Skip to content
Ar y dudalen hon

1.3 Polisi a deddfwriaeth


1.3.1.1 Mae’r adran yma’n rhoi crynodeb o’r cyd-destun polisi a deddfwriaeth ar gyfer prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, o ran y broses ganiatâd, gan gynnwys manylion am Ddeddf Gynllunio 2008 a’r polisi cynllunio cysylltiedig.

1.3.1.2 Disgrifir polisi a deddfwriaeth sy’n benodol i wahanol bynciau amgylcheddol a’r EIA ym mhenodau pwnc unigol y PEIR hwn. Mae hyn yn cynnwys (fel y bo’n berthnasol) Datganiadau Polisi Cenedlaethol, Polisi Cynllunio Cymru a chyfeiriad at yr awdurdodau lleol isod a’u Cynlluniau Datblygu Lleol:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig
  • Cyngor Sir Ddinbych: Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig.

1.3.2 Y gyfundrefn ganiatâd


1.3.2.1 Mae angen caniatâd ar Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona o dan Ddeddf Gynllunio (diwygiwyd) 2008. Rhaid hefyd cael trwydded forol ar wahân, o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, ar gyfer rhai gweithgareddau morol sy’n gysylltiedig â’r cêbl allforio. Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r broses ganiatâd ac yn disgrifio’r gofynion cyfreithiol ar gyfer EIA.

1.3.2.2 Mae angen EIA er mwyn asesu canlyniadau rhai prosiectau i’r amgylchedd, o dan Gyfarwyddeb 2011/92/EU yr Undeb Ewropeaidd (a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2014/52/EU) (Cyfarwyddeb yr EIA). Mae Cyfarwyddeb yr EIA yn cael ei throsi’n gyfraith Lloegr ar gyfer prosiectau NSIP gan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesiad o Ganlyniadau i’r Amgylchedd) 2017.

1.3.2.3 Mae Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesiad o Ganlyniadau i’r Amgylchedd) 2017 (diwygiwyd) a Rheoliadau Gwaith Morol (Asesiad o Ganlyniadau i’r Amgylchedd) 2007 (diwygiwyd) yn nodi beth yw’r gofynion ar gyfer EIA o dan Ddeddf Gynllunio 2008 (gan gydymffurfio â Chyfarwyddeb yr EIA) yn y naill achos a Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 yn achos y llall.

1.3.2.4 Mae’r EIA yn sicrhau bod gan wneuthurwr y penderfyniadau ddigon o wybodaeth am ganlyniadau arwyddocaol tebygol prosiect i’r amgylchedd. Disgrifir cynllun yr EIA ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn adran 1.6 isod.

1.3.3 Rheoliadau Cynefinoedd


1.3.3.1 O dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (diwygiwyd) a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Ar y Môr 2017 (diwygiwyd), rhaid asesu unrhyw ganlyniadau arwyddocaol i safleoedd cadwraeth natur rhyngwladol bwysig a allai godi o ganlyniad i brosiect. Mae’r safleoedd rhyngwladol bwysig hyn yn cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SACs), neu ymgeisydd ardaloedd SAC (cSACs), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (SPAs) neu ddarpar ardaloedd SPA (pSPAs), Safleoedd o Bwysigrwydd Cymunedol (SCI) a safleoedd Ramsar. Bydd yr asesiad yn cael ei wneud gan yr ‘awdurdod cymwys’, ac yn achos Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Sicrwydd Ynni a Sero Net yw’r person yma (yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) o’r blaen) ar gyfer seilwaith sy’n llwyr o fewn dyfroedd agos i’r lan ac oddi ar arfordir Cymru, dyfroedd ar y môr a’r lan yn Lloegr, a gan NRW ar gyfer y ceblau allforio trydan tanddwr a gwaith cysylltiedig mewn dyfroedd oddi ar arfordir Cymru.

1.3.3.2 Er mwyn cynnal yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA), mae’r awdurdod cymwys yn disgwyl derbyn adroddiad gyda’r cais am ganiatâd datblygu’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn gallu cynnal yr Asesiad Priodol. Cyflwynir Gwybodaeth Ddrafft i Ategu’r Asesiad Priodol (ISAA) gyda’r adroddiad PEIR. Bydd yr ISAA yn cael ei gytuno’n derfynol ar ôl cwblhau’r ymgynghori cyn-cais ac yn cael ei gyflwyno gyda’r cais am ganiatâd datblygu i’r Ysgrifennydd Gwladol.