Skip to content
Ar y dudalen hon

1.7 Canlyniadau posib i’r amgylchedd – ar y môr

1.7.1 Prosesau ffisegol


1.7.1.1 Mae prosesau ffisegol yn cyfeirio at brosesau arfordirol a morol yn ogystal â cherhyntau llanw, newid hinsawdd tonnau, a chludo gwaddod. Mae derbynyddion y prosesau ffisegol sy’n berthnasol i Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona wedi cael eu modelu’n rhifol drwy ddefnyddio setiau data wedi eu casglu o gyfres o arolygon safle-benodol, gan gynnwys data geoffisegol a met-ddyfnforol. Gwnaed hefyd adolygiad pen-desg manwl o’r astudiaethau a setiau data oedd ar gael.

1.7.1.2 Nodai arolygon geoffisegol a’r asesiadau cynefin safle-benodol fod gwely’r môr yn Ardal Arae Mona’n cynnwys tonnau tywod, mega-grychdonnau, ffurfiau tonnau gwaddod a chreigiau’n codi i’r wyneb. Nodai’r arolwg geoffisegol safle-benodol yng Nghoridor Ceblau Tanddwr Mona fod y rhan ogleddol o Goridor Ceblau Tanddwr Mona’n fflat a di-nodwedd yn bennaf, gyda thonnau tywod a mega-grychdonnau wedi eu nodi yn y rhan ddeheuol tuag at yr ardal ryng-lanwol. Mae gwaddodion gwely’r môr yn Ardal Arae Mona wedi eu dosbarthu fel tywod, graean tywodlyd a thywod graeanog. Roedd hyn yn newid wrth fynd i’r de o Ardal Arae Mona o wely môr o raean bras i dywod mwy mân. Mae’r data geoffisegol yn dangos tonnau tywod ‘egnïol’ yn Ardal Arae Mona ac mae astudiaethau pen-desg wedi tynnu sylw at draethell yn croesi Coridor Ceblau Tanddwr Mona a elwir yn Constable Bank sydd wedi’i dosbarthu’n gynefin Anecs 1 o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, er nad yw o fewn SAC. O fewn Ardal Arae Mona, mae dyfnder y dŵr yn amrywio rhwng 28.5m a 46.1m yn gymharol â’r LAT.

1.7.1.3 Ar draws Ardal Arae Mona, mae cerrynt y llanw’n llifo i’r dwyrain a mynd ar drai i’r gorllewin. Mae llif y dŵr yn eithaf cryf, gyda chyflymder cerrynt y llanw’n amrywio fel arfer rhwng 1.2 a 0.9m/s ar benllanw, a cherrynt y trai ychydig yn is rhwng 0.8 a 0.9m/s. Mae’r gyfran fwyaf a’r tonnau mwyaf o ran maint yn cyrraedd Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona o gyfeiriad y de-orllewin. Drwy fodelu cerhyntau (wedi eu gyrru gan lanw a thonnau) yn Ardal Arae Mona, roedd cynnydd mewn cerhyntau llanw a lleihad cyfatebol pan fo’r llanw ar drai yn ystod yr amodau tywydd nodweddiadol.

1.7.1.4 Yn Ardal Arae Mona, mae cyflymder gweddilliol y cerhyntau’n uchel sy’n achosi lefel uchel o gludo gwaddod ynghyd â lefel is o gludo gwaddod wrth y lan fel arfer. Yn ystod stormydd o’r gorllewin, mae mwy o waddod yn cael ei gludo ar y llanw yn Ardal Arae Mona. Rhwng 1998 a 2015 amcangyfrifwyd bod y Deunydd Gronynnol Crog (SPM) di- algae rhwng 0.9 a 3mg/l ar gyfartaledd (Cefas, 2016) gan ddangos patrymau tymhorol nodweddiadol a chrynodiad uwch ym misoedd y gaeaf o fewn ardal Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

1.7.1.5 Mae pum effaith bosib ar brosesau ffisegol o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Cawsant eu nodi fel:

  • Cynnydd mewn gwaddodion crog o ganlyniad i weithgareddau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a / neu ddatgomisiynu’r Prosiect, a’r effaith bosib ar nodweddion ffisegol
  • Effeithiau ar y gyfundrefn lanw oherwydd presenoldeb seilwaith a’r effeithiau cysylltiedig posib ar hyd arfordiroedd cyfagos
  • Effeithiau ar y gyfundrefn donnau oherwydd presenoldeb seilwaith a’r effeithiau cysylltiedig posib ar hyd arfordiroedd cyfagos
  • Effeithiau ar gludo gwaddod a llwybrau cludo gwaddod oherwydd presenoldeb seilwaith ac effeithiau cysylltiedig posib ar nodweddion ffisegol a bathymetreg
  • Effeithiau ar dymheredd a lefelau halen tawdd oherwydd presenoldeb seilwaith.

1.7.1.6 Roedd effeithiau posib y cynnydd mewn gwaddodion crog o ganlyniad i’r camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu, a’r effaith bosib ar nodweddion ffisegol fel y traethellau, riffiau a’r gwastadeddau llaid a thywod sy’n nodweddion allweddol o’r safleoedd dynodedig a Constable Bank, naill ai o arwyddocâd dibwys neu fân (h.y. di-arwyddocaol yn nhermau EIA). Mae’r ‘cymylau’ o waddod a achosir yn y cam adeiladu wedi eu hadnabod i fod yn rhai lleol na fyddent yn ymestyn y tu allan i ardal astudiaeth y prosesau ffisegol, gydag ond ychydig o ddyddodion i ffwrdd o’r gwaith adeiladu. Mae gwaddod a achosir yn ystod y cam adeiladu’n cynnwys deunydd lleol na ddisgwylir iddo ddylanwadu ar fathymetreg derbynyddion fel traethellau tywod, riffiau a gwastadeddau llaid a thywod yn ardal SAC Afon Menai a Bae Conwy, SoDdGA Traeth Pensarn a Constable Bank (cynefin Anecs 1). Ni newidir prosesau hydro-ddeinamig cysylltiedig â nodweddion SAC Afon Menai a Bae Conwy, SoDdGA Traeth Pensarn a Constable Bank gan lefel isel y newid mewn bathymetreg o ganlyniad i ryddhau gwaddod yn ystod y cam adeiladu. Mae’r cynnydd mewn gwaddodion o ganlyniad i osod y ceblau allforio tanddwr yn achosi ychydig yn fwy o waddod yn yr ardal ryng-lanwol, ond ni fyddai hyn yn ddigon i effeithio ar broffil y traeth.

1.7.1.7 O’i gymharu â’r cam adeiladu, mae’r camau gweithredol a chynnal a chadw’n achosi llai o ganlyniadau oherwydd bod y gwaith wedi’i gyfyngu i weithgareddau atgyweirio ysbeidiol ar wahân. Ar y cyfan, ar gyfer yr holl dderbynyddion sy’n gysylltiedig â SAC Afon Menai a Bae Conwy, SoDdGA Pen y Gogarth, SoDdGA Trwyn y Gogarth a Constable Bank, bydd y canlyniadau o arwyddocâd dibwys neu fân (di-arwyddocaol yn nhermau EIA). Byddai canlyniadau’r cam datgomisiynu’n llai nag yn ystod y camau adeiladu, gweithredol a chynnal a chadw, er y byddai deunyddiau i atal y ceblau a’r sylfeini rhag erydu’n aros yn eu lle. Gallai’r cam datgomisiynu achosi mwy o waddodion crog os tynnir y sylfeini polion sugnol ond ni fyddai’r cymylau o waddod yn dod i unrhyw gysylltiad ag ardaloedd dynodedig.

1.7.1.8 Mae Coridor Ceblau Tanddwr Mona’n pasio drwy SAC Afon Menai a Bae Conwy a gallai cymylau o waddod o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona gyrraedd Constable Bank a SoDdGA Traeth Pensarn. Mae’r ardal ar y lan yn torri ar draws SoDdGA Traeth Pensarn. Mae Drilio Llorweddol (HDD) yn cael ei ystyried fel opsiwn a fyddai’n osgoi canlyniadau wrth y lanfa i raddau helaeth ond mae’r MDS yn dechnoleg ffosydd agored gydag argaeau coffr gan achosi rhyddhau llai o waddod yn yr ardal ryng- lanwol. Byddai unrhyw gynnydd mewn gwaddod yn dod o ‘gell’ y gwaddod ac ni fyddai felly’n effeithio ar geoamrywiaeth. Mae’r cynnydd mewn gwaddod o ganlyniad i’r gwaith ar Goridor Ceblau Tanddwr Mona’n achosi dim neu fawr ddim gwaddod yn yr ardal ryng-lanwol, ac ni fyddai’n ddigon i effeithio ar broffil y traeth. Ar y cyfan, i’r holl dderbynyddion yn yr ardal ryng-lanwol, bydd y canlyniad yn ddibwys neu’n fân (di- arwyddocaol ynnhermau EIA).

1.7.1.9 Gallai presenoldeb seilwaith achosi newidiadau i’r effeithiau ar y gyfundrefn lanw, y gyfundrefn donnau ac ar gludo gwaddod a llwybrau cludo gwaddod cysylltiedig. Fodd bynnag, ystyriwyd bod y canlyniadau i dderbynyddion yn SAC Afon Menai a Bae Conwy, SoDdGA Traeth Pensarn a Constable Bank o arwyddocâd dibwys neu fân (di- arwyddocaol yn nhermau EIA). Mae’r mân newidiadau hyn mewn hydro-ddynamig yn digwydd yn agos at leoliad y tyrbinau gwynt ac nid ydynt yn ymestyn y tu allan i ardal astudiaeth y prosesau ffisegol. Ni fyddai’r newidiadau cyfyngedig y sylwyd arnynt yn newid nodweddion ffisegol gwastadeddau tywod fel y rhai yn Constable Bank.

1.7.1.10 Yn ystod y cam datgomisiynu, byddai maint yr effaith yn debyg i effaith y cam gweithredol a chynnal a chadw oherwydd byddai’r holl strwythurau uwchlaw gwely’r môr yn cael eu tynnu allan, er y byddai’r deunyddiau i atal erydu’n aros yn eu lle. Byddai cynnydd mewn gwaddodion crog o ganlyniad i dynnu’r ceblau rhyng-arae, rhyng- gysylltu a’r ceblau allforio tanddwr yn debyg i’r crynodiadau o waddod a fyddai’n cael eu hachosi yn ystod y cam adeiladu, oherwydd byddai eu tynnu’n defnyddio technegau tebyg i rai wrth eu gosod. Ar y cyfan, ar gyfer yr holl dderbynyddion, bydd y canlyniad o arwyddocâd dibwys neu fân (di-arwyddocaol yn nhermau EIA).

1.7.1.11 Ni chredir bod angen mesurau lliniaru mwy na’r rhai sydd i’w gweithredu fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. deunyddiau atal erydu) ar gyfer y prosesau ffisegol oherwydd nid yw’r canlyniadau disgwyliedig heb fesurau lliniaru’n arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.1.12 Asesir y canlyniadau cronnus yn llawn yn y PEIR. Ystyrir bod maint y canlyniadau cronnus hyn yn isel ym mhob un o’r camau, a’r canlyniadau wedi eu cyfyngu i rai lleol gan effeithio ar dderbynyddion o sensitifrwydd isel yn achos yr holl rai a aseswyd, ac felly nid yw’r un ohonynt yn arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.1.13 Ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau trawsffiniol i fuddiannau prosesau ffisegol Gwledydd eraill o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

1.7.2 Ecoleg is-lanwol a rhyng-lanwol dyfnforol


1.7.2.1 Mae ecoleg y dyfnfor yn cyfeirio at y cymunedau o greaduriaid a phlanhigion sy’n byw ar neu yng ngwely’r môr a’u perthynas â’i gilydd a gyda’r amgylchedd ffisegol. Cadarnhawyd nodweddion ecoleg dyfnforol is-lanwol a rhyng-lanwol y Prosiect drwy gyfres o arolygon safle-benodol yn defnyddio samplo ‘casglu’, fideos tanddwr ac eDNA.

1.7.2.2 Dangosodd yr arolygon hyn fod gwely môr is-lanwol Ardal Arae Mona’n cynnal amrywiaeth o greaduriaid a phlanhigion sy’n nodweddiadol o’r ardal hon. Roedd y prif gynefinoedd a gofnodwyd yn cynnwys cynefin wedi’i nodweddu gan gregyn deuglawr a llyngyr morol mewn gwaddodion cymysg yn y môr, ynghyd â chynefinoedd gwaddodion cymysg wedi’u nodweddu gan lyngyr morol, molysgiaid ac echinodermiaid. Roedd yr arolygon hefyd wedi adnabod cymunedau rîff yn Ardal Arae Mona, gan gynnwys riffiau carregog ‘ymdebygu isel’ yn ogystal â sbyngau sy’n byw ar swbstradau caled.

1.7.2.3 Gwnaed arolwg rhyng-lanwol hefyd o ‘lanfa’ Mona gan adnabod ystod amrywiol o greaduriaid a phlanhigion. Roedd y traeth uchaf wrth lanfa Mona’n cynnwys band llydan o ro bras a chreigiau cennog. Roedd y traeth canol yn cynnwys clogfeini, cerrig crynion a chreigiau gyda chregyn crachod. Roedd y traeth isaf wedi’i nodweddu gan gynefinoedd tywod a llyngyr morol a molysgiaid yn bennaf. Roedd rîff helaeth wedi’i ffurfio gan lyngyr diliau Sabellaria alveolata hefyd wedi’i adnabod wrth lanfa Mona.

1.7.2.4 Mae nifer o effeithiau posib ar rywogaethau / cymunedau is-lanwol a rhyng-lanwol dyfnforol, o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Roeddent yn cynnwys:

  • Aflonyddu ar / colli cynefin dros dro
  • Mwy o waddodion crog a dyddodion cysylltiedig (gan gynnwys mygu)
  • Aflonyddu ar / ailgynhyrfu halogyddion ynghlwm mewn gwaddodion
  • Colli cynefin tymor hir
  • Annog swbstrad caled i gynefino
  • Risg uwch o gyflwyno neu ledaenu Rhywogaethau Anfrodorol Ymwthiol (INNS)
  • Tynnu swbstrad caled
  • Newidiadau i brosesau ffisegol
  • Meysydd electro-magnetig a gwres o’r ceblau tanddwr.

1.7.2.5 Drwy’r mesurau sydd i’w cyflwyno fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. claddu ceblau lle bo hynny’n bosib), mae’r holl effeithiau hyn yn achosi canlyniadau o arwyddocâd dibwys neu fân andwyol, hynny yw di-arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.2.6 Ystyriwyd bod yr aflonyddu / colli cynefin dros dro a thymor hir o arwyddocâd dibwys neu fân andwyol (di-arwyddocaol yn nhermau EIA) ar gyfer y cynefinoedd is-lanwol a rhyng-lanwol a chynefinoedd SAC Afon Menai a Bae Conwy. Cyrhaeddwyd y casgliad hwn ar sail y gyfran fach o golledion cynefin sydd i’w ddisgwyl yng nghyd-destun cynefinoedd Ardal Arae Mona oherwydd bod y rhan fwyaf o’r cynefin a fyddai’n cael ei aflonyddu’n waddod ac yn debygol o adfer ei hun wedyn. Ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau arwyddocaol ychwaith i gynefinoedd rîff gwarchodedig posib yn Ardal Arae Mona, gan ragdybio y gweithredir mesurau i osgoi canlyniadau uniongyrchol i’r nodweddion hyn.

1.7.2.7 Ystyriwyd hefyd bod unrhyw gynnydd mewn gwaddodion crog a dyddodion cysylltiedig o arwyddocâd dibwys neu fân andwyol (di-arwyddocaol yn nhermau EIA) ar gyfer y cynefinoedd is-lanwol a rhyng-lanwol a chynefinoedd SAC Afon Menai a Bae Conwy. Cyrhaeddwyd y casgliad hwn oherwydd natur tymor byr yr effaith ac y byddai’r gwaddodion yn gwasgaru’n sydyn a bod y rhan fwyaf o’r nodweddion ecolegol pwysig o sensitifrwydd isel i’r math hwn o effaith. Ac eto, ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau arwyddocaol i gynefinoedd rîff gwarchodedig posib yn Ardal Arae Mona gan ragdybio y gweithredir mesurau i osgoi canlyniadau uniongyrchol i’r nodweddion hyn.

1.7.2.8 Ystyriwyd bod y colli cynefin tymor hir o arwyddocâd dibwys neu fân andwyol (di- arwyddocaol yn nhermau EIA) ar gyfer y cynefinoedd is-lanwol a chynefinoedd SAC Afon Menai a Bae Conwy (ni ddisgwylir colli cynefin tymor hir yn yr ardal ryng-lanwol). Cyrhaeddwyd y casgliad hwn oherwydd yr ardal fach a fyddai’n cael ei heffeithio yn ardal astudiaeth ecoleg is-lanwol a rhyng-lanwol dyfnforol Mona. Ac eto, ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau arwyddocaol i gynefinoedd rîff gwarchodedig posib yn Ardal Arae Mona gan ragdybio y gweithredir mesurau i osgoi canlyniadau uniongyrchol i’r nodweddion hyn.

1.7.2.9 Aseswyd y canlyniadau cronnus o weithgareddau cloddio agregau, carthu, gosod ceblau a phiblinellau, gwaith cywiro a datblygiadau adnewyddadwy eraill ar y môr, ar gyfer eu heffaith ar:

  • Aflonyddu / colli cynefin dros dro, cynnydd mewn gwaddodion crog a dyddodion cysylltiedig, colli cynefin tymor hir, annog swbstrad caled i gynefino, risg uwch o gyflwyno neu ledaenu INNS a newidiadau i brosesau ffisegol.

1.7.2.10 Barnodd yr asesiad o ganlyniadau cronnus (CEA) y byddai’r effeithiau hyn yn arwain at ganlyniadau o arwyddocâd dibwys neu fân andwyol (di-arwyddocaol yn nhermau EIA) i gymunedau is-lanwol a rhyng-lanwol dyfnforol yn ardal astudiaeth ecoleg is-lanwol a rhyng-lanwol dyfnforol y CEA.

1.7.2.11 Ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau trawsffiniol i fuddiannau ecoleg is-lanwol a rhyng- lanwol dyfnforol Gwledydd eraill, o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

1.7.3 Ecoleg pysgod a chregyn pysgod


1.7.3.1 Mae ecoleg pysgod a chregyn pysgod yn cyfeirio at y cymunedau o greaduriaid (amrywiol rywogaethau o folysgiaid, cramenogion a physgod masnachol ac ecolegol bwysig) sy’n byw yn y golofn ddŵr ar neu yng ngwely’r môr, gan gynnwys pysgod sy’n teithio rhwng amgylcheddau morol a dŵr croyw i ddodwy wyau, a pherthynas yr organebau hyn â’i gilydd a gyda’r amgylchedd ffisegol. Roedd pennod ecoleg pysgod a chregyn pysgod Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona wedi’i nodweddu’n bennaf gan adolygiad pen-desg oherwydd y data cyhoeddus sylweddol sydd ar gael i helpu i gynyddu cwmpas yr adolygiad.

1.7.3.2 Dangosodd yr adolygiad pen-desg, a chanlyniadau’r arolygon cynwysedig, ystod o rywogaethau pysgod, cregyn pysgod a siarcod a chathod môr sydd â thiroedd dodwy neu fwydo yng nghyffiniau Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, ac yn yr ardal astudiaeth ecoleg pysgod a chregyn pysgod ehangach. Roedd y rhywogaethau o ddiddordeb ecolegol a masnachol arbennig yn cynnwys penwaig, sy’n dodwy eu hwyau i raddau mwy neu lai i’r gogledd a’r gogledd-ddwyrain o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Mae llymrïod, sy’n fwyd ysglyfaeth pwysig i lawer o greaduriaid morol rheibus eraill, hefyd wedi cael eu nodi i fod â phoblogaethau a thiroedd dodwy pwysig yn yr ardal. Roedd ymgynghori â rhanddeiliaid wedi nodi pa mor bwysig yw’r cwîn-gragen fylchog a’r gragen fylchog gyffredin i bysgota masnachol. Penderfynwyd felly ymgorffori gwybodaeth am leoliadau cychod ac allbwn o’r ymgynghori â physgodfeydd yn y bennod ecoleg pysgod a chregyn pysgod i ddangos dosbarthiad y prif diroedd pysgota a dodwy ar gyfer y rhywogaethau hyn, gan nodi unrhyw orgyffwrdd ag Ardal Arae Mona. Edrychwyd hefyd ar boblogaethau o heulforgwn a maelgwn gan amlygu’r potensial y gallai’r rhain basio drwy neu fod yn bresennol ym Mhrosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Nid yw’n debygol iawn y bydd maelgwn yn bresennol yn yr ardal, gyda’r poblogaethau lleol mwyaf toreithiog wedi eu hadnabod tua 30km oddi wrth Ardal Arae Mona, a dim ond yno’n ysbeidiol. Er y gwyddom fod heulforgwn yn mudo drwy’r ardal astudiaeth ecoleg pysgod a chregyn pysgod ehangach, ni chofnodwyd dim gan yr arolygon safle-benodol ar gyfer y Prosiect.

1.7.3.3 Mae nifer o effeithiau posib ar rywogaethau pysgod a chregyn pysgod, o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Aflonyddu ar / colli cynefin dros dro
  • Effeithiau sŵn tanddwr
  • Mwy o waddodion crog a dyddodion gwaddod cysylltiedig
  • Colli cynefin tymor hir
  • Meysydd electro-magnetig o’r ceblau trydanol tanddwr
  • Annog cymunedau newydd i gynefino ar swbstrad caled
  • Anafiadau i heulforgwn oherwydd risg uwch o longau’n mynd ar eu traws.

1.7.3.4 Drwy’r mesurau sydd i’w cyflwyno fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. dechrau’n ddistaw / cynyddu’n raddol), mae’r holl effeithiau hyn ym mhob un o’r camau’n achosi canlyniadau o arwyddocâd dibwys neu fân andwyol ac felly’n ddi- arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.3.5 Ni ystyriwyd y byddai effaith sŵn tanddwr yn achosi canlyniad arwyddocaol i benwaig yn dodwy wyau yn eu tiroedd dodwy arferol oddi ar arfordir Ynys Manaw oherwydd eu pellter oddi wrth Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

1.7.3.6 Ystyriwyd bod aflonyddu / colli cynefin dros dro a thymor hir o arwyddocâd mân andwyol (di-arwyddocaol yn nhermau EIA) i dderbynyddion pysgod a chregyn pysgod gan ddisgwyl y byddai’r gyfran o gynefin a fyddai’n cael ei golli yn ardal Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn fach yng nghyd-destun cynefinoedd tebyg eraill sydd ar gael yn yr ardal astudiaeth ecoleg pysgod a chregyn pysgod ehangach.

1.7.3.7 Aseswyd y canlyniadau cronnus o weithgareddau adeiladu, carthu a gwaredu gan ffermydd gwynt ar y môr cyfagos, a phrosiectau perthnasol eraill, o fewn radiws o 50km i Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona, ar gyfer unrhyw effeithiau uniongyrchol, a radiws o 100km ar gyfer sŵn tanddwr. Aseswyd y prosiectau cyfagos hyn a dod i’r casgliad y byddent yn achosi effeithiau dibwys neu fân andwyol (ddim yn arwyddocaol) ar bysgod a chregyn pysgod yn yr ardal astudiaeth 50km. Ar gyfer sŵn tanddwr, aseswyd yr effaith hon hefyd i fod yn fân andwyol oherwydd y lefel isel iawn o effaith sŵn cronnus o brosiectau eraill.

1.7.3.8 Ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau trawsffiniol i fuddiannau ecoleg pysgod a chregyn pysgod Gwledydd eraill o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

1.7.4 Mamaliaid morol


1.7.4.1 Mae’r bennod ar famaliaid morol yn ystyried rhywogaethau morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion yn ogystal â morloi yng nghyffiniau Ardal Arae Mona, o ran eu dosbarthiad, dwysedd a niferoedd. Roedd data sylfaenol y bennod yn seiliedig ar gyfuniad o arolygon safle-benodol, ar ffurf arolygon digidol o’r awyr ac astudiaeth pen-desg.

1.7.4.2 Dangosodd yr arolygon safle-benodol fod y rhywogaethau yng nghyffiniau Ardal Arae Mona’n cynnwys dolffiniaid trwynbwl a llwyd, llamhidydd yr harbwr, y morlo llwyd a morlo’r harbwr. Mae rhywogaethau eraill sydd hefyd yn yr ardal yn rheolaidd yn cynnwys y dolffin byr-big cyffredin a’r morfil Minke. Mae llamhidyddion yr harbwr i’w gweld ar draws ardal astudiaeth mamaliaid morol Mona, gyda’r dolffin byr-big cyffredin a’r dolffin llwyd wedi eu cyfyngu’n bennaf i dde Môr Iwerddon. Mae’r dolffin trwynbwl i’w weld amlaf yn nyfroedd arfordir Bae Ceredigion yng ngorllewin Cymru. Mae llamhidydd yr harbwr a’r dolffin trwynbwl i’w gweld drwy’r flwyddyn ond mae’r dolffin cyffredin, y dolffin llwyd a’r morfil Minke i’w gweld amlaf yn ystod misoedd yr haf gan symud yn fwy allan i’r môr dros y gaeaf. Mae’r morlo llwyd i’w weld yn gyffredin ar draws de Môr Iwerddon gyda morlo’r harbwr i’w weld yn bennaf ar hyd arfordir gogledd-ddwyrain Iwerddon, arfordir dwyreiniol Gogledd Iwerddon ac Aber Afon Clud.

1.7.4.3 Mae nifer o effeithiau posib ar famaliaid morol o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Anafiadau ac aflonyddwch o fwy o sŵn tanddwr wrth osod y polion
  • Anafiadau ac aflonyddwch i famaliaid morol o fwy o sŵn tanddwr wrth glirio UXO
  • Anafiadau ac aflonyddwch i famaliaid morol o fwy o sŵn tanddwr oherwydd gweithgareddau llongau a chychod
  • Risg uwch o anafiadau i famaliaid morol wrth i longau fynd ar eu traws
  • Anafiadau ac aflonyddwch i famaliaid morol o fwy o sŵn tanddwr yn ystod yr arolygon ymchwiliadau safle
  • Sŵn tanddwr o weithrediad y tyrbinau gwynt
  • Newidiadau i gymunedau pysgod a chregyn pysgod gan effeithio ar lefelau bwyd ysglyfaeth.

1.7.4.4 Drwy’r mesurau sydd i’w cyflwyno fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. cynnwys technegau ffrwydro ‘ysgafn’ i glirio UXO), mae’r holl effeithiau hyn yn achosi canlyniadau o arwyddocâd dibwys neu fân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.4.5 Ystyriwyd y byddai anafiadau ac aflonyddwch oherwydd mwy o sŵn tanddwr wrth osod y polion o arwyddocâd mân andwyol (di-arwyddocaol yn nhermau EIA) i famaliaid morol yn ardal astudiaeth mamaliaid morol Mona; ac ar sail y gwaith modelu sŵn tanddwr, y gallai ystod o effeithiau achosi anafiadau ac aflonyddwch i nifer fach o famaliaid. Ar gyfer asesu anafiadau, drwy’r mesurau sydd i’w cyflwyno fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona drwy Brotocol Lliniaru Mamaliaid Morol (MMMP) drafft, byddai’r effaith yn arwain at risg fach iawn o anafu oherwydd byddai’r mamaliaid yn cadw draw o’r ardal lle y gallai anafiadau ddigwydd. Ar gyfer asesu aflonyddwch, ystyriwyd er y gallai nifer fach o famaliaid brofi mân aflonyddwch, y byddai hyn yn annhebygol o effeithio ar lefel y boblogaeth. Mae gwaith modelu poblogaeth hefyd wedi’i wneud i ystyried a allai’r aflonyddwch wrth osod y polion effeithio dros amser ar ‘lwybr’ poblogaeth llamhidydd yr harbwr, dolffin trwynbwl, morfil Minke a’r morlo llwyd, a gadarnhaodd yr asesiad y byddai’r effaith yn annhebygol o effeithio arlefelau poblogaeth.

1.7.4.6 Ystyriwyd bod y risg uwch o anafiadau i famaliaid morol wrth i longau fynd ar eu traws o arwyddocâd mân andwyol (di-arwyddocaol yn nhermau EIA). Gallai cynnydd mewn symudiadau llongau a chychod arwain at fwy o ryng-gysylltiadau rhwng mamaliaid morol a llongau, gan achosi anafiadau marwol a di-farwol. Y llongau a fyddai’n teithio ar gyflymder o 7m/s neu’n gynt a fyddai fwyaf tebygol o achosi marwolaeth neu anaf difrifol i famaliaid morol. Ar y cyfan, mae’n debyg y byddai’r llongau yn y cam adeiladu’n teithio gryn dipyn yn arafach na hyn a byddai angen i’r llongau i gyd gadw at ddarpariaethau’r Cynllun Rheoli Amgylcheddol (EMP) Morol. Bydd glynu wrth yr EMP hwn, ynghyd â’r ffaith y bydd mamaliaid yn debygol o gadw draw o’r ardal oherwydd sŵn y llongau’n symud, yn lleihau’r risg o wrthdaro.

1.7.4.7 Aseswyd y canlyniadau cronnus ar gyfer anafiadau ac aflonyddwch o fwy o sŵn tanddwr wrth osod y polion, anafiadau ac aflonyddwch i famaliaid morol o fwy o sŵn tanddwr wrth wneud yr arolygon ymchwiliadau safle, anafiadau ac aflonyddwch i famaliaid morol o fwy o sŵn tanddwr wrth glirio UXO, anafiadau ac aflonyddwch i famaliaid morol o fwy o sŵn tanddwr o weithgareddau llongau, risg uwch o anafiadau i famaliaid morol wrth i longau fynd ar eu traws, a newidiadau i gymunedau pysgod a chregyn pysgod a fyddai’n effeithio ar lefelau bwyd ysglyfaeth (adran 1.7.3). Aseswyd y byddai’r rhain yn achosi canlyniadau o arwyddocâd dibwys neu fân andwyol (di- arwyddocaol yn nhermau EIA) i lamhidydd yr harbwr, y dolffin byr-big cyffredin, dolffin llwyd, morfil Minke, morlo llwyd a morlo’r harbwr yn y Môr Celtaidd a Môr Iwerddon. Ar gyfer y dolffin trwynbwl, aseswyd yr achosir canlyniad cymedrol andwyol (arwyddocaol yn nhermau EIA) wrth ystyried yr effaith yng nghyd-destun poblogaeth Uned Reoli Môr Iwerddon, ond o ystyried yr effaith yng nghyd-destun poblogaeth gyfunol ehangach Uned Reoli Forol De-Orllewin Lloegr a’r Sianel, ac Uned Reoli Môr Iwerddon, ni achosir canlyniad arwyddocaol.

1.7.4.8 Ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau trawsffiniol i fuddiannau mamaliaid morol Gwledydd eraill o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

1.7.5 Ornitholeg forol


1.7.5.1 Mae adar môr yn cyfeirio at rywogaethau sy’n dibynnu ar yr amgylchedd morol i fyw ar ryw bwynt yn ystod eu hoes. Yn ogystal â’r gwir adar môr, ystyrir hefyd hwyaid môr, trochyddion a gwyachod oherwydd eu bod hefyd yn dibynnu ar ardaloedd morol, yn enwedig yn y tymor pryd nad ydynt yn magu. Casglwyd gwybodaeth am adar môr o fewn ardal astudiaeth ornitholeg forol Ardal Arae Mona ac ardal astudiaeth ornitholeg Coridor Ceblau Tanddwr Mona drwy wneud adolygiad pen-desg manwl o astudiaethau a setiau data, a thrwy arolygon safle-benodol (arolygon digidol o’r awyr).

1.7.5.2 Dangosodd yr arolygon digidol safle-benodol o’r awyr fod Ardal Arae Mona’n cynnal amrywiaeth o adar môr sy’n nodweddiadol o Fôr Iwerddon, yn bennaf gwylogod, llursod, gwylanod coesddu, adar drycin Manaw a huganod. Yn achos y rhan fwyaf o’r adar môr, roedd eu dosbarthiad yn amrywio yn ôl blwyddyn a mis.

1.7.5.3 Mae nifer o effeithiau posib ar rywogaethau adar môr, o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Mwy o aflonyddwch a dadleoli oherwydd sŵn yn yr awyr, sŵn tanddwr a phresenoldeb llongau a seilwaith
  • Effeithiau anuniongyrchol sŵn tanddwr ar rywogaethau ysglyfaeth
  • Mynd ar eu traws
  • Colli / aflonyddu dros dro ar gynefin a mwy o waddodion crog (SSC)
  • Effaith gwahanfuriau.

1.7.5.4 Drwy’r mesurau sydd i’w cyflwyno fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. EMP Morol fydd yn cynnwys mesurau i leihau aflonyddwch i adar ‘rafftio’ oddi wrth longau), mae’r effeithiau hyn yn achosi canlyniadau o arwyddocâd dibwys neu fân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.5.5 Ystyriwyd bod aflonyddu a dadleoli oherwydd sŵn yn yr awyr, sŵn tanddwr a llongau a seilwaith o arwyddocâd dibwys neu fân andwyol (di-arwyddocaol yn nhermau EIA) i’r rhywogaethau adar môr yn Ardal Arae Mona ac yng nghyffiniau Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona oherwydd natur tymor byr yr effaith yn ystod y camau adeiladu a datgomisiynu. Yn ogystal â hyn, roedd gan adar môr a gofnodwyd yn yr arolygon safle-benodol yn Ardal Arae Mona (a’r ardal glustog) sensitifrwydd isel i’r math yma o effaith yn ystod cam gweithredol y fferm wynt.

1.7.5.6 Ystyriwyd bod effeithiau anuniongyrchol sŵn tanddwr ar rywogaethau ysglyfaeth hefyd o arwyddocâd mân andwyol (di-arwyddocaol yn nhermau EIA) i dderbynyddion ornitholegol oherwydd natur tymor byr yr effaith. Ystyriwyd hefyd bod colli / aflonyddwch dros dro i gynefin a chynnydd mewn gwaddodion crog (SSC) o arwyddocâd mân andwyol (di-arwyddocaol yn nhermau EIA). Yn greiddiol, aseswyd na fyddai unrhyw ganlyniadau arwyddocaol o ran mynd ar draws adar môr ac adar mudol eraill ac ystyriwyd bod yr effaith gwahanfuriau o arwyddocâd dibwys andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA. s.

1.7.5.7 Aseswyd y canlyniadau cronnus o wahanol ddatblygiadau adnewyddadwy ar y môr gan ddisgwyl iddynt achosi canlyniadau o arwyddocâd dibwys neu fân andwyol (di-arwyddocaol yn nhermau EIA) i adar môr o fewn ardal glustog 500km Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Mae gwaith modelu poblogaeth hefyd wedi’i wneud i ystyried a allai’r risg gyfunol o fynd ar draws yr adar ynghyd â’r aflonyddwch a’r dadleoli effeithio dros amser ar ‘lwybr’ poblogaeth y gwylogod a’r gwylanod coesddu, a gadarnhaodd yr asesiad y byddai’r effaith yn annhebygol o effeithio ar lefelau poblogaeth. Ystyriwyd bod y risg gyfunol o fynd ar draws yr adar, ynghyd â’r aflonyddwch a’r dadleoli oherwydd sŵn yn yr awyr, sŵn tanddwr a phresenoldeb llongau a seilwaith, o arwyddocâd mân andwyol (di-arwyddocaol yn nhermau EIA).

1.7.5.8 Ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau trawsffiniol i fuddiannau ornitholeg forol Gwledydd eraill o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

1.7.6 Pysgodfeydd masnachol


1.7.6.1 Diffinnir pysgodfeydd masnachol fel unrhyw fath o weithgaredd pysgota sy’n gwerthu’r pysgod am elw trethadwy. Cadarnhawyd y data sylfaenol ar gyfer pysgodfeydd masnachol drwy adolygu’r data cyhoeddus, arolygon safle-benodol a thrwy ymgynghori â physgodfeydd.

1.7.6.2 Yn yr ardal dan sylw, roedd y glaniadau wedi eu nodweddu gan gychod carthu a physgod cregyn oedd y grŵp rhywogaeth pwysicaf o ran pwysau a gwerth ar y lan. O fewn ac o gwmpas Ardal Arae Mona mae tiroedd y cwîn-gragen fylchog, sy’n arbennig o bwysig i gychod carthu ar hyd arfordir gorllewinol yr Alban. Mae’r cychod hyn, yn ogystal â chychod crwydrol o Iwerddon a Gogledd Iwerddon hefyd yn pysgota’r gragen fylchog gyffredin yn yr ardal. Mae cychod gêr statig sy’n targedu crancod a gwichiaid yn Ardal Arae Mona’n gweithio allan o Fleetwood a Whitehaven. Mae cychod gêr agored o Wlad Belg ac arfordir de Lloegr hefyd weithiau’n bresennol yn y cyffiniau gan dargedu lledod fel y lleden chwithig. Yn y rhannau o Goridor Ceblau Tanddwr Mona sy’n agos i’r lan, mae nifer fach o gychod gêr statig bychain yn bresennol gan weithio allan o borthladdoedd ar hyd arfordir Gogledd Cymru.

1.7.6.3 Mae nifer o effeithiau posib ar bysgodfeydd masnachol, o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Colli neu gael llai o fynediad at diroedd pysgota
  • Dadleoli gweithgareddau pysgota
  • Cynnydd dros dro mewn pellteroedd wrth fynd o un porthladd i’r llall
  • Colli neu ddifrod i gêr pysgota oherwydd bachu
  • Effeithiau posib ar stociau pysgod sy’n fasnachol bwysig
  • Cyfleoedd cadwyn gyflenwi ar gyfer cychod pysgota lleol.

1.7.6.4 Gyda’r mesurau sydd i’w gweithredu fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. datblygu Cynllun Cyd-fodoli a Chyswllt â Physgodfeydd), ac mewn rhai achosion drwy weithredu mesurau lliniaru pellach, mae’r rhan fwyaf o’r effeithiau hyn yn achosi canlyniadau o arwyddocâd dibwys neu fân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.6.5 Mae colli neu gael llai o fynediad at diroedd pysgota’n effaith arbennig o bwysig i gychod oddi ar arfordir gorllewin yr Alban, sy’n dibynnu ar diroedd y cwîn-gragen fylchog o fewn ac o gwmpas Ardal Arae Mona. Yn ystod y cam adeiladu, asesir y byddai colli neu gael llai o fynediad at diroedd pysgota’n achosi canlyniadau o arwyddocâd mân andwyol ar y mwyaf (di-arwyddocaol yn nhermau EIA) i’r holl grwpiau pysgodfeydd, oherwydd natur dros dro ac ysbeidiol y gwaith. Yn ystod y cam gweithredol a chynnal a chadw, disgwylir canlyniad cymedrol andwyol ar gychod cregyn bylchog arfordir gorllewin yr Alban, sy’n arwyddocaol yn nhermau EIA. Er mwyn lliniaru’r canlyniad hwn, mae’r Ymgeisydd yn ystyried opsiynau i gynyddu’r pellter lleiaf rhwng tyrbinau gwynt ac opsiynau i lwybro’r tyrbinau gan ystyried cyfeiriad y cychod pysgota er mwyn cynyddu’r potensial ar gyfer cyd-fodoli.

1.7.6.6 Gyda’r mesurau sydd i’w gweithredu fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. datblygu Cynllun Cyd-fodoli a Chyswllt â Physgodfeydd), fydd yn gynllun llawn yn y Datganiad Amgylcheddol, disgwylir i faint yr effaith leihau i fod yn fân effaith a’r canlyniad gweddilliol yn un o arwyddocâd mân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.6.7 Gall dadleoli cychod i diroedd pysgota eraill arwain at wrthdaro â gêr pysgota eraill. Yn ystod y cam adeiladu, aseswyd y byddai dadleoli cychod i ardaloedd eraill, a’r effeithiau andwyol posib ar bysgodfeydd yn yr ardaloedd y byddai’r cychod yn cael eu dadleoli iddynt, yn achosi canlyniad o arwyddocâd mân andwyol ar y mwyaf (di-arwyddocaol yn nhermau EIA) i’r holl bysgodfeydd masnachol. Byddai hyn oherwydd y parthau gwaith adeiladu treigl, a natur dros dro ac ysbeidiol y gwaith yn ystod y cam adeiladu. Yn ystod y cam gweithredol a chynnal a chadw, gallai’r pellter lleiaf rhwng rhesi o dyrbinau gwynt (1,000m) atal gêr symudol fel y rhai a ddefnyddir gan gychod gêr agored a chregyn bylchog rhag pysgota yn Ardal Arae Mona. Gan dybio hyn, aseswyd y byddai dadleoli gweithgareddau pysgota’n achosi canlyniad o arwyddocâd cymedrol andwyol (arwyddocaol yn nhermau EIA). Aseswyd y byddai’r canlyniad o arwyddocâd mân andwyol i gychod Ynys Manaw oherwydd eu bod hwythau hefyd yn targedu’r tiroedd pysgota hyn er nad ydynt yn dibynnu mor drwm arnynt. Yn dilyn gweithredu mesurau lliniaru pellach, aseswyd y byddai’r effeithiau gweddilliol ar gychod arfordir gorllewin yr Alban yn fân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.6.8 Mae effeithiau cronnus arwyddocaol, yn nhermau EIA, wedi eu hadnabod gyda Phrosiect Gwynt Ar y Môr Morgan. Roedd y brif effaith gronnus oedd wedi’i hadnabod rhwng Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona a Phrosiect Gwynt Ar y Môr Morgan, ar bysgodfeydd masnachol, yn bennaf un o golli neu gael llai o fynediad at diroedd pysgota oherwydd y camau gweithredol a chynnal a chadw. Mae effaith gronnus colli neu gael llai o fynediad at diroedd pysgota ar gychod cregyn bylchog ar hyd arfordir gorllewin yr Alban, o ddatblygiadau gwynt ar y môr eraill, yn un o arwyddocâd cymedrol andwyol (arwyddocaol yn nhermau EIA). Er mwyn lliniaru’r canlyniad hwn i fflyd cychod cregyn bylchog arfordir gorllewin yr Alban, mae’r Ymgeisydd yn ystyried opsiynau i gynyddu’r pellter lleiaf rhwng tyrbinau gwynt ac opsiynau i lwybro’r tyrbinau gan ystyried cyfeiriad y cychod pysgota fel y gallent barhau i garthu am gregyn bylchog yn Ardal Arae Mona, a thrwy hynny gynyddu’r potensial ar gyfer cyd-fodoli. Yn dilyn mesurau pellach, bydd yr effeithiau gweddilliol ar gychod cregyn bylchog arfordir gorllewin yr Alban yn cael eu hasesu yn y Datganiad Amgylcheddol gan ddisgwyl iddynt fod o arwyddocâd mân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.6.9 Mae’r canlyniadau trawsffiniol y tu allan i ddyfroedd y Deyrnas Unedig wedi eu cyfyngu i’r posibilrwydd o ddadleoli ymdrech o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona i ddyfroedd y tu allan i rai’r DU a’r canlyniadau posib i adnoddau pysgod a chregyn pysgod masnachol bwysig a allai ddigwydd mewn dyfroedd y tu allan i rai’r DU. Ni ddisgwylir y byddai’r canlyniadau hyn yn rhai arwyddocaol.

1.7.7 Llongau a mordwyo


1.7.7.1 Gall camau adeiladu, gweithredol a datgomisiynu fferm wynt ar y môr gael effaith ar ddiogelwch morwrol a gweithgareddau llongau masnach, fferis, porthladdoedd / harbwrs, pysgodfeydd masnachol, mordeithiau hamdden a gweithgareddaumorwrol eraill.

1.7.7.2 Sefydlwyd y data sylfaenol ar longau a mordwyo drwy adolygu cyhoeddiadau perthnasol, casglu a dadansoddi data hanesyddol ar draffig a damweiniau llongau, ac ymgynghori â’r rhanddeiliaid perthnasol. Lleolir Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona mewn ardal a ddefnyddir yn aml gan amrywiaeth o wahanol ddefnyddwyr morwrol. Mae cynlluniau gwahanu traffig, ffermydd gwynt eraill ar y môr a gweithgareddau olew, nwy a chloddio agregau’n digwydd yn yr ardal astudiaeth llongau a mordwyo. Mae llongau masnach ar eu ffordd i borthladdoedd Lerpwl, Douglas a Heysham yn croesi drwy Ardal Arae Mona. Mae gwasanaethau fferi rheolaidd rhwng y DU, Ynys Manaw ac Iwerddon yn teithio drwy neu gerllaw Ardal Arae Mona. Mae pysgota gan gychod gêr statig a symudol yn digwydd ar draws yr ardal astudiaeth llongau a mordwyo. Mae llwybrau mordeithiau hamdden rhwng y DU ac Ynys Manaw hefyd wedi eu hadnabod ond nid oes llawer o longau’n eu defnyddio. Mae gwaith rheolaidd yn cael ei wneud gan gychod tynnu a gwasanaethau eraill i gynnal seilwaith ar y môr. Lleolir angorfa i’r dwyrain o Ynys Môn, wrth ymyl coridor y ceblau allforio.

1.7.7.3 Dangoswyd bod tywydd garw, yn enwedig o’r de-orllewin arferol, yn dylanwadu ar batrymau traffig cychod a llongau. O edrych ar y data damweiniau hanesyddol, cymharol ychydig o ddamweiniau mordwyo sydd wedi digwydd yn yr ardal astudiaeth, gyda’r rhan fwyaf wedi digwydd yn y dyfroedd wrth nesáu at Lerpwl.

1.7.7.4 Mae nifer o effeithiau posib ar longau a mordwyo, o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Mae’r effeithiau a aseswyd yn cynnwys: effeithiau ar lwybrau llongau, gweithgareddau porthladdoedd, diogelwch mordwyo ac ymateb i achosion brys. Drwy’r mesurau sydd i’w cyflwyno fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. gardiau ar longau a chychod), mae’r rhan fwyaf o’r effeithiau hyn yn achosi canlyniadau di-arwyddocaol. Fodd bynnag, cafodd ddau ganlyniad arwyddocaol eu nodi:

  • Yn gyntaf, aseswyd y byddai’r effaith ar lwybro tywydd garw i lwybrau rhai gwasanaethau fferi o ganlyniad i bresenoldeb Ardal Arae Mona yn arwyddocaol. Yn ystod tywydd garw, mae llongau Stena sy’n teithio rhwng Lerpwl a Belffast, a llongau cwmni Steam Packet Ynys Manaw sy’n teithio rhwng Lerpwl a Douglas yn mordwyo drwy ôl-troed Ardal Arae Mona. Gyda’r tyrbinau gwynt yn eu lle, byddai angen i’r llongau wyro eu llwybrau i’r de-orllewin o Ardal Arae Mona i gynnal symudiadau llong diogel a chyffyrddus. Mae gan hyn botensial i gynyddu mordeithiau yn ogystal â chanslo mwy o wasanaethau.
  • Yn ail, aseswyd bod yr effeithiau o ran risg o longau’n gwrthdaro drwy orfod gwyro eu llwybrau a dod ar draws ei gilydd yn amlach oherwydd presenoldeb Ardal Arae Mona, yn arwyddocaol. Yn enwedig, aseswyd y byddai’r effeithiau ar lwybro llongau masnach i’r de-orllewin o Ardal Arae Mona’n arwain at fwy o ryng-gysylltiadau ac yn amharu ar gydymffurfio â rheoliadau gwrthdrawiad gan longau. Hefyd, mae agosrwydd Ardal Arae Mona i’r llwybrau hyn wedi cynyddu’r posibilrwydd y gallai cychod bach o’r safle wrthdaro â llongau’n pasio.

1.7.7.5 I geisio lleihau’r canlyniadau arwyddocaol, mae’r Ymgeisydd wedi ymrwymo i opsiynau rheoli risg ychwanegol i leihau’r risgiau hyn i rai Cyffredinol Dderbyniol / Goddefol o dan ALARP – Mor Isel ag yn Rhesymol Ymarferol, gan gynnwys:

  • Diwygiadau i ffin Ardal Arae Mona er mwyn cadw pellter o 2nm rhwng Ardal Arae Mona a’r dyfroedd wrth nesáu at TSS Lerpwl.
  • Diwygiadau i ffin Ardal Arae Mona i leihau ardal ogleddol Ardal Arae Mona o tua 3nm er mwyn cynyddu’r pellter rhwng Ardaloedd Arae Mona a Morgan.
  • Ymrwymo i ddwy linell gyfeiriad.

1.7.7.6 Mae’r Ymgeisydd wedi ymrwymo i ystyried y mesurau rheoli risg ychwanegol hyn drwy wneud astudiaethau ac ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid i sicrhau eu bod yn briodol a digonol i leihau’r risg i mor isel ag yn rhesymol ymarferol (ALARP) cyn cyflwyno’r cais. Bydd mesurau rheoli risg priodol yna’n cael eu sicrhau drwy’r system ganiatâd.

1.7.7.7 Ystyriwyd yr asesiadau o effaith Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona ar longau a mordwyo’n gyfunol â phrosiectau eraill a phrosiectau arfaethedig. Mae’r Ymgeisydd wedi bod yn cydweithredu â datblygwyr prosiectau cronnus eraill i adnabod a rhoi sylw i unrhyw ganlyniadau arwyddocaol. Roedd yr asesiad wedi nodi y byddai’r rhain yn digwydd yn y coridorau rhwng Ardaloedd Arae Morgan a Mona gan gynyddu’r risg i fordwyo a golygu y gallent fod yn anniogel i’w mordwyo mewn tywydd garw. Yn enwedig, roedd yr asesiad o effeithiau cronnus Ardaloedd Arae Mona, Morgan a Morecambe wedi adnabod canlyniadau arwyddocaol:

  • Yn gyntaf, aseswyd y byddai’r effaith ar lwybro mewn tywydd garw o ganlyniad i bresenoldeb prosiectau cronnus yn arwyddocaol. Roedd llwybrau llongau Stena, cwmni Steam Packet Ynys Manaw a Seatruck i gyd yn cael eu heffeithio gan bresenoldeb yr Ardaloedd Arae a’r coridorau. Mewn tywydd garw ac o ganlyniad i led y coridorau rhwng y prosiectau cronnus, roedd angen gwyro llwybrau o gwmpas yr ardaloedd arae. Byddai hyn yn achosi mwy o oedi a chanslo rhai gwasanaethau fferi ychwanegol.
  • Yn ail, aseswyd bod yr effeithiau o ran risg o longau’n gwrthdaro drwy orfod gwyro eu llwybrau a dod ar draws ei gilydd yn amlach oherwydd presenoldeb yr Ardaloedd Arae, yn arwyddocaol. Ni ystyriwyd bod lled y coridorau a lefel y traffig yn ddigon i osgoi gwrthdaro’n effeithiol, yn enwedig rhwng Ardaloedd Arae Mona a Morgan. Hefyd, roedd risg y gallai cychod bach, gan gynnwys llongau trosglwyddo criw, cychod pysgota a llongau hamdden wrthdaro o fewn y coridorau.
  • Yn drydydd, roedd effaith arwyddocaol ar y risg o ardrawiad wedi’i adnabod. O ran y risg o wrthdrawiad, gallai presenoldeb coridorau cul yn ystod tywydd garw ynghyd ag osgoi traffig arall achosi i longau masnach ddod i gysylltiad ag elfennau o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

1.7.7.8 I fynd i’r afael â’r canlyniadau arwyddocaol, mae’r Ymgeisydd wedi ymrwymo i opsiynau rheoli risg ychwanegol i leihau’r risgiau i rai Cyffredinol Dderbyniol / Goddefol o dan ALARP gan gynnwys newid ffiniau’r Arae a rheolaeth ychwanegol ar symudiadau llongau (wele baragraff 1.7.7.5). Mae Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona wedi ymrwymo i ystyried y mesurau rheoli risg ychwanegol hyn drwy wneud astudiaethau ac ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid i sicrhau eu bod yn briodol a digonol i leihau’r risg i fod yn ALARP cyn cyflwyno’r cais. Bydd mesurau rheoli risg priodol yna’n cael eu sicrhau drwy’r system ganiatâd.

1.7.7.9 Mae’r effeithiau trawsffiniol wedi cael eu sgrinio ac unrhyw botensial ar gyfer effeithiau trawsffiniol arwyddocaol ar fuddiannau llongau a mordwyo Gwledydd eraill oddi wrth Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona wedi cael eu hasesu fel rhan o’r PEIR hwn. Gallai pob llong a chwch fod â pherchennog rhyngwladol neu fod yn teithio rhwng porthladdoedd mewn gwahanol wledydd. Mae’r effeithiau hyn wedi cael eu hadnabod a’u hasesu yn y bennod hon ar longau a mordwyo drwy Asesiad Risg Mordwyo (NRA) ac Asesiad Risg Mordwyo Cronnus Rhanbarthol (CRNRA). Felly ni ddisgwylir unrhyw effeithiau trawsffiniol ychwanegol.

1.7.8 Archeoleg forol


1.7.8.1 Archeoleg forol yw olion ffisegol gorffennol yr hil ddynol sy’n goroesi yn yr amgylchedd morol. Mae hyn yn cynnwys archeoleg forol fel llongddrylliadau a deunyddiau archeolegol cyn-hanesyddol tanddwr sy’n gysylltiedig â thirluniau hynafol. Mae archeoleg forol Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona wedi’i nodweddu drwy wneud adolygiad pen-desg manwl o’r astudiaethau a’r data presennol ochr yn ochr ag asesiad o arolygon geoffisegol safle-benodol ar gyfer Ardal Arae Mona.

1.7.8.2 Mae data’r arolygon yn cadarnhau bod ardaloedd arfordirol tanddwr dwyrain Môr Iwerddon ar un adeg yn rhan o dirlun rhannol ddaearol yn ystod yr Oes Baleolithig Uchaf ac i mewn i’r Oesoedd Mesolithig. Byddai’r ardal astudiaeth archeoleg forol wedi suddo i’r môr yn derfynol, i greu’r arfordir presennol, tuag at ddiwedd yr Oes Fesolithig tua 6000 o flynyddoedd yn ôl. Byddai’r tirlun hwn wedi rhoi cyfle i fodau dynol fanteisio ar adnoddau’r ardal rhwng llanw a thrai yn y cyfnodau hyn ac felly mae’n bosib y gallai deunydd archeolegol sy’n gysylltiedig â’r gweithgareddau hyn fod wedi goroesi.

1.7.8.3 Mae 49 ‘anghysondeb’ a allai fod o ddiddordeb archeolegol wedi eu hadnabod yn y data arolwg ar gyfer Ardal Arae Mona, gan gynnwys tri llongddrylliad a phedwar safle llongddrylliad arall posib. O’r tri llongddrylliad, mae un yn cyd-ddigwydd â safle llongddrylliad hysbys y Tijl Uilenspiegel, cwch pysgota o Wlad Belg a gollwyd yn 1989. Mae’r ddau longddrylliad arall wedi eu hadnabod fel goleulong ôl-ganoloesol neu fodern, a llong stêm bosib o’r Rhyfel Byd Cyntaf.

1.7.8.4 Ni aseswyd y data arolwg geoffisegol ar gyfer Coridor Ceblau Tanddwr Mona eto ond mae’r data pen-desg ar gyfer Coridor Ceblau Tanddwr Mona wedi adnabod dau longddrylliad hysbys yn ardal Coridor Ceblau Tanddwr Mona, gyda data lleoliad dilys. Yr Albanian a’r Nydia yw’r rhain, sef dwy long o’r 19eg ganrif a gollwyd mewn gwrthdrawiad â’i gilydd oddi ar arfordir Pen y Gogarth. Mae’r astudiaeth pen-desg hefyd wedi adnabod 32 cofnod arall a allai gyfateb i olion archeolegol yn ardal Coridor Ceblau Tanddwr Mona ac mae’n bosib y gallai deunydd archeolegol tanddaearol, ac anhysbys hyd yma, fod yn bresennol. Bydd canlyniadau’r asesiad o’r arolwg geoffisegol yn rhoi mwy o wybodaeth i ni am yr amgylchedd archeoleg forol sylfaenol yn ardal Coridor Ceblau Tanddwr Mona, a bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn y Datganiad Amgylcheddol.

1.7.8.5 Mae nifer o effeithiau posib ar archeoleg forol a ‘derbynyddion’ treftadaeth ddiwylliannol o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Aflonyddu ar waddod a dyddodion gan arwain at ganlyniadau anuniongyrchol i archeoleg forol,
  • Difrod uniongyrchol i archeoleg forol,
  • Difrod uniongyrchol i archeoleg forol sydd wedi’i chladdu’n ddwfn
  • Newidiadau i’r gyfundrefn cludo gwaddod.

1.7.8.6 Bydd gweithredu Cynllun Ymchwiliadau Ysgrifenedig (WSI) yn sicrhau, lle bo hynny’n bosib, y gellir osgoi safleoedd archeolegol hysbys, cofnodi unrhyw arsylwadau newydd a bod safleoedd yn cael eu gwarchod neu gofnodi lle bo angen. Ystyriwyd bod aflonyddu ar waddodion a dyddodion gan effeithio ar yr archeoleg forol hysbys o arwyddocâd mân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.8.7 Bydd difrod uniongyrchol i dderbynyddion archeoleg forol yn cael ei liniaru drwy weithredu Ardaloedd Dan Waharddiad Archeolegol (AEZ) o gwmpas pob safle llongddrylliad hysbys a safle posib, a thrwy adolygiad o’r arolygon cyn-adeiladu i benderfynu ar ‘gynllun llawr’ seilwaith diwygiedig o gwmpas unrhyw gyfyngiadau archeolegol newydd eu hadnabod. Gwneir darpariaethau hefyd i gofnodi unrhyw ddarganfyddiadau newydd. Ystyriwyd bod difrod uniongyrchol i dderbynyddion archeoleg forol o arwyddocâd mân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.8.8 Bydd gweithredu WSI a Phrotocol ar gyfer Darganfyddiadau Archeolegol (PAD) yn darparu system o adrodd unrhyw ddeunydd archeolegol cyn-hanesyddol a allai ddod i’r golwg yn ystod oes Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Ystyriwyd bod difrod uniongyrchol i archeoleg forol wedi’i chladdu’n ddwfn o arwyddocâd mân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.8.9 Ar sail y gwaith modelu prosesau ffisegol, aseswyd nad yw strwythurau Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n cael effaith arwyddocaol ar amodau llanw na thonnau. Gan hynny mae unrhyw newid i’r gyfundrefn cludo gwaddod a allai effeithio ar nodweddion archeolegol o arwyddocâd dibwys andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.8.10 Mae’r asesiad o ganlyniadau cronnus yn ystyried yr effaith sy’n gysylltiedig â Phrosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn gyfunol â phrosiectau a chynlluniau eraill. Ystyriwyd bod yr holl effeithiau cronnus a aseswyd o ddim / mân arwyddocâd ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.8.11 Ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau trawsffiniol i fuddiannau archeoleg forol Gwledydd eraill o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

1.7.9 Defnyddwyr môr eraill


1.7.9.1 Mae’r defnyddwyr eraill yn cynnwys gweithgareddau hamdden, ceblau, piblinellau, gweithgareddau cloddio agregau a gwaredu, a gweithgareddau olew a nwy sy’n cynnwys dal a storio carbon.

1.7.9.2 O fewn yr ardal astudiaeth defnyddwyr môr eraill, mae nifer o dderbynyddion yn cynnwys; prosiectau ynni ar y môr (gan gynnwys ffermydd gwynt eraill), gweithgareddau olew a nwy, gweithredwyr ceblau a phiblinellau, cloddio agregau, cysylltiadau cyfathrebu microdon ar y môr, deifio hamdden a safleoedd ymdrochi ynghyd â gweithgareddau hamdden fel hwylio, cychod modur, deifio, chwaraeon dŵr agos i’r lan a physgota ar gyfer hamdden.

1.7.9.3 Mae nifer o effeithiau posib ar ddefnyddwyr môr eraill o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Mae’r effeithiau a aseswyd yn cynnwys:

  • Dadleoli gweithgareddau hamdden
  • Effeithiau ar geblau neu biblinellau
  • Effeithiau ar ardaloedd cloddio agregau
  • Lleihau neu gyfyngu ar weithgareddau chwilio am olew a nwy.

1.7.9.4 Drwy’r mesurau sydd i’w cyflwyno fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. cytundebau croesi masnachol), mae’r effeithiau hyn yn achosi canlyniadau o arwyddocâd mân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.9.5 Mae ymgynghori’n parhau â rhanddeiliaid i gadarnhau effaith ymyrryd â pherfformiad y Systemau Radar Rhybudd Cynnar (REWS) a’r cysylltiadau cyfathrebu microdon ar y môr ar lwyfannau olew a nwy. Bydd yr effeithiau hyn yn cael eu hasesu’n llawn yn y Datganiad Amgylcheddol.

1.7.9.6 Mae’r asesiad o ganlyniadau cronnus yn ystyried yr effaith sy’n gysylltiedig â Phrosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn gyfunol â phrosiectau a chynlluniau eraill. Ystyriwyd bod yr holl effeithiau cronnus a aseswyd o arwyddocâd mân ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.

1.7.9.7 Ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau trawsffiniol i fuddiannau defnyddwyr môr eraill Gwledydd eraill o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

Effeithiau rhyng-gysylltiol (ar y môr)


1.7.10.1 Mae angen i’r EIA ystyried yr effeithiau arwyddocaol anuniongyrchol ac eilaidd tebygol. Er enghraifft, gallai effeithiau ar wahân oherwydd sŵn a cholli cynefin achosi canlyniad i un ‘derbynnydd’ fel mamaliaid morol. Cyflwynir yr asesiad o ganlyniadau rhyng-gysylltiol mewn pennod ar wahân yn y PEIR.

1.7.10.2 Ar sail un neu gyfuniad o’r ffactorau canlynol, ni ystyriwyd bod arwyddocâd cyffredinol unrhyw ganlyniadau rhyng-gysylltiol yn fwy na’r gwerth arwyddocâd a aseswyd ar gyfer canlyniadau unigol yn y penodau pwnc-benodol:

  • Sensitifrwydd isel y derbynyddion
  • Graddfa fach y canlyniadau
  • Cynefinoedd eraill ar gael
  • Mesurau i’w gweithredu fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

Canlyniadau gydol oes y prosiect

1.7.10.3 Gall effeithiau ar grŵp o dderbynyddion achosi canlyniadau rhyng-gysylltiol dros sawl cam ym mywyd Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Er enghraifft, gallai grŵp o dderbynyddion gael eu heffeithio yn ystod camau adeiladu a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Disgrifir y canlyniadau rhyng-gysylltiol hyn fel canlyniadau gydol oes prosiect.

1.7.10.4 Ar gyfer y rhan fwyaf o’r grwpiau derbynyddion sydd wedi eu hadnabod, yn dilyn mesurau sydd i’w gweithredu fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona a mesurau lliniaru pellach (lle bo angen), mae effeithiau a fydd yn codi o gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu’r Prosiect yn annhebygol o achosi canlyniadau gydol oes arwyddocaol. Fodd bynnag, gallai’r Prosiect achosi canlyniadau gydol oes arwyddocaol i EIA i’r grwpiau derbynyddion canlynol ac sy’n cael eu disgrifio ym mhennod Canlyniadau Rhyng-gysylltiol (ar y môr) y PEIR:

  • Pysgodfeydd masnachol: Canlyniad andwyol posib Ardal Arae Mona ar fynediad at diroedd pysgota i gychod cregyn bylchog oddi ar arfordir gorllewin yr Alban
  • Llongau a mordwyo: Canlyniad andwyol posib Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona o ran risg gwrthdrawiad ac ardrawiad i gychod pysgota.

Canlyniadau i dderbynyddion

1.7.10.5 Gallai canlyniadau rhyng-gysylltiol hefyd ddigwydd lle y mae grŵp o dderbynyddion yn cael eu heffeithio gan nifer o effeithiau amgylcheddol. Er enghraifft, gallai colli cynefin, sŵn a llwch yn ystod cam adeiladu prosiect Gwynt Ar y Môr Mona effeithio ar rywogaeth a warchodir. Disgrifir y canlyniadau rhyng-gysylltiol hyn felcanlyniadaui dderbynyddion.

1.7.10.6 Mae’r holl ganlyniadau i dderbynyddion sydd wedi eu hadnabod yn ystod camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, eisoes wedi cael eu hystyried ym mhenodau perthnasol y PEIR. Felly nid yw arwyddocâd posib y canlyniadau i dderbynyddion oddi wrth Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona ar bob un o’r grwpiau derbynyddion perthnasol ei ystyried ymhellach ym mhennod Canlyniadau Rhyng-gysylltiol (ar y môr) y PEIR.