaced polyn pin 6 coesNoYes
Siaced polyn bwced 3 coes sugnolYesYes
Siaced polyn bwced 4 coes sugnolYesYes
Siaced polyn bwced 6 coes sugnolNoYes
Sylfaen disgyrchiantYesYes

Tabl 1.2: Opsiynau sylfeini ar gyfer y tyrbinau gwynt a’r llwyfannau OSP

Figure 1.3

Ffigwr 1.3: Cynllun o ddyluniad sylfaen un-bolyn

Figure 1.4

Ffigwr 1.4: Cynllun o sylfaen siaced polyn pin

Figure 1.5

Ffigwr 1.5: Cynllun o sylfaen siaced bwced sugnol

Figure 1.6

Ffigwr 1.6: Cynllun o sylfaen disgyrchiant

1.4.7 Ceblau allforio tanddwr


1.4.7.1 Er bod Coridor Ceblau Tanddwr Mona wedi cael ei adnabod, ni phenderfynwyd eto ar union lwybr y ceblau allforio tanddwr – bydd hyn yn dibynnu ar wybodaeth o arolygon geoffisegol a geodechnegol.

1.4.7.2 Bydd angen hyd at bedwar cêbl allforio tanddwr, gyda foltedd o hyd at 275kV, ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Bydd Coridor Ceblau Tanddwr Mona’n hyd at 90km o hyd a 1.5km o led. Bydd pob cêbl allforio tanddwr hefyd yn cynnwys cêbl ffeibr-optig ar gyfer cyfathrebu. Lle bo’n bosib, bydd y ceblau’n cael eu claddu o dan wely’r môr yr holl ffordd i’r lanfa.

1.4.8 Ceblau allforio ar y lan


1.4.8.1 Bydd y ceblau allforio tanddwr yn cysylltu i’r ceblau allforio ar y lan yn y pyllau cymalu, gan drosglwyddo’r trydan i’r is-orsaf ar y lan. Bydd y ceblau allforio ar y lan yn cael eu claddu ar eu hyd. Ni fwriedir gosod gwifrau uwchben ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

1.4.8.2 Cymerir y bydd angen pedwar cylched cêbl ar y mwyaf fel yr uchafswm paramedr dylunio ar gyfer yr asesiad amgylcheddol. Bydd pob cylched cêbl yn cynnwys tri chêbl gan roi cyfanswm o hyd at 12 cêbl. Ar ôl eu gosod, bydd y ceblau’n cymryd lle coridor tua 30m o led, er y gallai’r lled hwn newid os bydd rhwystrau’n cael eu darganfod.

1.4.8.3 Bydd y ceblau allforio ar y lan yn cael eu lleoli yn Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona. Ar hyn o bryd, disgwylir i’r ceblau ddilyn llwybr i’r de o’r lanfa a phasio i’r gorllewin o Abergele (Figure 1.7).

1.4.8.4 Bydd Coridor Ceblau ar y Lan Mona’n tua 18km o hyd. Bydd y ceblau’n cael eu claddu i ddyfnder targed o 1.8m. Gallai’r dyfnder claddu hwn fod yn ddyfnach os oes angen i’r llwybr groesi o dan bethau fel piblinellau, draeniau tir, priffyrdd neu afonydd. Bydd Coridor Ceblau Ar y Lan Mona’n hyd at 100m o led (gan gynnwys lled dros dro’r gwaith adeiladu).

1.4.8.5 Bydd angen i ran arall o’r ceblau allforio ar y lan o dan y ddaear gysylltu is-orsaf ar y lan Mona i is-orsaf bresennol y Grid Cenedlaethol ym Modelwyddan. Cyfeirir at hwn fel ‘Cêbl Cysylltu Grid 400kV Mona’ a bydd yn cael ei leoli o fewn Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona.

1.4.8.6 Bydd y rhan yma o’r ceblau’n debyg o ran dyluniad i’r Coridor Ceblau Ar y Lan: bydd tua 3km o hyd a hyd at 60m o led (gan gynnwys lled dros dro’r gwaith adeiladu).

Figure 1.7

Ffigwr 1.7: Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona

1.4.9 Is-orsaf ar y lan


1.4.9.1 Bydd Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn cysylltu i’r grid cenedlaethol yn is-orsaf Bodelwyddan i’r de o dref y Rhyl yng Ngogledd Cymru. Cynigiwyd dau leoliad yn yr adroddiad PEIR – Is-orsaf ar y Lan (LSS) Opsiwn 2 sy’n union i’r de o is-orsaf Bodelwyddan, ac LSS Opsiwn 7 sydd i’r dwyrain o is-orsaf Bodelwyddan wrth ymyl Pen-rhew ac i’r de-ddwyrain o dref Llanelwy.

1.4.9.2 Bydd yr is-orsaf ar y lan yn cynnwys yr elfennau trydanol fydd yn trosi’r trydan o’r fferm wynt ar y môr yn drydan 400kV gan addasu ansawdd y trydan a’r ffactor trydan, fel sy’n ofynnol er mwyn cwrdd â Chod Grid y Deyrnas Unedig i gyflenwi i’r grid cenedlaethol.

1.4.9.3 Mae is-strwythurau adeilad yr is-orsaf ar y lan yn debygol o fod wedi eu gwneud o ddur a deunyddiau cladin. Bydd y gwaith dur strwythurol yn cael ei greu a’i baratoi oddi ar y safle, a’i gludo i’r safle i’w adeiladu.

1.4.9.4 Bydd Cynllun Hydrolegol, Ecolegol a Rheoli Tirlun yn cael ei baratoi ar gyfer safle’r is-orsaf ar y lan, yn disgrifio’r mesurau lliniaru ar gyfer sgrinio, cynefinoedd ecolegol a rheoli dŵr sy’n rhedeg oddi ar y wyneb. Bydd hwn yn cael ei gyflwyno gyda’r cais am ganiatâd.

1.4.10 Y cam gweithredol a chynnal a chadw


1.4.10.1 Paratoir y strategaeth derfynol ar gyfer y camau gweithredol a chynnal a chadw unwaith fydd lleoliad y gwaith gweithredol a chynnal a chadw, a manyleb dechnegol Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, yn hysbys, gan gynnwys y math o dyrbin gwynt a’r cynllun llawr terfynol. Bydd y gofynion gweithredol a chynnal a chadw ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn cael eu disgrifio mewn Cynllun Gweithredol / Cynnal a Chadw amlinellol, fydd yn cael ei gyflwyno gyda’r cais am ganiatâd.

1.4.11 Y cam datgomisiynu


1.4.11.1 Bydd y gwaith datgomisiynu fel rheol yn dilyn trefn y gwaith adeiladu, ond o chwith, ac yn cynnwys mathau / niferoedd tebygol y llongau a chyfarpar. O dan Ddeddf Ynni 2004, rhaid i gynllun datgomisiynu gael ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Sicrwydd Ynni a Sero Net cyn i Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona gael ei adeiladu, ac fel arfer yn cael ei baratoi yn y cam ôl-ganiatâd. Bydd y Cynllun Datgomisiynu a’r rhaglen ar ei gyfer yn cael eu diweddaru drwy gydol oes Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona er mwyn ystyried unrhyw newid i reoliadau, ymarfer gorau a thechnoleg newydd.

1.4.11.2 Bydd y tyrbinau’n cael eu tynnu gydag unrhyw sylfeini polion yn debygol o gael eu torri i tua 1m o dan wely’r môr.

1.4.11.3 Bydd y ceblau allforio tanddwr, rhyng-arae a rhyng-gysylltu’n cael eu tynnu a’u gwaredu ar y lan. Ar hyn o bryd mae’n anodd rhagweld pa dechnegau fydd yn cael eu defnyddio i dynnu’r ceblau fel rhan o’r datgomisiynu.

1.4.11.4 Disgwylir i’r ceblau allforio ar y lan gael eu gadael yn eu lle i leihau unrhyw aflonyddwch amgylcheddol yn ystod datgomisiynu. Bydd pennau’r ceblau’n cael eu torri, selio a’u claddu’n ddiogel fel mesur ‘rhag ofn’ ac unrhyw seilwaith uwchlaw’r ddaear yn cael ei dynnu.

1.4.11.5 Bydd datgomisiynu’r is-orsaf ar y lan yn cael ei adolygu drwy drafod â gweithredwr y system drawsyrru a’r corff rheoleiddio, ar ôl ystyried unrhyw ddefnydd presennol neu bosib arall i’r is-orsaf yn y dyfodol. Os oes angen datgomisiynu popeth, bydd yr holl seilwaith trydanol yn cael ei dynnu ac unrhyw wastraff o hynny’n cael ei waredu’n unol â’r rheoliadau perthnasol.