Y camau nesaf
1.10.1.1 Gwahoddir ymgyngoreion i ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynir yn y PEIR a’r NTS hwn a chynnig eu sylwadau eu hunain. Mae nifer y ffyrdd y gall rhanddeiliaid roi adborth ar y PEIR fel rhan o’r broses ymgynghori statudol.
1.10.1.2 Mae’r Ymgeisydd yn cynnal nifer o arddangosfeydd cyhoeddus. Yn y digwyddiadau hyn, bydd yr Ymgeisydd yn ymgynghori’n benodol â rhanddeiliaid a’r gymuned leol ar gynnwys y PEIR hwn. Anogir unrhyw un a allai gael eu heffeithio gan, neu sydd â diddordeb o fudd ym Mhrosiect Gwynt Ar y Môr Mona, i fynychu. Mae amseroedd a lleoliadau’r digwyddiadau ymgynghori ar wefan Mona yn: www.morganandmona.com/en, www.morganandmona.com/cym. Dylid cyflwyno sylwadau ar PEIR Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n ysgrifenedig drwy’r dulliau isod:
- Drwy’r post at: Rhadbost MONA (cofiwch nad yw’n bosib anfon post cofrestredig i gyfeiriad rhadbost)
- Drwy e-bost at: info@monaoffshorewind.com
- Drwy lenwi ffurflen adborth sydd ar gael ar wefan y Prosiect ynwww.morganandmona.com/en, www.morganandmona.com/cym, mewn digwyddiadau cymunedol neu drwy wneud cais i’r tîm ymgynghori.
1.10.1.3 Y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau ar yr ymgynghoriad statudol hwn yw’r 4 Mehefin 2023. Bydd unrhyw sylwadau a dderbynnir yn ystod yr ymgynghoriad statudol yn cael eu rhoi i’r Arolygiaeth Gynllunio ac efallai’n cael eu cyhoeddi.
1.10.1.4 Bydd yr Ymgeisydd yn diwygio’r EIA a dyluniad Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona ymhellach ar sail yr ymatebion i’r ymgynghori ar y PEIR. Bwriedir cyflwyno canlyniadau terfynol yr EIA mewn Datganiad Amgylcheddol a chyflwynir crynodeb o’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad mewn Adroddiad Ymgynghori, gyda’r ddau i’w cynnwys gyda’r cais DCO sydd i’w gyflwyno yn 2024.