Skip to content
Ar y dudalen hon

1.5 Dewis safle ac opsiynau eraill

1.5.1 Trosolwg


1.5.1.1 Mae’r Ymgeisydd wedi gweithredu proses dewis safle i adnabod ble y bydd seilwaith Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn cael ei leoli. Y nod oedd adnabod safleoedd a llwybrau sy’n amgylcheddol dderbyniol, ymarferol i’w darparu ac a fyddai’n cael caniatâd ond hefyd yn cynnig manteision tymor hir o ran gallu pasio’r gost isaf am ynni i’r defnyddiwr.

1.5.1.2 Mae’r broses wedi ystyried ffactorau yn ogystal â chyfleoedd amgylcheddol, ffisegol, technegol, masnachol a chymdeithasol, ynghyd â’r gofynion peirianyddol. Mae pob cam o’r broses dewis safle’n rhan o broses ddylunio sy’n cael ei diwygio’n barhaus er mwyn adnabod y lleoliadau a’r cynllun cyfosod mwyaf addas ar gyfer seilwaith Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

1.5.2 Adnabod Ardal Arae Mona


1.5.2.1 Yn 2018 lansiodd Ystâd y Goron (TCE) Rownd 4 y broses Prydlesu Gwynt Ar y Môr. Roedd Ardal Fidio Gogledd Cymru a Môr Iwerddon yn un o bedair Ardal Fidio a gafodd eu hadnabod gan TCE drwy Rownd 4 y broses Prydlesu Gwynt Ar y Môr. Cafodd Ardal Arae Mona ei hadnabod oddi mewn i Ardal Fidio Gogledd Cymru a Môr Iwerddon.

1.5.2.2 Roedd maint Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona wedi’i gyfyngu i’r de drwy fod yn ofynnol iddo gadw o leiaf 1nm draw o fesur llwybr llongau’r Sefydliad Morwrol Rhyngwladol (Cynllun Gwahanu Traffig Lerpwl). Roedd Ardal Arae Mona wedi’i chyfyngu i’r dwyrain gan y seilwaith olew a nwy a oedd yn ei le yn yr ardal hon, gyda’r agosaf (llwyfan Conwy sy’n cael ei redeg gan Eni) wedi’i leoli tua 1.8km o Ardal Arae Mona. Roedd Ardal Arae Mona wedi’i chyfyngu i’r dwyrain ac i’r de gan benderfyniad y prosiect i gadw 10km draw o SPA Bae Lerpwl.

1.5.2.3 Bydd diwygiadau pellach i Ardal Arae Mona’n cael eu gwneud rhwng y PEIR a’r cais am ganiatâd. Bydd Ardal derfynol Arae Mona’n cael ei disgrifio’n fanwl yn y Datganiad Amgylcheddol fydd yn cael ei gyflwyno gyda’r cais am ganiatâd.

1.5.3 Adnabod Coridor Ceblau Tanddwr Mona


1.5.3.1 Bydd y newidiadau sydd angen eu gwneud i’r rhwydwaith trydan i dderbyn cysylltiadau tanddwr newydd o seilwaith ynni ar y môr yn cael eu cydlynu gan Weithredwr System Drydan y Grid Cenedlaethol (NGESO). Penderfynodd y Gweithredwr mai’r opsiwn cysylltu a fyddai’n cynnig y dyluniad gorau (economaidd, effeithlon a chydgysylltiedig) ar ôl ystyried yr holl feini prawf (h.y. technegol, cost, amgylcheddol ac ymarferol) ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, oedd cysylltiad grid ‘rheiddiol’ i is-orsaf Bodelwyddan yng ngogledd Cymru.

1.5.3.2 Un o’r prif ystyriaethau wrth benderfynu ar lwybr y ceblau tanddwr ac ar y lan oedd adnabod yr opsiynau ‘glanfa’ yng nghyffiniau is-orsaf y Grid Cenedlaethol ym Modelwyddan. Cafodd ardal chwilio gychwynnol ei hadnabod ar gyfer yr opsiynau glanfa rhwng trefi Llanddulas a Phrestatyn ar yr arfordir. Byddai angen i’r ardal chwilio am safleoedd glanfa ystyried opsiynau ymarferol ar gyfer y ceblau allforio tanddwr ac osgoi dynodiadau ecolegol SAC, SPA a Safle Ramsar Aber Afon Dyfrdwy i’r dwyrain, a SAC Afon Menai a Bae Conwy i’r gorllewin.

1.5.3.3 Dyluniwyd Coridor Ceblau Tanddwr Mona i osgoi ‘cyfyngiadau caled’, gan gynnwys y ffermydd gwynt morol presennol (ardal Cytundebau Prydlesu Burbo Bank, Gwynt y Môr, Awel y Môr), ardal angori, seilwaith o biblinellau a cheblau ac Ardal 457 cloddio agregau morol ‘Bae Lerpwl’. Ceisiodd hefyd, cyn belled ag y bo’n bosib, osgoi’n benodol dod i unrhyw gysylltiad â dynodiadau ecolegol allweddol gan gynnwys SAC a SPA Aber Afon Dyfrdwy, SPA Traeth Lafan ac SPA Môr-wenoliaid Ynys Môn. Y bwriad oedd dod i gyn lleied o gysylltiad â phosib â dynodiadau ecolegol na ellid eu hosgoi, yn benodol SAC Afon Menai a Bae Conwy, ac SPA Bae Lerpwl.

1.5.3.4 Cafodd nifer o opsiynau llwybr posib ar gyfer Coridor Ceblau Tanddwr Mona eu hadnabod a’u rhoi gerbron ar gyfer eu dadansoddi a’u diwygio ymhellach. Diystyriwyd rhai llwybrau oherwydd ymarferoldeb technegol a gorgyffwrdd â chyfyngiadau.

1.5.3.5 Mae’r Coridor Ceblau Tanddwr Mona terfynol sydd wedi’i gynnwys yn y PEIR (Figure 1.1) yn gorgyffwrdd â’r cyfyngiadau canlynol:

  • SPA Bae Lerpwl: mae’r safle mawr hyn yn ymestyn oddi ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn i Fae Morecambe ac felly ni ellir osgoi croesi’r safle gyda Choridor Ceblau Tanddwr Mona
  • SAC Afon Menai a Bae Conwy: Mae rhan fach o Goridor Ceblau Tanddwr Mona’n gorgyffwrdd â SAC Afon Menai a Bae Conwy. Mae Coridor Ceblau Tanddwr Mona’n osgoi’r nodweddion a fapiwyd o’r SAC
  • Nodwedd Traethell Anecs 1 Constable Bank: nid yw’r Ymgeisydd wedi gallu adnabod llwybr sy’n osgoi Constable Bank ac sydd hefyd yn osgoi nodweddion rîff dynodedig SAC Afon Menai a Bae Conwy. Mae’r Ymgeisydd wedi llwybro Coridor Ceblau Tanddwr Mona cyn belled i’r gorllewin â phosib i osgoi’r nodwedd Constable Bank a fapiwyd gan y Morlys.
  • Rîff Sabellaria alveolata: Roedd arolwg o ardal ryng-lanwol Coridor Ceblau Tanddwr Mona wedi adnabod rîff Sabellaria alveolata aeddfed sy’n gynefin Anecs 1 wrth y lanfa. Mae’r Ymgeisydd wedi mapio’r cynefin hwn ac ymrwymo i gynnal ardal glustog o 50m draw o leoliad presennol y rîff.

1.5.4 Adnabod Coridor Ceblau Ar y Lan Mona


1.5.4.1 Drwy gyfeirio at yr ardal chwilio y penderfynwyd arni, a thrwy ddadansoddi’r cyfyngiadau, lluniwyd rhestr o opsiynau posib ar gyfer Coridor Ceblau Ar y Lan Mona. Mae lleoliad Coridor Ceblau Ar y Lan Mona wedi’i dywys gan leoliad is-orsaf y Grid Cenedlaethol ym Modelwyddan a lleoliad y lanfa yng nghyswllt safle arfaethedig yr is-orsaf ar y lan.

1.5.4.2 Cafodd proses aml-ddisgyblaethol o ddiwygio parhaus ei dilyn gan ystyried ffactorau fel peirianneg, adeiladu, cost, amgylcheddol, cymunedol, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid i ddatblygu’r opsiynau llwybr ar gyfer y ceblau ar y lan. Cynhaliwyd cyfres o weithdai tîm mewnol Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona i sicrhau bod pob un o’r ffactorau’n cael eu hystyried yn iawn.

1.5.4.3 Yng ngham hwn y gwaith arfaethedig o ddatblygu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, nodwyd y byddai Coridor Ceblau Ar y Lan Mona’n pasio drwy SoDdGA Carreg Galch Llanddulas a Choed Castell Gwrych a choetir hynafol. Derbynnir y byddai torri ffosydd agored drwy’r ardal yn debygol o arwain at:

  • Torri drwy goetir SoDdGA a hynny yn ei dro’n arwain at ganlyniad ecolegol arwyddocaol a chraffu ychwanegol ar ddewis safle
  • Newid parhaol i’r coetir ym Mharc a Gardd Hanesyddol Castell Gwrych (h.y. ei dynnu allan) a fyddai’n golygu bod angen tir yn ei le i wneud yn iawn am y colledion
  • Newid parhaol amlwg iawn i’r coetir gan achosi canlyniad gweledol arwyddocaol o lwybr yr arfordir a’r A55 oherwydd ni ellir plannu coed dros lwybr y ceblau ar y lan
  • Canlyniad arwyddocaol posib yn gysylltiedig â newid gosodiad hanesyddol Castell Gwrych.

1.5.4.4 Fel datblygwr cyfrifol, mae’r Ymgeisydd wedi ymrwymo’n gynnar i ddefnyddio technegau ‘dim tyllu’ (HDD, meicro-dwnelu, tyllu llorweddol, ayyb, sydd eto i’w benderfynu) i osgoi’r canlyniadau posib hyn.

1.5.4.5 Ar ôl ymchwilio’n fanwl i’r rhan o Goridor Ceblau Ar y Lan Mona sy’n croesi rhwng Ffordd Abergele a Ffordd Glascoed ac is-orsaf y Grid Cenedlaethol ym Modelwyddan, mae nifer o gyfleustodau pwysig (prif bibell nwy pwysedd uchel, prif bibell ddŵr a gwifrau uwchben) wedi eu hadnabod sy’n golygu na ellir llwybro’r ceblau mewn llinell syth.

1.5.4.6 O’r herwydd, mae Coridor Ceblau Ar y Lan Mona, yn ôl yr asesiad yn y PEIR, yn cynnwys opsiynau fydd yn cael eu diwygio ar ôl ymgynghori ffurfiol. O fewn Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona, mae llwybrau ~100m posib wedi eu hadnabod. Erbyn y cais terfynol, bydd un llwybr ~70m yn cael ei ddiffinio’n ymgorffori canlyniadau astudiaethau sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac adborth o’r broses ymgynghori.

1.5.4.7 Ar ôl ymgynghori ar y PEIR, bydd Coridor Ceblau Ar y Lan Mona’n cael ei adolygu ac opsiwn terfynol yn cael ei ddewis ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona a’i EIA, ar gyfer eu cynnwys yn y Datganiad Amgylcheddol.

1.5.5 Adnabod opsiynau is-orsaf ar y lan ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona


1.5.5.1 Yr egwyddorion sy’n tywys y broses o ddewis lleoliad yr is-orsaf ar y lan yw sicrhau cysylltiad economaidd ac effeithlon (h.y. mor agos â phosib i bwynt cysylltu’r Grid Cenedlaethol) gan hefyd ystyried y ffactorau amgylcheddol. Diffiniwyd ardal chwilio’r is- orsaf ar y lan i ddechrau fel ardal glustog o 3km o gwmpas y pwynt cysylltu i’r grid wrth is-orsaf y grid ym Modelwyddan.

1.5.5.2 Cafodd yr ardal glustog o 3km yna ei hymestyn i 5km yn dilyn adolygiad peirianyddol o’r uchafswm pellter trydanol rhwng is-orsaf ar y lan Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, ac is-orsaf y Grid Cenedlaethol. Roedd hyn hefyd yn cynyddu’r nifer o ardaloedd posib ar gyfer lleoli’r is-orsaf ar y lan fel rhan o’r broses dewis safle. Cafodd y cyfyngiadau caled (e.e. seilwaith, ardaloedd tirlenwi, ffyrdd, rheilffyrdd, gwifrau uwchben, ayyb) eu mapio a’u tynnu allan o’r ardal chwilio.

1.5.5.3 Roedd pum ardal chwilio wedi cael eu hadnabod ar gyfer yr is-orsaf ar y lan, a’u terfynau’n cyd-derfynu ag ardaloedd o gyfyngiadau caled. Gwnaed arfarniad o bob ardal. Dim ond Ardal 5 y penderfynwyd ei chadw i’w hasesu ymhellach ar ôl diystyru’r pedair arall.

1.5.5.4 Ymhlith y prif ardaloedd a dynnwyd allan o’r ardal chwilio oedd dinas Llanelwy a’i hadeiladau rhestredig ac Ardal Gadwraeth gysylltiedig, yn ogystal â’r brif Afon (Elwy) a’i Pharthau Llifogydd 2 a 3 cysylltiedig i’r dwyrain. Diwygiwyd y terfyn deheuol i osgoi hyd arall o Afon Elwy a’i pharthau llifogydd cysylltiedig, ynghyd â SAC Coedwigoedd Dyffryn Elwy, SoDdGA Coedydd ac Ogofâu Elwy a Meirchion a Thirwedd Hanesyddol Pen Isaf Dyffryn Elwy, sy’n cynnwys adeiladau rhestredig a Henebion Cofrestredig gwasgaredig.

1.5.5.5 Yna defnyddiwyd yr ardal chwilio hon (Ardal 5) fel sail ar gyfer dewis darnau o dir a oedd ar gael i leoli is-orsafoedd ar y lan posib ar gyfer y broses dewis safle. Ochr yn ochr â’r cam Cwmpasu ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona rhwng Mawrth a Mehefin 2022, lluniwyd rhestr hir o ardaloedd is-orsaf ar y lan o fewn yr ardal chwilio.

1.5.5.6 Yn dilyn ymgynghori’n statudol â rhanddeiliaid a gwaith dadansoddi peirianyddol pellach, a phroses o ddiystyru, penderfynwyd cynnwys saith opsiwn ar y rhestr fer ar gyfer lleoli’r is-orsaf ar y lan. Defnyddiwyd y rhestr fer hon o opsiynau is-orsaf ar y lan yn sail i gynnal ymgynghoriad targed ar yr opsiynau is-orsaf ar y lan rhwng dydd Llun 26 Medi 2022 tan ddydd Llun 7 Tachwedd 2022. Dyluniwyd yr ymgynghoriad targed yn benodol i holi barn pobl am leoliadau’r rhestr fer gyda’r bwriad o gyfuno’r asesiad amgylcheddol a’r astudiaethau technegol sydd ar y gweill â gwybodaeth leol i helpu i gulhau’r opsiynau ar gyfer lleoli’r is-orsaf ar y lan i’w hasesu gan y PEIR. Bwriad yr ymgynghoriad oedd dewis lleoliad(au) a ffafrir ar gyfer yr is-orsaf ar y lan i’w cynnwys yn y PEIR gan fwydo mewn i’r broses o ddewis is-orsaf a ffafrir ar gyfer y Datganiad Amgylcheddol. Cynhaliwyd cyfarfodydd ymgynghori yn Neuadd Bentref Bodelwyddan, a hefyd fel gweminar ar-lein, gyda ffurflenni adborth ar gael ar wefan Prosiect Gwynt ar y Môr Mona a’r opsiwn o e-bostio, llenwi ffurflen neu ffonio rhif di-dâl.

1.5.5.7 Ar ôl derbyn yr ymatebion, adolygwyd yr opsiynau a ffafrir ar gyfer yr is-orsaf ar y lan ymhellach. Ar ôl diystyru’r opsiynau ar y rhestr hir, penderfynwyd mai’r ddau opsiwn canlynol yw’r rhai a ffafrir ar gyfer lleoli’r is-orsaf ar y lan: Opsiwn Is-orsaf Ar y Lan 2, ac Opsiwn Is-orsaf Ar y Lan 7.

1.5.5.8 Ystyriwyd a chymharwyd dwy ardal a ffafrir er mwyn penderfynu ar opsiynau a ffafrir ar gyfer eu hasesu gan y PEIR ac ymgynghori arnynt. Ystyriwyd ymhellach faterion fel topograffi, mynediad, y fframwaith tirluniau / sgrinio tirluniau, hydroleg ac amodau ar y ddaear, gan roi ffocws penodol ar dreftadaeth, ecoleg ac asesiad LVIA. Ni wnaed unrhyw benderfyniad ar ba opsiwn is-orsaf ar y lan a ffafrir ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Bydd yr ardaloedd is-orsaf ar y lan awgrymol a gynigir i bwrpas y PEIR yn cael eu diwygio ymhellach ac yn destun mwy o ymchwiliadau safle, gwaith dylunio technegol, y gwaith dadansoddi EIA sydd ar y gweill, ac unrhyw adborth a dderbyniwyd yn ystod ymgynghori’n ffurfiol yn y cam PEIR. Gwneir penderfyniad ar ôl y cam PEIR am ba opsiwn is-orsaf ar y lan a ffafrir, i’w gyhoeddi rhwng canol a diwedd 2023.

1.5.6 Y camau nesaf


1.5.6.1 Bydd yr Ymgeisydd yn parhau i ddatblygu a diwygio dyluniad y prosiect wrth iddo symud tuag at y cais terfynol am Ganiatâd Datblygu, ac ar ôl hynny tuag at gam y gwaith adeiladu. Ar hyn o bryd mae Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona yng ngham 4 y broses ddylunio. Hyd yma, mae’r Ymgeisydd wedi trafod ag ystod o randdeiliaid fel rhan o ddiwygio’r prosiect ac adnabod opsiynau addas o blith y rhai a ystyriwyd.

1.5.6.2 Wrth i Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona symud ymlaen o’r cam ymgynghori statudol, bydd yr Ymgeisydd yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy’r Gweithgorau Arbenigol (EWG) a dulliau ymgynghori eraill fel bo angen. Bydd yr Ymgeisydd yn parhau i ddiweddaru rhanddeiliaid ar ddyluniad y prosiect wrth iddo barhau i esblygu, ac ar y broses o ddewis opsiynau a ffafrir os ydynt yn parhau i gael eu hystyried.