Skip to content
Ar y dudalen hon

1.6 Methodoleg yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol

1.6.1 Trosolwg


1.6.1.1 Mae’r rhan yma’n disgrifio methodoleg yr EIA a ddefnyddiwyd ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona fel rhan o baratoi’r adroddiad PEIR. Mae’r EIA ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n disgrifio’r canlyniadau tebygol i’r amgylchedd a fyddai’n deillio o gamau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw a datgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Lle y disgwylir canlyniadau arwyddocaol tebygol, mae’n adnabod mesurau i liniaru maint y canlyniadau hyn (lle bo’n ymarferol).

1.6.2 Dull yr EIA


1.6.2.1 Gellir crynhoi’r dull o benderfynu ar gwmpas yr EIA sydd i’w gynnwys gyda’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) yn gyffredinol fel un sy’n cynnwys tair prif elfen sy’n digwydd cyn cyflwyno’r cais am y DCO a’r Datganiad Amgylcheddol:

  • Cwmpasu: I benderfynu’r materion sydd angen rhoi sylw iddynt yn ystod proses yr EIA
  • Ymgynghori: Ymgynghori cyn-cais yn unol â Deddf 2008 (diwygiwyd), gan gynnwys cynhyrchu adroddiad PEIR sy’n sail ar gyfer yr ymgynghoriad statudol
  • Paratoi Datganiad Amgylcheddol: Adrodd ar broses yr EIA, diweddaru’r wybodaeth a roddir yn y PEIR a pharhau i ddiwygio ac ymgynghori ar y dyluniad.

1.6.2.2 Mae’r asesiad o bob pwnc (e.e. mamaliaid morol, mordwyo a llongau, ayyb) yn rhan o bennod ar wahân yn y PEIR hwn. Ym mhob pennod pwnc, mae’r elfennau isod wedi eu cynnwys:

  • Adnabod yr ardal astudiaeth ar gyfer yr asesiadau pwnc-benodol
  • Disgrifio’r cyd-destun polisi a chanllawiau cynllunio
  • Crynodeb o’r prif weithgareddau ymgynghori, gan gynnwys sylwadau a dderbyniwyd yn y Farn Gwmpasu
  • Disgrifiad o’r amodau amgylcheddol sylfaenol (gan gynnwys yr amodau sylfaenol yn y dyfodol)
  • Cyflwyniad yr EIA, sy’n cynnwys:
    • IAdnabod y Senario Dylunio Effaith Waethaf (MDS) ar gyfer pob asesiad o ganlyniadau
    • IAdnabod y canlyniadau tebygol ac asesu arwyddocad y canlyniadau sydd wedi eu hadnabod
    • IDisgrifiad o’r mesurau i’w mabwysiadu fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona er mwyn atal, lleihau neu wrthbwyso’r canlyniadau i’r amgylchedd
    • ILle bo’n ofynnol, adnabod unrhyw fesurau pellach sy’n ofynnol i fynd i’r afael â’r canlyniadau arwyddocaol tebygol, ac ystyried unrhyw ganlyniadau gweddilliol
    • IAdnabod unrhyw fonitro yn y dyfodol a allai fod yn ofynnol
    • IAsesu unrhyw ganlyniadau cronnus a allai gyfuno â datblygiadau mawr eraill, gan gynnwys rhai sy’n arfaethedig, sydd wedi cael caniatâd ac ar ganol cael eu hadeiladu
    • ITrafodir asesu unrhyw ganlyniadau trawsffiniol (h.y. canlyniadau ar draws ffiniau gwledydd eraill) ymhellach yn adran 1.6.8 y ddogfen hon.

1.6.2.3 Asesir canlyniadau rhyng-gysylltiol (h.y. y berthynas gysylltiol rhwng gwahanol bynciau amgylcheddol) mewn penodau ar wahân (un ar y lan ac un ar y môr) yn y PEIR.

1.6.2.4 Disgrifir y dull o ymdrin â phrif elfennau’r cynllun ar gyfer paratoi’r EIA yn fwy manwl yn yr adrannau canlynol.

1.6.3 Ymgynghori a chwmpasu


Cwmpasu

1.6.3.1 Ymgynghorwyd ar fethodoleg arfaethedig yr EIA (gan gynnwys methodoleg yr Asesiad o Ganlyniadau Cronnus (CEA) a’r cynllun ar gyfer asesu’r canlyniadau trawsffiniol a’r canlyniadau rhyng-gysylltiol) yng ngham cwmpasu’r EIA. Mae Adroddiad Cwmpasu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona (Mona Offshore Wind Ltd, 2022), a oedd yn cynnwys manylion am gynllun arfaethedig yr EIA ar gyfer pob pwnc, wedi’i gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS ym mis Mai 2022. Derbyniodd yr Ymgeisydd y Farn Gwmpasu yn 2022 (Yr Arolygiaeth Gynllunio, 2022). Cyfarfu’r Ymgeisydd â rhanddeiliaid i drafod eu hadborth yn fwy manwl ac i ystyried diwygiadau i Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona cyn ymgynghori’n ffurfiol ar y PEIR.

1.6.3.2 Bydd ymgynghori’n parhau drwy gydol oes Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

Datganiad ymgynghori â’r gymuned

1.6.3.3 Mae’r Ymgeisydd wedi paratoi Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned (SoCC) sy’n nodi sut y mae’n bwriadu ymgynghori â chymunedau lleol ar Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Bydd yr Ymgeisydd yn ymgynghori’n unol â’r SoCC. Mae’r Ymgeisydd wedi ymgynghori ar gwmpas y SoCC a bydd yn ymgynghori ar gynnwys y SoCC â phob un o’r awdurdodau lleol y mae Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona o fewn eu hardaloedd.

1.6.3.4 Yng Nghymru, mae cynghorau cymuned a thref hefyd yn ymgyngoreion statudol a bydd yr Arolygiaeth Gynllunio a’r Ymgeisydd yn eu hysbysu ac ymgynghori â nhw fel rhan o’r ymgynghori cyn-cais.

1.6.3.5 Oherwydd lleoliad Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, yr awdurdodau lleol y mae’r Ymgeisydd wedi ymgynghori â nhw yw:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Sir Powys
  • Cyngor Sir Ynys Mon
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Ymgynghori â’r cyhoedd

1.6.3.6 Bu’r Ymgeisydd yn ymgynghori â’r cyhoedd rhwng y 7fed Mehefin a’r 3ydd Awst 2022. Dros gyfnod yr ymgynghori, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau. Roeddent yn cynnwys digwyddiad ar-lein (gweminar), arddangosfeydd cyhoeddus a digwyddiadau ‘stondin’ i rai a oedd â diddordeb neu’n cael eu heffeithio gan Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona gael gweld y wybodaeth a oedd ar gael. Yna yn yr Hydref 2022 cynhaliwyd ail gam ymgynghori anstatudol ar leoliadau is-orsaf posib.

1.6.3.7 Yn y digwyddiadau hyn (ar-lein neu wyneb yn wyneb), roedd y cyhoedd yn gallu gweld y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona, gan gynnwys mapiau a diagramau’n dangos y seilwaith arfaethedig. Roeddent yn gallu siarad yn uniongyrchol ag aelodau o dîm Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona a gofyn unrhyw gwestiwn neu godi unrhyw bryder. Roedd gan y cyfranogwyr gyfle i lenwi ffurflen adborth.

1.6.3.8 Ar ddiwedd y digwyddiadau ymgynghori anstatudol, casglwyd ac ystyriwyd yr adborth er mwyn goleuo’r gwaith o ddatblygu’r prosesau ymgynghori ac EIA, lle bo’n berthnasol. Bydd yr holl adborth yn cael ei gyflwyno’n gynhwysfawr yn yr Adroddiad Ymgynghori fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o’r cais.

1.6.3.9 Rhoddir mwy o fanylion am Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona a’r ymgynghori arno ar wefan y prosiect yn:

Ymgynghori pwnc-benodol

1.6.3.10 Mae’r Ymgeisydd yn hwyluso’r Broses Cynllun Tystiolaeth ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Mae’r broses hon yn rhoi cyfle i randdeiliaid roi cyngor ar gynigion yn gynnar er mwyn helpu i liniaru canlyniadau i’r amgylchedd. Fel rhan o hyn, sefydlwyd Grŵp Llywio’n ogystal â gweithgorau EWG i drafod materion pwnc-benodol â rhanddeiliaid perthnasol. Mae’r Grŵp Llywio’n cynnwys yr aelodau canlynol:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW)
  • Natural England
  • Y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC)
  • Y Sefydliad Rheoli Morol (MMO)
  • Yr Arolygiaeth Gynllunio

1.6.3.11 Sefydlwyd gweithgorau EWG ar gyfer y pynciau canlynol:

  • Prosesau ffisegol, ecoleg y dyfnfor ac ecoleg pysgod a chregyn pysgod (mae’r aelodau’n cynnwys: NRW, Natural England, JNCC, MMO, yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt (TWT) a llywodraeth Ynys Manaw)
  • Mamaliaid morol (mae’r aelodau’n cynnwys: NRW, Natural England, JNCC, MMO, TWT a llywodraeth Ynys Manaw)
  • Ornitholeg forol (mae’r aelodau’n cynnwys: NRW, Natural England, JNCC, MMO, TWT, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) a llywodraeth Ynys Manaw)
  • Ecoleg forol (mae’r aelodau’n cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, NRW, RSPB, Cyngor Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru)
  • Dewis safle (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych).

1.6.3.12 Yn ogystal â’r Broses Cynllun Tystiolaeth, mae’r Ymgeisydd hefyd yn hwyluso Fforwm Ymgysylltu Mordwyo Morol (MNEF) fel bo’r Ymgeisydd yn gallu diweddaru rhanddeiliaid yn rheolaidd ar gynlluniau a chynnydd Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, ac fel y gall rhanddeiliaid leisio barn neu bryderon am ganlyniadau Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona er mwyn eu trafod, a lle bo’n bosib, eu datrys. Cynhaliwyd pedwar cyfarfod MNEF cyn-PEIR, yn Nhachwedd 2021, Mai 2022, Hydref 2022 ac Ionawr 2023.

1.6.3.13 Mae’r Ymgeisydd wedi ymrwymo i ymgynghori â rhanddeiliaid pysgodfeydd masnachol. MarineSpace sy’n cyflawni’r rôl o Swyddog Cyswllt Pysgodfeydd (CFLO) ar ran yr Ymgeisydd. Mae ymgynghori wedi’i wneud â physgodfeydd lleol a rhanbarthol ers Mehefin 2021 hyd at heddiw.

1.6.3.14 Sefydlwyd Fforwm Ymgysylltu ag Archeoleg a Threftadaeth er mwyn ymgynghori ag MMO, Historic England, CADW a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar y canlyniadau y gallai Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona ei gael i’r amgylchedd hanesyddol ar y lan ac ar y môr.

1.6.3.15 Mae’r Ymgeisydd wedi ymgynghori ar adnoddau morlun, tirlun a gweledol â chyrff SNCB a’r cynghorau lleol perthnasol ar leoliadau’r golygfannau enghreifftiol a oedd yn sail ar gyfer y gwaith arolwg safle a’r lluniau ffotograff y mae’r EIA yn seiliedig arnynt.

1.6.4 Y dull dylunio


1.6.4.1 Mae proses EIA Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona wedi defnyddio dull senario dylunio effaith waethaf (MDS) a elwir hefyd yn ddull Dylunio Rochdale. Mae’r dull MDS yn caniatáu i broses yr EIA gael ei gweithredu ar sail senario ‘effaith waethaf’ realistig (h.y. uchafswm paramedrau dylunio’r prosiect) a ddewisir o wahanol senarios dylunio ac adeiladu. Ar gyfer pob un o’r canlyniadau a asesir yn y penodau pwnc, mae’r MDS yn cael ei adnabod o’r ystod o wahanol opsiynau posib ar gyfer pob paramedr yn nisgrifiad prosiect y PEIR.

1.6.4.2 Er enghraifft, lle y mae nifer o opsiynau tyrbin gwynt wedi eu cynnwys yn y dyluniad, mae’r asesiad o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n seiliedig ar y math o dyrbin gwynt y credir a fyddai’n achosi’r canlyniad mwyaf. Gallai hyn fod y tyrbin gyda’r ôl-troed mwyaf, y blaen llafn uchaf o ran uchder, neu’r ardal fwyaf o wely’r môr a fyddai’n cael ei haflonyddu yn ystod y gwaith adeiladu, gan ddibynnu ar y pwnc dan sylw. Drwy adnabod yr MDS ar gyfer unrhyw ganlyniad posib, gellir felly casglu na fydd y canlyniad ddim mwy nag o dan unrhyw senario ddylunio neu adeiladu arall na’r hyn a aseswyd ar gyfer yr MDS. Drwy ddefnyddio’r dull MDS, mae’r Ymgeisydd yn cadw rhywfaint o hyblygrwydd yn nyluniad terfynol Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, ond o fewn uchafsymiau paramedr penodol, a asesir yn llawn yn yr EIA. Bydd dyluniad terfynol Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona yn cael ei ddewis ar ôl derbyn y caniatâd datblygu, yn unol â’r paramedrau a roddir yn y disgrifiad o’r prosiect yn y Datganiad Amgylcheddol.

1.6.5 Lliniaru a diwygio’r dyluniad yn barhaus


1.6.5.1 Yn ystod y broses EIA, mae’r canlyniadau posib i’r amgylchedd yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses diwygio’r dyluniad yn barhaus. Defnyddiwyd proses yr EIA felly i oleuo’r dyluniad, gyda’r Ymgeisydd yn gwneud penderfyniadau dylunio sy’n lliniaru’r canlyniadau i’r amgylchedd (a elwir yn fesurau wedi eu mabwysiadu fel rhan o Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Mae’r asesiadau yn y PEIR felly’n cynnwys ystod o fesurau a ddyluniwyd i leihau neu atal canlyniadau andwyol arwyddocaol rhag digwydd.

1.6.6 Asesiad o’r canlyniadau


1.6.6.1 Mae gan Brosiect Gwynt Ar y Môr Mona botensial i greu ystod o ‘effeithiau’ sy’n arwain at achosi ‘canlyniadau’ i’r amgylchedd ffisegol, biolegol a ‘dynol’ o ganlyniad. Diffinnir y term ‘effaith’ fel newid a achosir gan weithred. Diffinnir y term ‘canlyniad’ fel rhywbeth sy’n digwydd o ganlyniad i’r ‘effaith’. Er enghraifft, mae gosod cêbl rhyng- arae (gweithred) yn arwain at aflonyddu ar wely’r môr (effaith), gyda’r posibilrwydd o aflonyddu ar gynefinoedd a rhywogaethau dyfnforol (canlyniad).

1.6.6.2 Ar gyfer pob effaith a asesir yn y PEIR hwn, dyrannwyd ‘maint’ ar ei chyfer. Mae maint ‘effaith’ yn ystyried maint yr effaith yn nhermau gofodol, parhad a pha mor aml y mae’n digwydd, ac a ellid gwrthdroi effeithiau camau adeiladu, gweithredol, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona.

1.6.6.3 Diffinnir derbynyddion fel yr adnodd ffisegol neu fiolegol, neu’r grŵp o ddefnyddwyr, a allai gael eu heffeithio gan effeithiau Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona. Mae’r derbynyddion hyn yn cael eu hadnabod drwy’r astudiaethau data / data sylfaenol a adolygwyd fel rhan o baratoi’r PEIR hwn. Wrth ddiffinio sensitifrwydd pob derbynnydd, ystyriwyd pa mor fregus, gwerth / pwysigrwydd ac a ellid adfer y derbynyddion hyn.

1.6.6.4 Gwerthusir arwyddocâd y canlyniad drwy ystyried maint yr effaith ochr yn ochr â sensitifrwydd y derbynnydd. Mae pob pennod yn diffinio’r dull a ddefnyddiwyd i asesu arwyddocâd. Oni nodir yn wahanol yn y bennod, defnyddiwyd y dull matrics a ddangosir yn Table 1.3 fel canllaw.

Sensitifrwydd y derbynnyddMaint yr effaith
Dim newidDibwysIselCanoligUchel
DibwysDim newidDibwysDibwys neu fânDibwys neu fânMân
IselDim newidDibwys neu fânDibwys neu fânMânMân neu gymedrol
CanoligDim newidDibwys neu fânMânCymedrolCymedrol neu fawr
UchelDim newidMânMân neu gymedrolCymedrol neu fawrMawr
Uchel IawnDim newidMânCymedrol neu fawrEffaith fawrEffaith fawr

Tabl 1.3: Matrics a ddefnyddiwyd i asesu arwyddocâd y canlyniadau

1.6.7 Asesiad o’r canlyniadau cronnus


1.6.7.1 Diffinnir canlyniadau cronnus fel rhai sy’n deillio o newidiadau graddol o dipyn i beth a achosir gan brosiectau eraill y gellir rhagweld yn rhesymol eu bod yn mynd i ddigwydd, ochr yn ochr â’r prosiect dan sylw (IEMA, 2017). Mae’r CEA felly’n ystyried canlyniadau tebygol Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona ochr yn ochr â chanlyniadau tebygol prosiectau, cynlluniau a gweithgareddau eraill yng nghyffiniau Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, ar sail y wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd. Ystyrir canlyniadau cronnus ym mhob un o benodau pwnc y PEIR.

1.6.7.2 Mae’r ISAA ar gyfer Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona’n ystyried y canlyniadau ‘mewn cyfuniad’, fel y cawsant eu disgrifio yn Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (diwygiwyd). Mae’r rhain yn debyg i ganlyniadau cronnus ond wedi eu diffinio fel canlyniad cyfunol Prosiect Gwynt Ar y Môr Mona, a chanlyniadau nifer o wahanol brosiectau, cynlluniau a gweithgareddau, ar gyflawnder Safleoedd Ewropeaidd a ddynodwyd am eu gwerth cadwraeth natur. Cyflwynir y canlyniadau ‘mewn cyfuniad’ ar wahân yn yr ISAA.

1.6.8 Canlyniadau trawsffiniol


1.6.8.1 Mae canlyniadau trawsffiniol yn digwydd pan fydd effeithiau prosiect mewn un Wlad yn effeithio ar amgylchedd gwlad neu wledydd eraill. Ystyriwyd y canlyniadau trawsffiniol ym mhob un o benodau pwnc y PEIR, ar sail canlyniad y broses sgrinio trawsffiniol.

1.6.9 Canlyniadau rhyng-gysylltiol


1.6.9.1 O dan Reoliadau EIA 2017, rhaid ystyried yr effeithiau arwyddocaol uniongyrchol ac eilaidd sy’n debygol o gael eu hachosi gan y Prosiect. Er enghraifft, gallai effeithiau ar wahân oherwydd sŵn a cholli cynefin achosi canlyniadau i un derbynnydd fel mamaliaid morol, neu effaith sŵn a chanlyniadau gweledol ar bobl sy’n byw gerllaw.

1.6.9.2 Mae’r dull a gyflwynir yn y PEIR wedi’i ddatblygu’n unol â Nodyn Cyngor Dylunio Rochdale yr Arolygiaeth Gynllunio (Nodyn Cyngor Naw) (Yr Arolygiaeth Gynllunio, 2018) sy’n nodi: “Mae rhyng-gysylltiadau’n ystyried effeithiau’r cynnig ar yr un derbynnydd. Mae’r rhain yn digwydd os yw nifer o effeithiau ar wahân (e.e. sŵn ac ansawdd yr aer) yn achosi canlyniadau i un derbynnydd, fel ffawna.”