1.9 Canlyniadau posib i’r amgylchedd – ar y môr ac ar y lan
1.9.1 SLVIA
1.9.1.1 Mae’r Asesiad Morlun, Tirlun ac Effaith Weledol (SLVIA) yn asesu effeithiau posib Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona ar gymeriad y morlun a’r tirlun ac ar adnoddau gweledol. Mae adnoddau a derbynyddion morlun, tirlun ac adnoddau gweledol yn cyfeirio at gymeriad presennol y morlun, elfennau ffisegol y tirlun, cymeriad y tirlun, ardaloedd a ddynodwyd am eu nodweddion golygfaol neu dirluniol, a golygfeydd o leoliadau sydd ar gael i’r cyhoedd fel Tir Mynediad, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a ffyrdd trafnidiaeth. Cytunwyd ag ymgyngoreion statudol y byddai ardal astudiaeth SLVIA ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n ardal 50km i ffwrdd o Ardal Arae Mona, 20km ar gyfer yr is-orsafoedd trosi foltedd ar y môr (o fewn ardal astudiaeth 50km Ardal Arae Mona), ardal glustog o 1km i ffwrdd o Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona a 10km o’r is-orsaf ar y lan.
1.9.1.2 Mae nifer o effeithiau arwyddocaol posib ar y morlun, tirlun ac adnoddau a derbynyddion gweledol o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Rhoddir crynodeb o ganfyddiadau’r SLVIA isod.
1.9.1.3 Byddai Ardal Arae Mona’n achosi canlyniadau uniongyrchol i Barth Sensitifrwydd Morlun 2 (SSZ) Cymru, gyda rhan lai o Ardal Arae Mona yn SSZ 5 Cymru a rhan fach iawn o Ardal Arae Mona yn Ardal Cymeriad Morol (MCA) 38 Lloegr. Byddai’r rhan yma o’r morlun a fyddai’n cynnwys Ardal Arae Mona’n achosi canlyniadau arwyddocaol lleol iawn a fyddai’n lleihau gyda phellter ac sydd mewn ardal wedi’i nodweddu’n rhannol gan longau masnach a fferis, seilwaith môr statig a nifer o ffermydd gwynt gweithredol ar y môr gan gynnwys clwstwr i’r de-ddwyrain o Ardal Arae Mona oddi ar arfordir Gogledd Cymru, a chlwstwr i’r gogledd-ddwyrain o Ardal Arae Mona oddi ar arfordir gogledd-orllewin Lloegr.
1.9.1.4 O ran yr ardal o ddyfroedd morol sy’n cynnwys Ardal Arae Mona, byddai canlyniad arwyddocaol andwyol i gymeriad y morlun yn cael ei achosi yn ystod camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Byddai’r canlyniad arwyddocaol hirdymor i’r morlun, er y gellid ei wrthdroi, yn ymestyn yn weddol bell o Ardal Arae Mona ar draws SSZ 2, SSZ 5 a MCA 38 yn ystod y camau gweithredol a chynnal a chadw. Mae’r canlyniadau arwyddocaol i’r morlun y disgwylir iddynt gael eu hachosi yn ystod adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n rhai lleol i’r parthau SSZ a’r MCA uchod ac ni fyddent yn effeithio’n sylweddol ar yr ardaloedd hyn ar y cyfan.
1.9.1.5 Ni ddisgwylir yr achosir canlyniadau arwyddocaol i ardaloedd cymeriad tirlun yn ystod camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Mae Ardal Arae Mona’n gorwedd 28.2km o’r tir agosaf yng Ngogledd Cymru – gogledd-ddwyrain Ynys Môn sy’n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) Ynys Môn, a Phen y Gogarth, yw’r rhannau agosaf o arfordir Gogledd Cymru. Oherwydd y pellter gwahanu rhwng yr ardaloedd cymeriad arfordirol hyn ac Ardal Arae Mona, ynghyd â chymeriad sylfaenol presennol y morlun fel y disgrifiwyd yn flaenorol, byddai unrhyw ganlyniadau arwyddocaol andwyol i’w gymeriad yn cael eu hosgoi.
1.9.1.6 Ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau arwyddocaol yn ystod camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona i dirluniau dynodedig cenedlaethol sef Parc Cenedlaethol Eryri, AoHNE Ynys Môn ac AoHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Daeth yr asesiad felly i’r casgliad na fyddai nodweddion arbennig y tirluniau dynodedig cenedlaethol hyn yn newid ac na fyddai Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n gwrthdaro na’n bygwth y rhesymau dros eu dynodi.
1.9.1.7 Disgwylir canlyniad arwyddocaol andwyol i’r tirlun yn ystod camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona ar gyfer tir o fewn unrhyw un o safleoedd posib yr is-orsaf ar y lan drwy golli porfa neu dir âr, gwrychoedd a choed gwrych aeddfed. Bydd hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar dderbynyddion tirlun ac ôl-troed haenau’r Ardaloedd Nodweddion LANDMAP y lleolir y ddau safle is-orsaf posib ynddynt. Gallai effeithio’n anuniongyrchol ar yr haenau o Ardaloedd Nodweddion LANDMAP sydd gerllaw i’r rhai yr effeithir yn
uniongyrchol arnynt.
1.9.1.8 Mae’n bosib y byddai canlyniadau uniongyrchol arwyddocaol i’r tirlun yn ystod y cam o adeiladu llwybr ceblau ar y lan Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, drwy golli porfa neu dir âr, gwrychoedd a choed gwrych aeddfed dros dro. Mae’r canlyniadau uniongyrchol hyn yn cynnwys rhai i Ardal Tirwedd Arbennig (SLA) Rhyd y Foel i Abergele. Bydd canlyniadau uniongyrchol llai di-arwyddocaol yn ystod y camau gweithredol a chynnal a chadw, a chanlyniadau dibwys yn ystod datgomisiynu. Bydd creu’r coridor ceblau’n achosi effeithiau anuniongyrchol i SLA Dyffrynnoedd Elwy ac Aled. Bydd tirlun yr Ardaloedd Nodweddion LANDMAP y bydd llwybr ceblau ar y lan Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n pasio drwyddo’n cael ei effeithio’n uniongyrchol. Gallai effeithio’n anuniongyrchol ar yr Ardaloedd Nodweddion LANDMAP sydd gerllaw i’r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol. Mae’r canlyniadau adeiladu hyn yn rhai dros dro. Nid yw canlyniadau’r camau gweithredol a chynnal a chadw’n rhai arwyddocaol. Bydd y canlyniadau yn ystod datgomisiynu’n rhai dibwys oherwydd bwriedir gadael y cêbl yn ei le.
1.91.9 Achosir canlyniad arwyddocaol mân i gymedrol andwyol gan bobl sy’n defnyddio’r prif lwybrau fferi yn ystod y camau adeiladu a datgomisiynu, gyda chanlyniad gweledol cymedrol andwyol efallai’n cael ei achosi gan yr un derbynyddion yn ystod y camau gweithredol a chynnal a chadw.
1.9.1.10 Disgwylir canlyniad gweledol cronnus andwyol arwyddocaol i nodweddion parthau’r SSZ a’r MCA yn ystod camau gweithredol a chynnal a chadw Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona mewn cyfuniad â ffermydd gwynt ar y môr eraill ym Môr Iwerddon.
1.9.1.11 Disgwylir canlyniad gweledol cronnus andwyol arwyddocaol i bobl ar fwrdd y fferis o Lerpwl i Douglas ac o Heysham i Douglas, o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona mewn cyfuniad â phrosiectau, cynlluniau a gweithgareddau eraill a ystyrir yn y CEA, wrth basio i’r dwyrain o Ardal Arae Mona.
1.9.1.12 Disgwylir canlyniad gweledol cronnus andwyol arwyddocaol i ddefnyddwyr y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus, gan gynnwys i bobl yn cerdded ar hyd Llwybr Clawdd Offa wrth iddo groesi AoHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ac ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, oherwydd effaith Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona mewn cyfuniad â phrosiectau, cynlluniau a gweithgareddau eraill a ystyrir yn y CEA. Bydd y canlyniadau hyn yn cael eu hachosi yn ystod camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu is-orsafoedd ar y lan Mona, ac yn ystod y cam o adeiladu llwybr ceblau ar lan Mona.
1.9.1.13 Disgwylir canlyniad gweledol cronnus andwyol arwyddocaol oherwydd effaith Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona mewn cyfuniad â phrosiectau, cynlluniau a gweithgareddau eraill a ystyrir yn y CEA yn ystod y camau gweithredol a chynnal a chadw, i bobl yn cerdded ar hyd Llwybr Clawdd Offa yn ardal AoHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
1.9.2 Awyrennau a radar
1.9.2.1 Mae awyrennau a radar yn ymwneud â’r rhyng-gysylltiadau rhwng Ardal Arae Mona a gweithgareddau awyrennau yn y cyffiniau (e.e. gweithgareddau meysydd awyr, aerodrom a chwilio ac achub).
1.9.2.2 Mae’r ardal astudiaeth awyrennau a radar yn cynnwys y systemau radar awyrennau sy’n darparu gwasanaeth dros Ardal Arae Mona ac a allai adnabod yr uchder blaen llafn tyrbin gwynt uchaf o 324m uwchlaw’r Llanw Seryddol Isaf (LAT). Diffiniwyd yr ardal ar sail Polisi a Chanllawiau’r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) ar barthau ymgynghori a meini prawf Tyrbinau Gwynt yng Nghyhoeddiad Hedfan Sifil (CAP) 764 (CAA, 2016a).
1.9.2.3 Byddai Ardal Arae Mona’n cael ei lleoli mewn ardal aml-haen o awyrofod di-reoledig lefel is ac awyrofod rheoledig lefel uwch (CAS). Uwchben ac o gwmpas Ardal Arae Mona, defnyddir yr awyrofod di-reoledig gan awyrennau milwrol a sifil cofrestredig. Nid oes unrhyw Ardaloedd Ymarfer Milwrol (PEXA) yn ddigon agos i Ardal Arae Mona i achosi unrhyw ganlyniadau ac felly ni fydd unrhyw rwystr uniongyrchol i weithgareddau yn yr awyr sy’n digwydd mewn ardaloedd PEXA. Mae rhwydwaith o Ddangosyddion Prif Lwybr Hofrenyddion (HMRI) i’r dwyrain a’r de-ddwyrain o Ardal Arae Mona. Nid oes unrhyw HMRI yn croesi Ardal Arae Mona. Lleolir y rhain yn ddigon pell i beidio â chael eu heffeithio gan weithrediad Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona.
1.9.2.4 Mae nifer o effeithiau posib ar awyrennau a radar, yn gysylltiedig â chamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Mae’r effeithiau a aseswyd yn cynnwys creu rhwystrau ffisegol i weithgareddau awyrennau, a thyrbinau gwynt yn ymyrryd â systemau radar gwyliadwraeth awyrennau sifil a milwrol. Roedd mesurau sydd i’w gweithredu fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. goleuadau a marcio) hefyd wedi cael
eu cyflwyno.
1.9.2.5 Bydd creu rhwystrau ffisegol i weithgareddau awyrennau’n digwydd yn ystod y camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu fel rhan o’r gwaith o osod neu dynnu gwrthrychau ffisegol ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Bydd hyn yn effeithio ar weithgareddau milwrol a hedfan isel eraill. Ystyrir bod arwyddocâd y canlyniad yn un mân andwyol ar draws holl gamau Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.9.2.6 O ran tyrbinau’n ymyrryd â systemau radar gwyliadwraeth sifil a milwrol, byddai’r tyrbinau yn Ardal Arae Mona, mewn theori, yn gallu cael eu synhwyro gan system radar NATS Lowther Hill, system radar (PSR) St Anne a Great Dun Fell, system radar Maes Awyr Ronaldsway (Ynys Manaw), system radar Maes Awyr Lerpwl a system PSR BAE Warton. Gallai tyrbinau gwynt a fyddai’n cael eu synhwyro gan systemau PSR ddiraddio’r system drwy greu targedau ffug, lleihau sensitifrwydd y system, creu cysgodion radar y tu ôl i’r tyrbinau a ‘gorlwytho’ y derbynnydd radar drwy ei ‘orlenwi’ gan efallai guddio targedau awyrennau go iawn. Ar y cyfan ac ar ôl ystyried y mesurau lliniaru, disgwylir i arwyddocâd yr effaith fod yn fân andwyol ac felly’n
ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.9.2.7 Ystyrir y byddai’r canlyniadau cronnus drwy greu rhwystrau ffisegol i weithgareddau awyrennau yn fân yn ystod holl gamau Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona oherwydd na fyddai’r effaith yn eang ar draws y rhanbarth, ac felly’n ddi-arwyddocaol yn
nhermau EIA.
1.9.2.8 Disgwylir i’r canlyniadau cronnus wrth i’r tyrbinau gwynt ymyrryd â systemau radar gwyliadwraeth sifil a milwrol, ar ôl ystyried y mesurau lliniaru, fod yn fân andwyol yn ystod camau gweithredol a chynnal a chadw Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.9.2.9 Mae’r effeithiau trawsffiniol wedi cael eu sgrinio gan adnabod dim potensial ar gyfer canlyniadau trawsffiniol arwyddocaol i fuddiannau awyrennau a radar Gwledydd eraill oddi wrth Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona.
1.9.3 Newid hinsawdd
1.9.3.1 Mae newid hinsawdd yn cyfeirio at y newidiadau tymor hir mewn tymheredd a phatrymau tywydd sy’n cael eu gyrru’n bennaf gan weithgareddau pobl. Mae’r allyriadau GHG sy’n deillio o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona wedi eu nodweddu gan gyfres o asesiadau pen-desg, ac erthyglau’n defnyddio data wedi’i gyhoeddi, i benderfynu ar effaith Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona ar newid hinsawdd, gydag effaith canlyniadau newid hinsawdd i Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona wedi’i sefydlu drwy’r broses asesu risg. Mae’r risgiau posib i Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona oherwydd newid hinsawdd hefyd wedi eu hasesu a’u hadrodd. Dangosir hyn drwy’r adroddiadau technegol atodol yn y PEIR.
1.9.3.2 Mae nifer o effeithiau ar newid hinhsawdd o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod drwy gynhyrchu allyriadau GHG. Mae nifer o effeithiau newid hinsawdd posib hefyd wedi cael eu hadnabod drwy ystyried amrywiol risgiau’n ymwneud â’r hinsawdd a allai achosi canlyniadau andwyol i Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Cyflwynwyd hefyd fesurau y bwriedir eu gweithredu ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. deunydd gwrth-erydu gwarchodol a mesurau atal erydu integredig ar gyfer y cyfarpar ar y môr).
1.9.3.3 Mae effeithiau’r cam adeiladu sy’n cynnwys cloddio deunyddiau crai, gweithgynhyrchu a chludo deunyddiau i’r safle, hefyd wedi eu hasesu. Cafodd yr effeithiau GHG eu cyfrifo i fod tua 1,216,722 tCO2e gan achosi canlyniad mân andwyol ac felly’n ddi- arwyddocaol yn nhermau EIA ar ôl i’r mesurau lliniaru gael eu hystyried. Hefyd, mae allyriadau o’r camau gweithredol a chynnal a chadw’n digwydd yn bennaf o’r allyriadau cludo sy’n ofynnol i gynnal a chadw Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Byddai camau gweithredol a chynnal a chadw Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona hefyd yn gallu defnyddio gor-gyflenwad o drydan adnewyddadwy (gan osgoi lleihau cynhyrchu) gan ddadleoli tanwyddau ffosil. Ar ôl ystyried yr allyriadau y byddai’r Prosiect yn eu hosgoi, yn ogystal â’r allyriadau o’r camau gweithredol a chynnal a chadw, bydd yr effaith weithredol yn rhoi arbedion o tua 2,256,417 tCO2e erbyn 2064. Byddai hyn yn achosi canlyniad buddiol ac arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.9.3.4 Er yr allyriadau GHG a fyddai’n deillio o gam adeiladu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, byddai faint o allyriadau a fyddai’n cael eu hosgoi yn y camau gweithredol a chynnal a chadw’n rhoi Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona mewn sefyllfa o allyriadau net wedi eu hosgoi o’i bedwaredd flwyddyn weithredol ymlaen (cyfnod ad-dalu carbon). Drwy gydol oes Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, byddai’n llwyddo i osgoi 972,473 tCO2e
o allyriadau.
1.9.3.5 Mae gan bob datblygiad sy’n allyru, osgoi neu’n atafaelu allyriadau GHG botensial i effeithio ar y màs atmosfferig o allyriadau GHG a chael effaith gronnus ar newid hinsawdd o ganlyniad. Gan hynny, mae’r asesiad cronnus a wnaed yn PEIR Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n cynnwys gwybodaeth am brosiectau, cynlluniau a gweithgareddau eraill. Nid yw’r adroddiad yn adnabod y canlyniadau cronnus unigol a achosir gan brosiectau datblygu lleol penodol eraill ond yn eu hystyried wrth asesu effaith Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona drwy ddiffinio’r màs atmosfferig o allyriadau GHG fel derbynnydd sensitifrwydd uchel.
1.9.3.6 Mae’r effeithiau trawsffiniol wedi cael eu sgrinio ac unrhyw botensial ar gyfer canlyniadau trawsffiniol arwyddocaol ar fuddiannau newid hinsawdd Gwledydd eraill oddi wrth Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona wedi’i asesu fel rhan o’r PEIR hwn.
1.9.3.7 Mae gan bob datblygiad sy’n allyru allyriadau GHG botensial i effeithio ar y màs atmosfferig o allyriadau GHG fel derbynnydd, a chael effaith drawsffiniol ar newid hinsawdd o ganlyniad. O ganlyniad, nid yw’r adroddiad yn adnabod y canlyniadau trawsffiniol unigol a achosir gan brosiectau datblygu rhyngwladol penodol eraill ond yn eu hystyried wrth asesu effaith Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona drwy ddiffinio’r màs atmosfferig o allyriadau GHG fel derbynnydd sensitifrwydd uchel. Mae gan bob gwlad ei pholisi a’i thargedau ei hun ar garbon a newid hinsawdd er mwyn cyfyngu allyriadau GHG i lefelau derbyniol fel rhan o ymrwymiadau rhyngwladol a chyllideb y wlad honno.
1.9.4 Ffactorau economaidd-gymdeithasol
1.9.4.1 Mae’r asesiad o effaith economaidd-gymdeithasol a chymunedol yn ystyried yr economïau a phoblogaethau lleol a leolir ar nifer o lefelau gofodol a allai gael eu heffeithio gan Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Mae hyn yn cynnwys yr ardaloedd agosaf i’r gweithgareddau ar y môr a’r lan, yn ogystal â lleoliadau pwysig eraill a allai gael eu defnyddio i gynorthwyo gweithgareddau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. gosod ceblau tanddwr, gosod tyrbinau gwynt, gosod yr is-orsaf ar y lan, ayyb). Mae’r ardaloedd hyn yn bennaf gysylltiedig â’r ardaloedd lle y bydd cyfleusterau ategol posib (h.y. porthladdoedd) wedi eu lleoli ar y lefelau gofodol perthnasol, a’r is-orsaf ar y lan sydd i’w lleoli yn Sir Ddinbych, Gogledd Cymru. Ar sail y meini prawf hyn, yr ardaloedd a asesir yw Gogledd Cymru a Gogledd-Orllewin Lloegr. Mae’r asesiad hefyd yn ystyried sut y gallai Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona gael effaith ehangach ar Gymru a’r DU.
1.9.4.2 Ar y pwynt hwn, noda’r PEIR fod potensial ar gyfer effeithiau economaidd-gymdeithasol a chymunedol anuniongyrchol ar Ynys Manaw o ganlyniad i effeithiau llongau a mordwyo cronnus ar weithredwyr masnachol (gan gynnwys llwybrau strategol a fferis ‘cyswllt byw’). Fodd bynnag, mae’r Ymgeisydd wedi gwneud ymrwymiadau pendant ar sail newidiadau i’r ffin ac i ddyluniad cynllun llawr Ardal Arae Mona, gyda’r bwriad o leihau’r canlyniadau arwyddocaol posib i dderbynyddion llongau a mordwyo. Bydd y newidiadau hyn yn cael eu profi a’u cymhwyso fel rhan o’r asesiad yn y Datganiad Amgylcheddol, gan gynnwys i’r effeithiau economaidd-gymdeithasol a chymunedol anuniongyrchol posib ar Ynys Manaw, sydd i’w gyflwyno ar gyfer y cais DCO.
1.9.4.3 Gall nifer y porthladdoedd sy’n gysylltiedig â phrosiect fferm wynt ar y môr drwy ei oes amrywio gan ddibynnu ar faint a lleoliad y prosiect. Fel arfer, bydd angen nifer o borthladdoedd ar brosiect fferm wynt ar y môr drwy ei oes, yn ymwneud yn gyffredinol â’r gwaith gwneuthuro, marsialu, gweithredol a chynnal a chadw, a datgomisiynu. O ystyried yr holl ffactorau newidiol sy’n gysylltiedig â dewis porthladd yn ystod y cam adeiladu, mae’r modelau darparu arferol yn cynnwys nifer o borthladdoedd a allai ddarparu anghenion gwneuthuro a / neu farsialu ar gyfer cydrannau penodol, gan ddibynnu ar y gofynion. Gellir lleoli porthladdoedd gwneuthuro yn unrhyw le yn y byd ond lleolir y porthladdoedd marsialu, gweithredol a chynnal a chadw fel arfer o fewn pellter rhesymol i’r safle ar y môr. Nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto ar y dewis terfynol o gyfleusterau porthladd fydd yn cael eu hangen ar gyfer y Prosiect. Mae’r Ymgeisydd yn ystyried gwahanol opsiynau porthladd, seilwaith ategol a marchnadoedd llafur i ddeall y galluoedd, capasiti a’r argaeledd posib. Gan ddibynnu ar y canfyddiadau hyn, mae’n bosib y defnyddir mwy nag un porthladd i ategu rhai elfennau o gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona fel rhan o gadwyn gyflenwi ehangach.
1.9.4.4 Mae’r asesiad o effaith economaidd-gymdeithasol a chymunedol hefyd yn ystyried y gweithgareddau twristiaeth a hamdden a allai gael eu heffeithio gan y Prosiect. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd ym Mharth Gwelededd Theoretig (ZTV) y prosiect, ardaloedd y mae porthladdoedd posib ar hyd arfordir Gogledd Cymru a Gogledd- Orllewin Lloegr yn gorwedd o fewn iddynt, a lleoliadau’n gysylltiedig â seilwaith ar y lan.83
1.9.4.5 Mae’r sector gwynt ar y môr yn cael ei adnabod fel diwydiant blaenoriaeth uchel gan bolisïau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ar draws y DU. Mae hyn yn adlewyrchu’r cyfle y mae’r sector yn ei roi i gefnogi twf a datblygu economaidd ac i greu gwaith ac incwm i bobl y Deyrnas Unedig. Mae’r sector gwynt ar y môr yn cael ei adnabod fel cyfle cyflogaeth posib i weithwyr sy’n trosglwyddo o ddiwydiannau eraill cysylltiedig, yn enwedig gweithgareddau fydd angen elfen helaeth o addasu oherwydd ymdrechion parhaus i ddatgarboneiddio’r economi.
1.9.4.6 Mae’r sector twristiaeth yn sector pwysig yn yr amgylcheddau polisi perthnasol. Mae Gogledd Cymru’n adnabyddus am ei chyfleoedd i brofi tirluniau naturiol ac yn cynnal ystod eang o weithgareddau anturus sy’n denu ymwelwyr. Mae gan Ogledd-Orllewin Lloegr ystod eang o asedau hamdden, gyda chymysgedd o dirluniau gwledig a threfol.
1.9.4.7 Mae nifer o effeithiau posib ar ffactorau economaidd-gymdeithasol a chymunedol o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Cefnogi swyddi a Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) ar draws y DU a Chymru, ac yn yr ardaloedd sy’n gysylltiedig â lleoliadau posib y porthladdoedd a’r safleoedd seilwaith ar y lan.
- Cyfrannu at fwy o gyfleoedd gwaith i breswylwyr lle y gallai’r effeithiau economaidd gael eu canoli
- Newidiadau dros dro a pharhaol posib mewn poblogaeth o ganlyniad i ofynion y gweithlu, a’r galw cysylltiedig am lety a thai tymor byr, tymor canolig a thymor hir
- Effeithiau posib ar y sector twristiaeth a hamdden.
1.9.4.8 Pe bai porthladd ar hyd arfordir Gogledd Cymru neu Ogledd-Orllewin Lloegr yn cael ei ddewis i lwyfannu a gosod hyd at ddau o gydrannau’r Prosiect, safle’r gwaith gweithredol a chynnal a chadw, neu ddatgomisiynu ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y
Môr Mona:
- Aseswyd y byddai’r canlyniadau buddiol posib i dderbynyddion economaidd, gan gynnwys o ran cyflogaeth, GVA a’r galw ar y gadwyn gyflenwi yn yr ardal honno yn ystod y camau adeiladu, gweithredol a chynnal a chadw, yn arwyddocaol yn nhermau EIA (cymedrol fuddiol). Aseswyd y canlyniadau posib yng Nghymru i fod o arwyddocâd cymedrol (fuddiol) yn ystod y camau adeiladu, gweithredol a chynnal a chadw, sy’n arwyddocaol yn nhermau EIA. Aseswyd y canlyniadau posib yn y DU i fod o arwyddocâd cymedrol (fuddiol) yn ystod y cam adeiladu, sy’n arwyddocaol yn nhermau EIA.
- Aseswyd y byddai’r canlyniadau buddiol posib i breswylwyr o ran cyflogaeth yn ystod y camau adeiladu, gweithredol a chynnal a chadw, yn ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA (mân fuddiol).
- Mae’r canlyniadau buddiol posib o ran newidiadau poblogaeth o ganlyniad i’r gofynion gweithlu, a’r galw cysylltiedig am dai, llety a gwasanaethau lleol yn ystod camau adeiladu, gweithredol a chynnal a chadw’r Prosiect yn debygol o fod yn
ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA (mân fuddiol).
1.9.4.9 Aseswyd y byddai’r canlyniadau yn ystod y cam datgomisiynu’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA. Mae maint a pharhad y gwaith datgomisiynu’n ansicr a’r union ddulliau datgomisiynu sydd i’w defnyddio heb eu cadarnhau eto oherwydd ni wyddom beth fydd yr ymarfer gorau bryd hynny.
1.9.4.10 Ar sail ystyried y gwahanol ffyrdd y gallai twristiaeth a gweithgareddau hamdden gael eu heffeithio gan Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn ystod y cam adeiladu, mae’r effaith ar dwristiaeth a hamdden yn debygol o fod yn ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.9.4.11 Mae gan Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona botensial i gynnal swyddi presennol yn y sector gwynt ar y môr drwy gontractio â chwmnïau sydd eisoes yn bodoli a thrwy gefnogi swyddi a gweithgarwch economaidd newydd drwy ehangu’r sector gwynt ar y môr, sy’n flaenoriaeth bolisi uchel.
1.9.4.12 Aseswyd y canlyniadau cronnus mewn cyfuniad â chynlluniau a phrosiectau eraill gan ddod i’r casgliad na fyddent yn achosi unrhyw newid andwyol i’r lefelau arwyddocâd wrth ystyried Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona ar ei ben ei hun. Disgwylir i ganlyniadau cronnus mewn cyfuniad â chynlluniau eraill wella’r canlyniadau buddiol, gan gynnwys o ran cynnal swyddi, GVA, galw ar y gadwyn gyflenwi, a chyfleoedd gwaith cysylltiedig
i breswylwyr.
1.9.4.13 Ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau trawsffiniol i fuddiannau economaidd-gymdeithasol a chymunedol Gwledydd eraill o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona.
1.9.5 Iechyd pobl
1.9.5.1 Mae’r asesiad iechyd wedi ystyried canfyddiadau penodau eraill y PEIR, gan gynnwys ar bysgodfeydd masnachol; llongau a mordwyo; morlun, tirlun ac adnoddau gweledol; traffig a thrafnidiaeth; sŵn a dirgryniad; defnyddwyr môr eraill; newid hinsawdd; a ffactorau economaidd-gymdeithasol a chymunedol. Mae’r asesiad iechyd hefyd wedi’i oleuo gan adolygiad o’r ffynonellau perthnasol o dystiolaeth iechyd y cyhoedd, gan gynnwys llenyddiaeth wyddonol, data sylfaenol, polisi iechyd, blaenoriaethau iechyd lleol a safonau diogelu iechyd.
1.9.5.2 Mae proffil iechyd sylfaenol wedi’i greu ar gyfer Cymru, Ynys Manaw a Gogledd- Orllewin Lloegr yn defnyddio tystiolaeth iechyd y cyhoedd. Yn ôl y data hwn, o’i gymharu â Chymru, mae gan ardal astudiaeth iechyd Gogledd Cymru gyfraddau tebyg o ddisgwyliad oes iach. Nid yw’r canlyniadau iechyd cystal ar gyfer Ynys Manaw o’i gymharu â Lloegr. Er enghraifft, o’i gymharu â Lloegr, mae disgwyliadau oes iach Ynys Manaw’n debyg ar gyfer dynion ond fymryn yn is ar gyfer merched. Mae data iechyd y cyhoedd hefyd yn awgrymu iechyd gwaeth ar gyfer Gogledd-Orllewin Lloegr o’i gymharu â Lloegr. Mae’r amodau economaidd-gymdeithasol a ffactorau eraill sy’n effeithio ar iechyd yn waeth yn y Gogledd-Orllewin o’i gymharu â Lloegr. Er enghraifft, mae canran uwch o blant yn byw mewn teuluoedd incwm isel, yn nhermau cymharol a llwyr, o’i gymharu â’r cyfartalog drwy Loegr. Mae’r dangosyddion yn cadarnhau sensitifrwydd uwch, yn enwedig i grwpiau bregus, ar nifer o’r mesurau.
1.9.5.3 Ystyriwyd y canlyniadau iechyd canlynol oddi wrth Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona:
- Bydd dulliau trafnidiaeth, mynediad a chysylltiadau drwy gwmnïau llongau masnachol, gan gynnwys llwybrau strategol a fferis ‘cyswllt byw’ i Ynys Manaw’n achosi canlyniad mân andwyol i iechyd pobl, sy’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA. Ar ôl gweithredu mesurau lliniaru, sydd i’w hadrodd yn y Datganiad Amgylcheddol, ac a fydd yn cynnwys mesurau rheoli ychwanegol (cyfrol 2, pennod 12: Llongau a mordwyo’r PEIR), disgwylir i’r canlyniadau gweddilliol fod yn ddibwys
(di-arwyddocaol). - Gallai dulliau trafnidiaeth, mynediad a chysylltiadau ar gyfer y gwaith adeiladu aflonyddu ar draffig cerbydau lleol a theithio egnïol. Mae’r canlyniadau hyn o arwyddocâd mân andwyol ac yn ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
- Bydd hunaniaeth gymunedol, diwylliant, gwydnwch a dylanwad o ran effeithiau gweledol y tyrbinau gwynt yn achosi canlyniad mân andwyol a mân fuddiol sy’n ddi- arwyddocaol yn nhermau EIA.
- Bydd mannau agored, hamdden a chwarae, a gwaith adeiladu ar y môr a’r lan a fyddai’n aflonyddu ar hamdden, yn achosi canlyniad mân andwyol ac felly’n ddi- arwyddocaol yn nhermau EIA.
- Bydd cyflogaeth ac incwm drwy golli neu gael llai o fynediad at diroedd pysgota masnachol yn achosi canlyniad mân andwyol i iechyd pobl, sy’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
- Bydd sŵn a dirgryniad yn gysylltiedig â chamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn achosi canlyniad mân andwyol (di-arwyddocaol).
- Disgwylir i ymbelydredd yn gysylltiedig â’r argraff o risg EMF achosi canlyniad mân andwyol (di-arwyddocaol). Yn dilyn mabwysiadu strategaethau lliniaru er mwyn cyfathrebu â chymunedau lleol am risgiau a safonau rheoleiddio EMF ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, disgwylir i’r canlyniad gweddilliol fod yn ddibwys (di-arwyddocaol).
- Bydd newid ac addasu i’r hinsawdd o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy a’r lleihad o ganlyniad mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn achosi canlyniad mân fuddiol i iechyd pobl, sy’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
- Bydd adnoddau a seilwaith cymdeithasol ehangach o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy’n achosi canlyniad cymedrol fuddiol i iechyd pobl, sy’n arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.9.5.4 Ar y cyfan, cyrhaeddwyd y casgliad na achosir canlyniadau andwyol arwyddocaol o gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Disgwylir manteision iechyd y cyhoedd arwyddocaol o ran canlyniadau sicrwydd ynni i iechyd pobl yn y cam gweithredol.
1.9.5.5 Mae’r effeithiau cronnus a aseswyd yn cynnwys canlyniadau cyfunol i fynediad at Ynys Manaw ac i bysgodfeydd masnachol. Ar y cyfan, cyrhaeddwyd y casgliad y bydd Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona mewn cyfuniad â phrosiectau eraill yn achosi’r canlyniadau cronnus arwyddocaol canlynol:
- Bydd dulliau trafnidiaeth, mynediad a chysylltiadau drwy gwmnïau llongau masnachol, gan gynnwys llwybrau strategol a fferis ‘cyswllt byw’ i Ynys Manaw’n achosi canlyniad cymedrol andwyol cronnus i iechyd pobl, sy’n arwyddocaol yn nhermau EIA. Ar ôl gweithredu mesurau lliniaru, sydd i’w hadrodd yn y Datganiad Amgylcheddol, ac a fydd yn cynnwys mesurau rheoli ychwanegol (cyfrol 2, pennod 12: Llongau a mordwyo’r PEIR), disgwylir i’r canlyniadau gweddilliol fod yn fân andwyol (di-arwyddocaol).
- Bydd adnoddau a seilwaith cymdeithasol ehangach o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy’n achosi canlyniad cymedrol fuddiol i iechyd pobl, sy’n arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.9.5.6 Nid oes unrhyw effeithiau trawsffiniol posib wedi eu hadnabod o ran canlyniadau Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona.
1.9.5.7 Mae gan y canlyniadau i iechyd pobl a asesir yn y bennod hon botensial i ryngweithio â’i gilydd. Ar ôl ystyried natur y rhyng-gysylltiadau, ac i ba raddau y bydd yr un bobl yn debygol o gael eu heffeithio, penderfynwyd na fydd unrhyw ganlyniadau mewn cyfuniad yn ddim mwy arwyddocaol na’r canlyniadau unigol.
1.9.5.8 Ar y cyfan, y penderfyniad o ran iechyd y cyhoedd yw yr achosir ystod o ganlyniadau buddiol ac andwyol, gyda chanlyniadau arwyddocaol buddiol yn fwy tebygol na
rhai andwyol.