1.8 Canlyniadau posib i’r amgylchedd – ar y lan
1.8.1 Daeareg, hydro-ddaeareg ac amodau daear
1.8.1.1 Fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona, aseswyd yr effeithiau posib ar ddaeareg, hydro-ddaeareg ac amodau daear. Daeareg yw’r wyddor sy’n delio â strwythur ffisegol y ddaear, ei hanes a’i phrosesau gweithredol; hydro-ddaeareg yw astudiaeth o ddŵr daear; ac mae ‘amodau daear’ fel arfer yn cyfeirio at ddaeareg, hydroleg a chyflwr pridd y ddaear, ac unrhyw halogi o’r ddaear. Aseswyd yr effeithiau posib yn ystod camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu’r Prosiect.
1.8.1.2 Roedd yr asesiad yn seiliedig ar adolygiad pen-desg o’r llenyddiaeth, data cyhoeddus ac ar-lein, a gwybodaeth mewn adroddiad cysylltiedig ar ddaeareg, hydro-ddaeareg ac amodau daear (GHGC) yn ardal yr astudiaeth. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl benodol am osodiad daearegol, hydro-ddaearegol a hydrolegol ardal yr astudiaeth, a gwybodaeth arall fel damweiniau llygredd, trwyddedau tynnu dŵr a chyfyngiadau. Roedd mapiau hanesyddol Arolwg Ordnans a lluniau o’r awyr hefyd wedi cael eu hadolygu fel rhan o’r asesiad.
1.8.1.3 Mae’r ardal astudiaeth GHGC yn cynnwys rhannau o draeth Llanddulas i’r gorllewin o Abergele ynghyd â chrib amlwg sy’n ymestyn i’r de-ddwyrain i gyfeiriad Bodelwyddan, i’r de o’r A55, wedi’i chreu gan greigwely o greigiau Grŵp Calchfaen Clwyd a nodweddion gwaelodol Ffurfiant Ffernant. Mae’r tir isel i’r gogledd o’r grib yn cynnwys creigwely tywodfaen o Grŵp Swydd Warig yn bennaf. Mae llawer o’r tir uchel i’r de o’r grib yn cynnwys hen greigwely sy’n cynnwys cerrig llaid yn perthyn i Ffurfiant Elwy’r Oes Silwraidd. Mae’r calchfaen sy’n perthyn i Grŵp Calchfaen Clwyd a’r tir isel i’r gorllewin o Lanelwy gyda thywodfaen sy’n perthyn i Grŵp Swydd Warwig, hefyd yn ardal astudiaeth GHGC.
1.8.1.4 O ran dŵr daear, mae’r calchfaen yn adnodd dŵr daear pwysig a gall yr unedau o dywodfaen yn bennaf sy’n perthyn i Grŵp Swydd Warwig a Ffurfiant Ffernant ffurfio cyrff pwysig o ddŵr daear, gyda chreigwely’r Oes Silwraidd sy’n perthyn i Ffurfiant Elwy’n ildio ond ychydig iawn o ddŵr daear. Fodd bynnag, mae’r creigwely ar draws Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona wedi’i guddio o dan haen wyneb o rewglai llawn clai, gyda dim ond ambell i boced leol o ddŵr daear. Nid oes unrhyw barthau diogelu ffynonellau dŵr daear na safleoedd tynnu dŵr daear trwyddedig wedi eu hadnabod yn Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona.
1.8.1.5 Yr unig safle daearegol neu geomorffolegol yn Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona yw’r ogofâu yn SoDdGA Calchfaen Llanddulas a Choed Castell Gwrych.
1.8.1.6 Mae cryn dipyn o waith cloddio metalau dwfn, yn gysylltiedig yn bennaf â Grŵp Calchfaen Clwyd, wedi’i wneud yn Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona. Mae’r gwaith cloddio hwn yn hen gan ddyddio’n ôl i’r 1800au ac wedi’i nodweddu’n bennaf gan siafftiau wyneb a seilwaith cysylltiedig. Mae’r brif risg i asedau trawsyrru ar y lan Mona oddi wrth gloddio hanesyddol yn ymwneud â sadrwydd geodechnegol. Gallai cyn safle tirlenwi NRW yn Nhraeth Llanddulas gyflwyno risg i ansawdd dŵr daear o ystyried bod Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona’n croesi’r safle hwn.
1.8.1.7 Mae nifer o effeithiau posib ar ddaeareg, hydro-ddaeareg ac amodau daear, o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Effaith colli neu achosi difrod i safleoedd dynodedig o ddiddordeb daearegol
a geomorffolegol - Effaith colli neu achosi difrod i safleoedd o ddiddordeb daearegol a geomorffolegol sydd heb eu dynodi
- Steryllu adnoddau calchfaen sydd wedi eu diogelu
- Newid a dirywio lefelau neu ansawdd dŵr daear yn y rhewglai a’r creigwely
- Problemau sadrwydd tir yn gysylltiedig ag ardaloedd hanesyddol o gloddio dwfn
am fwynau
1.8.1.8 Fodd bynnag, gyda mesurau lliniaru priodol yn eu lle fel defnyddio technegau ‘dim tyllu’ ar gyfer y gwaith adeiladu o dan SoDdGA Calchfaen Llanddulas a Choed Castell Gwrych, gweithredu Cod Ymarfer Adeiladu (CoCP) i sicrhau y rheolir y risg amgylcheddol yn effeithiol, a mesurau ymarfer gorau fel rhan o’r dylunio manwl, aseswyd yr effeithiau i fod naill ai o arwyddocâd dibwys neu fân andwyol ac felly’n ddi- arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.1.9 Ystyriwyd nad oedd risg o effeithio ar barthau diogelu ffynonellau dŵr daear a safleoedd tynnu dŵr daear trwyddedig oherwydd eu lleoliad yn y system dŵr daear leol, sydd felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.1.10 Aseswyd y canlyniadau cronnus o ddatblygiadau eraill ac ystyriwyd effeithiau gweithgareddau dros dro a pharhaol ar dderbynyddion daeareg, hydro-ddaeareg ac amodau daear. Disgwylir y bydd yr effaith gronnus yn un leol yn unig ac o arwyddocâd mân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.1.11 Bydd arolygon pellach (e.e. arolwg o safleoedd tynnu dŵr daear preifat) yn cael eu gwneud yng nghamau nesaf Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona er mwyn esblygu a diwygio’r data arolwg sylfaenol. Wedyn bydd llwybr y ceblau ar y lan yn cael ei addasu cyn ymgynghori â thirfeddianwyr i benderfynu ar leoliad a manylion unrhyw Ffynonellau Cyflenwadau Dŵr Preifat (PWSS) sy’n bresennol yn yr ardal astudiaeth GHGC y gallai’r Prosiect effeithio arnynt. Prosiect Gwynt Ar Y Môr Mon | Crynodeb Annhechnegol
1.8.2 Hydroleg a pherygl llifogydd
1.8.2.1 Casglwyd gwybodaeth am hydroleg a’r perygl llifogydd yn yr ardal astudiaeth hydroleg a pherygl llifogydd drwy adolygiad pen-desg manwl o astudiaethau a data. Mae Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona’n dod i’r lan yn Nhraeth Llanddulas i’r gorllewin o Abergele gan groesi tir amaethyddol a choetir yn bennaf. Er nad oes unrhyw Brif Afonydd wedi eu hadnabod yn yr ardal astudiaeth hydroleg a pherygl llifogydd, mae Coridor Ceblau Ar y Lan Mona’n croesi nifer o gyrsiau dŵr.
1.8.2.2 Mae nifer o effeithiau posib ar hydroleg a pherygl llifogydd o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Effaith risg uwch o lifogydd wrth i fwy o ddŵr redeg oddi ar yr wyneb yn ystod y gwaith adeiladu
- Effaith risg uwch o lifogydd drwy wyro unrhyw gwrs dŵr
- Effaith risg uwch o lifogydd wrth i fwy o ddŵr redeg oddi ar yr wyneb yn ystod y gwaith o weithredu’r is-orsaf ar y lan
- Effaith risg uwch o lifogydd drwy achosi difrod i amddiffynfeydd llifogydd
- Effaith dŵr wedi’i halogi’n rhedeg oddi ar yr wyneb, ar ansawdd cyrsiau dŵr
- Effaith achosi difrod i draeniau mewn caeau
- Effaith achosi difrod i biblinellau dŵr.
1.8.2.3 Gyda’r mesurau lliniaru sydd i’w gweithredu fel rhan Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. argaeau coffr a gweithredu CoCP) yn eu lle, mae’r rhan fwyaf o’r effeithiau hyn yn achosi canlyniadau o arwyddocâd dibwys neu fân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.2.4 Gallai risg uwch o lifogydd, wrth i fwy o ddŵr redeg oddi ar yr wyneb yn ystod y cam adeiladu, ddigwydd o ddefnyddio technegau torri ffosydd agored i osod ceblau ar draws y traeth. Mae’r broses dewis safle ar gyfer y Prosiect (e.e. lleoli’r compowndiau adeiladu, y lôn cludo nwyddau, mynedfeydd y gwaith adeiladu a Choridor Ceblau Ar y Lan Mona) wedi cyfrif am yr effeithiau posib ar berygl llifogydd a fyddai’n digwydd mewn rhannau eraill o ardal astudiaeth hydroleg a pherygl llifogydd Mona o ganlyniad i unrhyw newid mewn dŵr ar yr wyneb yn yr ardaloedd dan sylw yn ystod y cam adeiladu drwy ymgorffori mesurau lliniaru (e.e. maint a lleoliad) i leihau’r effeithiau hyn gymaint â phosib. Mae Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona a’r is-orsaf ar y lan wedi eu lleoli’n bennaf mewn ardal wledig heb lawer o dai o gwmpas. At ei gilydd, ystyriwyd bod yr effaith ar ardal astudiaeth hydroleg a pherygl llifogydd Mona o arwyddocâd mân andwyol sy’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA, a bod yr effaith ar Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona o arwyddocâd dibwys andwyol sy’n ddi- arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.2.5 Roedd effaith gronnus risg uwch o lifogydd wrth i fwy o ddŵr redeg oddi ar yr wyneb wedi ystyried Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona ochr yn ochr â Phrosiect Gwynt Ar y Môr Awel y Môr. Gallai adeiladu seilwaith Awel y Môr (fel y compowndiau, lonydd cludo nwyddau a’r coridor ceblau ar y lan) arwain at newid dros dro mewn dŵr yn rhedeg oddi ar yr wyneb a risg uwch o lifogydd. At ei gilydd, ystyriwyd bod yr effaith gronnus ar ardal astudiaeth hydroleg a pherygl llifogydd Mona o arwyddocâd mân andwyol sy’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA, a bod yr effaith gronnus ar Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona o arwyddocâd dibwys andwyol sy’n ddi-arwyddocaol yn
nhermau EIA.
1.8.2.6 Mae’r effeithiau trawsffiniol wedi cael eu sgrinio gan adnabod dim potensial ar gyfer canlyniadau trawsffiniol arwyddocaol i fuddiannau hydroleg a pherygl llifogydd Gwledydd eraill oddi wrth Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Prosiect Gwynt Ar Y Môr Mon | Crynodeb Annhechnegol
1.8.3 Ecoleg ar y lan
1.8.3.1 Mae ecoleg yn cyfeirio at y cymunedau o greaduriaid a phlanhigion sy’n byw yn yr amgylchedd a’u perthynas â’i gilydd a gyda’r amgylchedd ffisegol. Fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona, aseswyd yr effaith bosib ar ecoleg ar y lan yn ystod y camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu. Nid yw’r effeithiau posib ar ornitholeg neu ar yr ‘astudiaeth wyddonol o adar’ wedi eu cynnwys yn yr adran yma – aseswyd y rhain ar wahân.
1.8.3.2 Mae ardal astudiaeth ecoleg ar y lan Mona’n dechrau yn y parth rhyng-lanwol wrth lanfa Mona gan redeg drwy fryniau calchfaen a nodweddir yn bennaf gan dir ffermio a glaswelltir wedi’i wella a ddefnyddir i bori defaid. Dangosodd yr arolygon data sylfaenol ystod o wahanol gynefinoedd o ansawdd amrywiol gan gynnwys cynefinoedd pwysig fel coetir llydanddail lled-naturiol, coed llydanddail aeddfed, prysgoed, cyrsiau a chyrff dŵr a therfynau caeau’n cynnwys gwrychoedd gyda chyfoeth o rywogaethau. Mae gan yr arfordir hefyd ardaloedd bychain o gynefin arfordirol fel graean bras arfordirol llysieuol.
1.8.3.3 Mae gan y cynefinoedd yn ardal astudiaeth ecoleg ar y lan Mona botensial i gynnal ystod o rywogaethau a warchodir fel moch daear, ystlumod, pysgod a ‘slywod, y fadfall ddŵr gribog, pathewod, creaduriaid di-asgwrn-cefn, dyfrgwn, ymlusgiaid, llygoden bengron y dŵr a’r cimwch dŵr croyw. Mae arolygon manwl wedi adnabod poblogaeth o’r fadfall ddŵr gribog yn Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona.
1.8.3.4 Mae nifer o effeithiau posib o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Colli cynefin dros dro a pharhaol
- Aflonyddu ar gynefin
- Darnio cynefin ac ynysu rhywogaethau
- Llygredd oddi wrth ddamweiniau tywallt / halogi
- Lledaeniad INNS.
1.8.3.5 Mae coetir hynafol yn bresennol ar draws Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona, ond yn ôl asesiad o’r canlyniadau, ni fyddai’r Prosiect yn achosi unrhyw ganlyniad i goetir hynafol oherwydd yr ymrwymiad i osgoi’r ardaloedd hyn lle bo’n bosib. Os na ellir eu hosgoi, bydd techneg adeiladu o’r enw Drilio Llorweddol (HDD) yn cael ei defnyddio drwy dyllu twnnel o dan yr ardal ddynodedig. Mae’r dull adeiladu hwn yn osgoi effeithiau ar y coetir hynafol. Mae Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona hefyd yn cynnwys ardaloedd o gynefin gwerth uwch yn gysylltiedig â’r traeth graean bras llysieuol wrth y lanfa, sy’n SoDdGA dynodedig ar sail y cymunedau planhigion sy’n tyfu yno. Mae Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona wedi ymrwymo i beidio â gosod ceblau allforio drwy’r SoDdGA hwn. Cynigir agor ffosydd agored drwy’r lanfa fydd yn achosi canlyniad mân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.3.6 Yn ôl yr asesiad o effaith darnio cynefin ac ynysu rhywogaethau, ar y cyfan cafwyd nad oedd y canlyniadau i gynefinoedd a rhywogaethau’n arwyddocaol. Bydd colli cysylltedd cynefin dros dro o ganlyniad i ddarnio coetir, gwrychoedd, coed a chyrsiau dŵr yn arwain at ganlyniad mân andwyol sy’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.3.7 Aseswyd y canlyniadau cronnus o ddatblygiadau eraill a’r effeithiau dros dro a pharhaol ar golli ac aflonyddu ar gynefinoedd rhywogaethau a warchodir. Disgwylir y bydd yr effaith gronnus yn un leol yn unig ac o arwyddocâd mân andwyol ac felly’n ddi- arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.3.8 Bydd arolygon pellach yn cael eu gwneud yng nghamau nesaf Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona i esblygu’r data arolwg sylfaenol a diwygio a datblygu Cynllun Rheoli Hydrolegol, Ecolegol a Thirlun er mwyn ceisio sicrhau cynnydd net mewn bioamrywiaeth ar draws y safle o ganlyniad i’r datblygiad hwn.
1.8.4 Yr amgylchedd hanesyddol
1.8.4.1 Mae amgylchedd hanesyddol yn cwmpasu pob agwedd ar y gorffennol gan gynnwys dyddodion ac olion archeolegol tanddaearol, a chofnodion yng nghadw mewn creigiau hynafol, treftadaeth adeiledig, a chymeriad y tirlun hanesyddol. Fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona, aseswyd yr effeithiau posib ar yr amgylchedd hanesyddol daearol drwy gyfuniad o ymchwil pen-desg ac ymweliadau safle a gwaith maes penodol.
1.8.4.2 Mae ardal astudiaeth amgylchedd hanesyddol Mona’n cynnwys yr ardal o dir fydd yn cael ei meddiannu dros dro neu’n barhaol yn ystod camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Mae’r ardal astudiaeth yn cynnwys asedau hanesyddol dynodedig arwyddocaol o fewn 1km i derfyn Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona a radiws o rhwng 1-5km wedi’i ganoli ar opsiynau Is-orsaf Ar y Lan Mona, gan ddibynnu ar y math o ased a’i phwysigrwydd. Mae’r ardal astudiaeth hefyd yn cynnwys olion archeoleg tanddaearol ac asedau hanesyddol eraill heb eu dynodi (ac a gofnodir yn y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)) o fewn 500m i derfyn Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona a radiws o 1km ar opsiynau Is-orsaf Ar y Lan Mona. Trafodir archeoleg forol yn
adran 1.7.8.
1.8.4.3 Dangosodd yr asesiad fod gan Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona botensial i gynnwys olion archeolegol o bob cyfnod, gyda’r potensial mwyaf efallai’n olion o’r cyfnod Rhufeinig yng nghyffiniau Ffordd Glascoed lle y credir fod llwybr Ffordd Rufeinig efallai’n croesi’r ardal leol. Yn ôl arolwg o ardal Glanfa Mona, ni chafwyd unrhyw dystiolaeth o fawn neu ddeunydd organig tebyg yn codi i’r wyneb er bod potensial o hyd i olion o’r fath fod yn bresennol o dan yr wyneb. Roedd un darn bychan o fawn wedi’i adnabod ond roedd yn amlwg wedi’i godi ers tro ac nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu ble’r oedd y mawn hwn wedi bod cyn iddo gael ei godi a’i olchi allan. Mae arolwg geoffisegol amgylchedd hanesyddol hefyd ar y gweill. Nid yw Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona ychwaith yn cynnwys unrhyw elfennau o dirluniau hanesyddol dynodedig. Fodd bynnag, mae nifer o derfynau caeau hanesyddol yn bresennol ac mae’r rhain wedi eu hystyried yn yr asesiad.
1.8.4.4 Mae asedau treftadaeth cenedlaethol bwysig yn bresennol o fewn a gerllaw Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona. Mae’r rhai sydd o fewn yr ardal hon yn cynnwys Parc a Gardd Gofrestredig o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig a wal restredig Gradd II o gwmpas y parc a’r ardd.
1.8.4.5 Mae nifer o effeithiau posib ar adnoddau amgylchedd hanesyddol o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Effeithiau ffisegol uniongyrchol ar olion archeolegol a dyddodion tanddaearol,
ac ar y ddau ased treftadaeth cenedlaethol bwysig. - Effeithiau’n deillio o newid i osodiad asedau hanesyddol a newidiadau i
gymeriad y tirlun hanesyddol.
1.8.4.6 Byddai effeithiau ffisegol uniongyrchol ar ddyddodion ac olion archeolegol tanddaearol yn y cam adeiladu’n barhaol. Bydd rhaglenni gwaith maes wedi eu targedu a’u dylunio’n dda cyn y cam adeiladu’n ceisio adnabod unrhyw olion a dyddodion oddi mewn i Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona er mwyn gallu osgoi neu leihau unrhyw effaith arnynt drwy broses ddylunio Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn y mannau hynny. Fodd bynnag, mae’n bosib o hyd na fydd rhai olion a dyddodion yn cael eu hadnabod nes dod ar eu traws yn ystod y gwaith adeiladu, ac mewn rhai amgylchiadau gallai hyn gynnwys olion a dyddodion pwysig.
1.8.4.7 Mae rhan orllewinol Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona’n pasio drwy Barc a Gardd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Gradd II* ac mae ei therfyn gogleddol yn cynnwys wal gerrig restredig Gradd II. Er y bydd y ceblau mae’n debyg yn cael eu gosod o dan y wal yn defnyddio technegau adeiladu a elwir yn HDD sy’n osgoi effeithiau, nid yw’r methodolegau y bwriedir eu dilyn i osod y cêbl drwy’r parc a’r ardd hanesyddol wedi’u cytuno’n derfynol eto ac mae’n bosib y gallai’r canlyniadau fod o arwyddocâd cymedrol andwyol os na fyddai’n bosib osgoi neu leihau’r effeithiau i lefel briodol, a byddai hynny’n arwyddocaol yn nhermau EIA. Fodd bynnag, bydd arolygon sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn goleuo’r dyluniad cyn y Datganiad Amgylcheddol fel y bydd maint yr effaith yn cael ei leihau ac arwyddocâd y canlyniadau andwyol drwy hynny’n lleihau.
1.8.4.8 Os na ellir osgoi effeithio’n uniongyrchol ar asedau hanesyddol uwchlaw’r ddaear drwy addasu’r dyluniad, bwriedir cyflawni rhaglenni pellach o ymchwil ac ymchwiliadau cyn ac yn ystod y cam adeiladu. Ni fydd y rhain yn lleihau’r effeithiau na’r canlyniadau ond yn cyfrannu at eu gwrthbwyso. Bydd y canlyniadau gweddilliol felly’n parhau i fod o arwyddocâd cymedrol andwyol, sy’n arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.4.9 Yn ystod y camau adeiladu a datgomisiynu, bydd effaith yr asedau trawsyrru ar y lan ar asedau hanesyddol uwchlaw’r ddaear o ganlyniad i newid eu gosodiad, ac ar gymeriad y tirlun hanesyddol, o arwyddocâd mân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.4.10 Yn ystod y camau gweithredol a chynnal a chadw, bydd effaith is-orsaf ar y lan Mona ar asedau hanesyddol uwchlaw’r ddaear o ganlyniad i newid eu gosodiad, ac ar gymeriad y tirlun hanesyddol, o arwyddocâd mân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.4.11 Mae canlyniadau cronnus o ddatblygiadau eraill yn yr ardaloedd astudiaeth wedi cael eu hasesu a disgwylir iddynt achosi canlyniadau o arwyddocâd mân andwyol, sy’n ddi- arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.4.12 Ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau trawsffiniol i amgylchedd hanesyddol Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona.
1.8.5 Defnyddiau tir a hamdden
1.8.5.1 Mae’r bennod hon yn ystyried y defnyddiau tir presennol, gan gynnwys amaethyddiaeth a hamdden, a allai gael eu heffeithio’n ffisegol neu’n anuniongyrchol yn ystod camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Cafodd y defnyddiau tir presennol eu hadnabod drwy gyfuniad o waith dadansoddi pen-desg ac arolygon safle-benodol. Mae’r gwaith dadansoddi astudiaethau a data wedi adnabod y gwahanol batrymau a mathau o bridd, ansawdd y tir amaethyddol, daliadau fferm ac adnoddau hamdden (e.e. llwybrau troed, llwybrau ceffyl) y mae’r Prosiect yn debygol o effeithio arnynt. Gwnaed arolygon safle-benodol yn 2022 a oedd yn cynnwys cerdded ar hyd yr hawliau tramwy cyhoeddus i sefydlu natur a chyflwr yr adnoddau hamdden.
1.8.5.2 Penderfynodd y gwaith dadansoddi pen-desg fod tir o fewn Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona’n cynnwys, yn bennaf, tir Dosbarthiad Tir Amaethyddol (ALC) Gradd 3a a Gradd 3b, ac 84 o ddaliadau tir. Mae nifer o adnoddau hamdden hefyd wedi cael eu hadnabod o fewn neu’n agos at Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona, yn cynnwys ardaloedd arfordirol (e.e. traethau), Llwybr Arfordir Cymru, Llwybr Beicio Cenedlaethol (NCR) Rhif 5 a Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
1.8.5.3 Mae nifer o effeithiau posib ar ddefnyddiau tir a hamdden o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod.
- Colli’r tir gorau a mwyaf aml-bwrpas, dros dro ac yn barhaol
- Aflonyddu ar redeg daliadau fferm, dros dro ac yn barhaol
- Effaith dros dro a pharhaol ar ddefnydd hamdden o ardaloedd arfordirol, adnoddau hamdden, Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Beicio Cenedlaethol Rhif 5.
1.8.5.4 Yn dilyn gweithredu’r mesurau a fydd yn rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. rheoli amseru’r gweithgareddau trin pridd), mae’r effeithiau hyn yn amrywio o rai mân i gymedrol andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.5.5 Byddai colli’r tir gorau a mwyaf aml-bwrpas dros dro ac yn barhaol, yn ystod camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, yn achosi canlyniad cymedrol andwyol. Ar sail Polisi Cenedlaethol o dan Nodyn Cyngor Technegol 6 (TAN6) Polisi Cynllunio Cymru (PPW) (Llywodraeth Cymru, 2010), ni ystyrir bod hyn yn golled arwyddocaol o’r tir amaethyddol gorau a mwyaf aml-bwrpas oherwydd mae’r ardal dan sylw’n dipyn llai na’r trothwy o 20ha a nodir yn y polisi hwn. Felly ar y sail hon, ni aseswyd y byddai colli tua 4.8ha ar y mwyaf o dir Is-radd 3a yn arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.5.6 Byddai’r aflonyddwch dros dro i weithrediad daliadau fferm yn ystod cam adeiladu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n achosi canlyniad cymedrol andwyol, sy’n arwyddocaol yn nhermau EIA. Byddai’r aflonyddwch parhaol i weithrediad daliadau fferm yn ystod camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n achosi canlyniad mân andwyol, sy’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.5.7 Byddai’r effaith dros dro ar ddefnydd hamdden o’r ardaloedd arfordirol, Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Beicio Cenedlaethol Rhif 5 yn ystod cam adeiladu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n achosi canlyniad mân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA. Byddai’r effaith dros dro ar ddefnydd hamdden o adnoddau hamdden yn ystod cam adeiladu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n achosi canlyniad cymedrol andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.5.8 Gwnaed asesiad cronnus ar gyfer y defnyddiau tir a hamdden a fu’n ystyried ansawdd y tir amaethyddol, daliadau fferm ac adnoddau hamdden yn ystod pob un o gamau’r Prosiect. Y farn oedd y byddai’r holl ganlyniadau cronnus posib yn ystod y cam adeiladu’n rhai o arwyddocâd mân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA. Ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau cronnus pellach i ddefnyddiau tir a hamdden o ganlyniad i gamau gweithredol a chynnal a chadw’r Prosiect.
1.8.5.9 Ystyriwyd nad oes unrhyw botensial i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona achosi canlyniadau trawsffiniol arwyddocaol i fuddiannau ansawdd aer Gwledydd eraill.
1.8.6 Traffig a thrafnidiaeth
1.8.6.1 Mae traffig a thrafnidiaeth yn ymwneud â’r galw o ran symudiadau a gynhyrchir gan Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona a’i ganlyniadau i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd a’u hamgylchoedd. Cam adeiladu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona fydd yn cynhyrchu’r nifer fwyaf o symudiadau cerbydau oherwydd mai cludo’r deunydd adeiladu fydd yn achosi’r nifer fwyaf o symudiadau gan Gerbydau Nwyddau Trwm (HGV) a staff, a’r cam hwn y mae pennod traffig a thrafnidiaeth y PEIR yn canolbwyntio arno.
1.8.6.2 Mae pennod traffig a thrafnidiaeth y PEIR yn disgrifio’r ardal astudiaeth gychwynnol ar gyfer traffig a thrafnidiaeth, y prif gysylltiadau priffyrdd sy’n rhan o hyn, amcangyfrifon o nifer dyddiol arferol y symudiadau cerbydau adeiladu a’r asesiad cychwynnol o’r effaith amgylcheddol a wnaed cyn penderfynu ar y mynedfeydd a chadarnhau’r lonydd mynediad.
1.8.6.3 Mae ardal astudiaeth gychwynnol ar gyfer traffig a thrafnidiaeth wedi’i hadnabod sy’n cynnwys yr A55 a rhannau perthnasol o’r rhwydwaith priffyrdd lleol a fyddai’n debygol o gael eu defnyddio gan gerbydau’r gwaith adeiladu. Mae’r sefyllfa sylfaenol yn cael ei chadarnhau drwy adolygu arolygon traffig a wnaed eisoes a chynnal rhai newydd, dadansoddi diogelwch y ffyrdd, darpariaeth a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, a chyfleusterau i gerddwyr a beicwyr.
1.8.6.4 Mae asesiad o effaith cychwynnol wedi’i wneud yn y bennod dan sylw yn y PEIR cyn penderfynu ar y mynedfeydd a chadarnhau’r lonydd mynediad, a hyn wedi adnabod y bydd llif traffig adeiladu dyddiol cyfartalog y Prosiect yn isel o’i gymharu â llif traffig y sefyllfa sylfaenol ar draws yr ardal astudiaeth traffig a thrafnidiaeth gychwynnol.
1.8.6.5 Aseswyd y byddai’r canlyniadau oddi wrth Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona i’r llif traffig adeiladu dyddiol cyfartalog o ran achosi oedi i yrwyr, datgysylltu lonydd, oedi ac amwynder i gerddwyr, damweiniau a diogelwch ffyrdd, a llwythi peryglus ac abnormal na fyddai’n bosib eu rhannu, o arwyddocâd mân andwyol ac felly’n ddi- arwyddocaol yn nhermau EIA. Bydd mesurau hefyd yn cael eu gweithredu fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona i leihau effaith traffig (e.e. adnabod lonydd HGV addas).
1.8.6.6 Oherwydd na phenderfynwyd ar y mynedfeydd ac ni chadarnhawyd y lonydd mynediad eto, nid yw hyd a lled llawn y rhwydwaith priffyrdd sydd i’w asesu wedi’i gadarnhau’n llawn eto. Felly ni ellir eto cadarnhau pa brosiectau sydd i’w hystyried yn gronnus a bydd asesiad amgylcheddol cronnus felly’n cael ei gyflwyno gyda’r cais am Ganiatâd Datblygu.
1.8.6.7 Ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau trawsffiniol i fuddiannau traffig a thrafnidiaeth Gwledydd eraill o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona.
1.8.6.8 Ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau rhyng-gysylltiol i fuddiannau traffig a thrafnidiaeth Gwledydd eraill o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona.
1.8.7 Sŵn a dirgryniad
1.8.7.1 Gall sŵn a dirgryniad dieisiau arwain at ganlyniadau andwyol i amwynderau preswyl ac iechyd y cyhoedd. Gan hynny, mae’n bwysig bod effeithiau sŵn a dirgryniad sy’n ddisgwyliedig o gamau adeiladu a gweithredol datblygiadau newydd yn cael eu hasesu a’u lliniaru gymaint ag y bo’n rhesymol ymarferol. Mae’r amgylchedd sŵn arfaethedig ar gyfer datblygiad Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona wedi’i nodweddu drwy wneud arolygon safle-benodol a gwaith monitro sŵn hirdymor wedi rhoi data ar gyfer penderfynu’r meini prawf ar gyfer asesu effaith.
1.8.7.2 Dangosodd yr arolygon sŵn tymor hir a thymor byr yn glir bod gan y rhan fwyaf o ardal Datblygu Ar y Lan Mona hinsawdd sŵn isel oherwydd natur wledig yr ardal. Y prif ffynonellau sŵn oedd wedi eu hadnabod oedd traffig ar hyd yr A55 a ffyrdd lleol eraill, a oedd yn mynd yn fwy swnllyd i gyfeiriad ardal glanfa Mona.
1.8.7.3 Mae nifer o effeithiau sŵn a dirgryniad posib o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Effeithiau sŵn yn deillio o adeiladu’r asedau cynhyrchu ar y môr, y Coridor Ceblau Ar y Lan, a’r is-orsaf ar y lan
- Effeithiau dirgryniad oherwydd gweithgareddau gosod polion yn yr ardal rhwng llanw a thrai wrth ymyl carafanau statig ar hyd arfordir Abergele
- Effeithiau sŵn gweithredol yr is-orsaf ar y lan.
1.8.7.4 Drwy weithredu mesurau rheoli sŵn a ddisgrifir mewn Cynllun Rheoli Sŵn Adeiladu a Chynllun Rheoli Sŵn Gweithredol, bydd y rhan fwyaf o’r effeithiau hyn yn achosi canlyniadau o arwyddocâd mân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.7.5 Mae canlyniadau o arwyddocâd cymedrol andwyol wedi eu hadnabod lle y bydd angen technegau ‘dim tyllu’ wrth osod y ceblau trawsyrru ar y lan. Mae hyn oherwydd y sŵn uchel oddi wrth beiriannau adeiladu a hefyd oherwydd y gallai fod angen gweithio wedi nos pryd y mae lefelau sŵn yn isel ar hyn o bryd. Gallai hefyd fod potensial ar gyfer canlyniadau cymedrol andwyol wrth y lanfa. Bydd arwyddocâd y canlyniadau hyn yn lleihau drwy weithredu mesurau lliniaru sŵn gwell (e.e. llociau), yn enwedig o gwmpas cyfarpar sy’n weithredol yn barhaus. Ar ôl ystyried natur dros dro’r effaith bosib hon (yn y cam adeiladu’n unig) a thrwy weithredu’r mesurau hyn, mae’n bosib y bydd arwyddocâd y canlyniad hwn yn lleihau i fod yn fân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.7.6 Aseswyd y canlyniadau cronnus o ddatblygiadau gerllaw sy’n cynhyrchu sŵn (camau adeiladu neu weithredol) o fewn 1km i Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona gan ddisgwyl iddynt achosi canlyniadau mân andwyol sy’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.7.7 Ni ddisgwylir unrhyw ganlyniadau trawsffiniol i fuddiannau sŵn a dirgryniad Gwledydd eraill o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona.
1.8.8 Ansawdd yr aer
1.8.8.1 Mae ansawdd yr aer yn fesur a ddefnyddir i ddisgrifio lefel y llygredd yn yr aer. Gall gweithgareddau adeiladu ar safle gynhyrchu llwch a deunydd gronynnol a gall llwch hefyd gael ei dracio a’i gario allan i’r rhwydwaith ffyrdd cyhoeddus. Gallai’r crynodiadau llygredd yn yr atmosffer hefyd newid wrth i danwydd gael i losgi mewn cerbydau.
1.8.8.2 Yn ystod y camau adeiladu a datgomisiynu, y prif lygredd yw llwch sy’n cynnwys deunydd gronynnol crog yn yr aer y gellir ei anadlu, a llwch sy’n disgyn allan o’r aer fel dyddodion ar ben pethau ac a allai achosi niwsans dros dro. Gallai hyn effeithio ar eiddo, iechyd pobl a llystyfiant (derbynyddion ecolegol).
1.8.8.3 Ni wyddys eto ar hyn o bryd faint o draffig ychwanegol fydd yn cael ei gynhyrchu yn y cam adeiladu a chanlyniadau posib llwch wedi’i dracio allan ynghyd â newidiadau i allyriadau o gerbydau. Felly dim ond risg bosib effeithiau dyddodion llwch a chynnydd mewn deunydd gronynnol a gynhyrchir yn ystod camau adeiladu a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona a drafodir yn y bennod hon.
1.8.8.4 Bydd risg bosib effeithiau llwch wedi eu tracio allan a newidiadau i allyriadau o gerbydau ar ansawdd yr aer yn ystod camau adeiladu a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n cael ei hystyried yn y Datganiad Amgylcheddol.
1.8.8.5 Mae gwaith monitro deunydd gronynnol lleol wedi’i adolygu a’i gymharu ag amcangyfrifon mapio Defra o grynodiadau cefndir er mwyn penderfynu ar ddata crynodiad sylfaenol addas.
1.8.8.6 Mae’r effeithiau posib canlynol ar ansawdd yr aer o ganlyniad i gamau adeiladu a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona wedi cael eu hadnabod:
- Risg ganolig o effaith baw llwch ar eiddo oddi wrth weithgareddau ar y safle
- Risg isel o effaith llwch deunydd gronynnol ar bobl oddi wrth weithgareddau ar y safle
- Risg uchel o effaith llwch deunydd gronynnol ar ecoleg oddi wrth weithgareddau ar y safle.
1.8.8.7 Fodd bynnag, yn dilyn gweithredu mesurau rheoli llwch priodol (e.e. tampio gyda dŵr), byddai’r effeithiau hyn yn achosi canlyniadau dibwys ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.8.8 Aseswyd y byddai canlyniad baw llwch ar eiddo oddi wrth weithgareddau ar y safle yn ystod camau adeiladu a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n ddibwys ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.8.9 Aseswyd y byddai canlyniad llwch deunydd gronynnol ar bobl oddi wrth weithgareddau ar y safle yn ystod camau adeiladu a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n ddibwys ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.8.10 Aseswyd y byddai canlyniad llwch deunydd gronynnol ar ecoleg oddi wrth weithgareddau ar y safle yn ystod camau adeiladu a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n ddibwys ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.8.11 Bydd mesurau i leihau’r effeithiau hefyd yn cael eu defnyddio fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. cynhyrchu Cynllun Rheoli Sŵn Adeiladu).
1.8.8.12 Aseswyd y canlyniadau cronnus rhwng Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona a phrosiectau / cynlluniau eraill o fewn 700m o ran effaith ar ansawdd yr aer. Roedd hyn yn cynnwys effaith bosib llwch a deunydd gronynnol, a gynhyrchir gan weithgareddau adeiladu a datgomisiynu ar y safle, ar eiddo, iechyd pobl ac ecoleg. Penderfynodd yr asesiad y byddai’r canlyniadau cronnus i ansawdd yr aer rhwng Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona a phrosiectau / cynlluniau eraill yn ystod y camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu’n annhebygol o fod yn arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.8.13 Ystyriwyd nad oes unrhyw botensial i’r camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu achosi canlyniadau trawsffiniol arwyddocaol i ansawdd yr aer.
1.8.9 Ornitholeg ryng-lanwol ac ar y lan
1.8.9.1 Mae adar magu, mudol a gaeafu’n defnyddio’r cynefinoedd tir a rhwng llanw a thrai ar hyd Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona. Mae adar dŵr ac adar môr sy’n dibynnu ar y tiroedd gwlyb a’r amgylchedd morol i fyw yn ystod eu cylch bywyd ar ryw bwynt yn defnyddio’r cynefinoedd rhyng-lanwol a dyfroedd agos i’r lan wrth Lanfa Arfaethedig Mona yn y gaeaf ac yn y misoedd ymfudol (gwanwyn a hydref). Hefyd, mae’r cynefinoedd daearol ar hyd Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona’n cyflawni sawl pwrpas (e.e. twrio am fwyd, nythu a gweithgarwch arall di-dwrio) i adar magu (e.e. adar ysglyfaethus a golfanod) ac adar gaeafu a mudol. Casglwyd gwybodaeth am adar magu, gaeafu a mudol ar gyfer yr ardal astudiaeth ornitholeg ar y lan a’r ardal astudiaeth ornitholeg ryng-lanwol drwy adolygiad pen-desg manwl o astudiaethau a data oedd eisoes ar gael ac arolygon safle-benodol, gan gynnwys arolygon adar gaeafu, adar magu ar y lan, ac adar dŵr rhyng-lanwol.
1.8.9.2 Dangosodd yr arolygon ornitholeg ryng-lanwol safle-benodol fod ardal Glanfa Arfaethedig Mona’n cynnal nifer o adar dŵr ac adar môr sy’n nodweddiadol o arfordir gogledd Cymru, yn bennaf hwyaid môr a throchyddion yn y dyfroedd agos i’r lan, ac adar hirgoes yn yr ardal rhyng-lanwol. Roedd y rhywogaethau hyn yn cynnwys, yn bennaf, y pibydd coesgoch Tringa totanus, y bioden fôr Haematopus ostralegus, y gylfinir Numenius arquata a’r cwtiad torchog Charadrius hiaticula. Yn ôl yr arolygon safle-benodol o adar magu yn Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona, roedd y rhywogaethau adar yn bennaf yn cynnwys adar tir fferm sy’n nythu ar y ddaear mewn cynefin glaswelltir / porfa, neu adar ysglyfaethus a golfanod yn nythu mewn gwrychoedd a choetir.
1.8.9.3 Mae nifer o effeithiau posib ar rywogaethau adar o ganlyniad i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, wedi cael eu hadnabod. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Colli cynefin dros dro a pharhaol
- Aflonyddu ar gynefin
- Darnio cynefin ac ynysu rhywogaethau
- Llygredd oddi wrth ddamweiniau tywallt / halogi
- Lledaeniad INNS.
1.8.9.4 Drwy’r mesurau sydd i’w gweithredu fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona (e.e. arolygon adar magu cyn dechrau ar y gwaith), mae’r holl effeithiau hyn yn achosi canlyniadau o arwyddocâd dibwys neu fân andwyol sy’n ddi-arwyddocaol yn
nhermau EIA.
1.8.9.5 Ystyriwyd bod colli cynefin dros dro o arwyddocâd mân andwyol i rywogaethau adar môr ac adar dŵr yn Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona, sy’n achosi canlyniadau di-arwyddocaol yn nhermau EIA oherwydd natur tymor byr yr effaith yn ystod camau adeiladu a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Dylid nodi na ddisgwylir unrhyw ganlyniadau arwyddocaol i adar magu o ran colli cynefin parhaol yn Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona oherwydd nad yw’r tiroedd magu yn gorgyffwrdd ag Is-orsafoedd Arfaethedig Mona, lle y disgwylir i golli cynefin ddigwydd ar raddfa fach ac mewn cynefinoedd o werth ornitholegol isel.
1.8.9.6 Ystyriwyd bod aflonyddu ar gynefin o arwyddocâd mân andwyol i rywogaethau adar yn Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona, sydd felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA oherwydd natur tymor byr yr effaith yn ystod camau adeiladu a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Ystyriwyd bod yr effeithiau llygredd a achosir gan ddamweiniau tywallt / halogi hefyd o arwyddocâd mân andwyol i dderbynyddion ornitholegol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA oherwydd natur tymor byr yr effaith. Yn yr un modd, ystyriwyd bod lledaeniad INNS o arwyddocâd mân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA. Yn olaf, nid oedd unrhyw ganlyniad arwyddocaol (dim newid) oherwydd effaith darnio cynefin ac ynysu rhywogaethau adar.
1.8.9.7 Aseswyd y canlyniadau cronnus rhwng Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona a phrosiectau / cynlluniau eraill o fewn 1km i Ardal Datblygu Ar y Lan Arfaethedig Mona, o ran eu heffaith ar ornitholeg ar y lan. Roedd hyn yn cynnwys effeithiau posib colli cynefin dros dro a pharhaol, aflonyddu ar gynefin, darnio cynefin ac ynysu rhywogaethau, llygredd o ddamweiniau tywallt / halogi a lledaeniad INNS. Penderfynodd yr asesiad y byddai’r canlyniadau cronnus i ornitholeg ar y lan rhwng Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona a phrosiectau / cynlluniau eraill yn ystod y camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu’n achosi canlyniadau dibwys i fân andwyol ac felly’n ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.
1.8.9.8 Ystyriwyd nad oes unrhyw botensial i gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona achosi canlyniadau trawsffiniol arwyddocaol i fuddiannau ornitholeg ar y lan Gwledydd eraill.
1.8.10 Canlyniadau rhyng-gysylltiol – ar y lan
1.8.10.1 Mae angen i’r EIA ystyried y potensial ar gyfer canlyniadau rhyng-gysylltiol ar grwpiau o dderbynyddion yn ystod camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Cyflwynir yr asesiad o ganlyniadau rhyng-gysylltiol (ar y lan) mewn pennod ar wahân yn y PEIR.
Canlyniadau gydol oes y prosiect
1.8.10.2 Gall effeithiau ar grŵp o dderbynyddion achosi canlyniadau rhyng-gysylltiol dros sawl cam ym mywyd Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Er enghraifft, gallai grŵp o dderbynyddion gael eu heffeithio yn ystod camau adeiladu a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Disgrifir y canlyniadau rhyng-gysylltiol hyn fel canlyniadau gydol oes prosiect.
1.8.10.3 Ar gyfer y rhan fwyaf o’r grwpiau derbynyddion sydd wedi eu hadnabod, yn dilyn mesurau sydd i’w gweithredu fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona a mesurau lliniaru pellach (lle bo angen), mae effeithiau a fydd yn codi o gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu’r Prosiect yn annhebygol o achosi canlyniadau gydol oes arwyddocaol. Fodd bynnag, mae’n bosib yr achosir canlyniadau gydol oes arwyddocaol yn nhermau EIA i’r grwpiau canlynol o dderbynyddion:
- Ffactorau economaidd-gymdeithasol: effaith fuddiol bosib Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona ar berfformiad y diwydiant ynni adnewyddadwy.
Canlyniadau i dderbynyddion
1.8.10.4 Gallai canlyniadau rhyng-gysylltiol hefyd ddigwydd lle y mae grŵp o dderbynyddion yn cael eu heffeithio gan nifer o effeithiau amgylcheddol. Er enghraifft, gallai colli cynefin, sŵn a llwch yn ystod cam adeiladu prosiect Gwynt Ar y Môr Mona effeithio ar rywogaeth a warchodir. Disgrifir y canlyniadau rhyng-gysylltiol hyn fel canlyniadau
i dderbynyddion.
1.8.10.5 Mae’r holl ganlyniadau posib i dderbynyddion sydd wedi eu hadnabod yn ystod camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, eisoes wedi cael eu hystyried ym mhenodau perthnasol y PEIR. Felly nid yw arwyddocâd posib y canlyniadau i dderbynyddion oddi wrth Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona ar bob un o’r grwpiau derbynyddion perthnasol wedi’i ystyried ymhellach ym mhennod Canlyniadau Rhyng-gysylltiol (ar y lan) y PEIR ac ystyriwyd eu bod yn
ddi-arwyddocaol yn nhermau EIA.